Cylchlythyr Gwlad 17 Medi 2020

17 Medi 2020

 
 
 
 
 
 

Newyddion

cefngwlad Cymru

Symleiddio Cynllun y Taliad Sylfaenol a’r Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer 2021

Mae ymgynghoriad wedi'i chyhoeddi sy'n cyflwyno cynigion ar gyfer sut y gallwn symleiddio Cynllun Taliad Sylfaenol a chynlluniau datblygu gwledig ar gyfer 2021.
Rhaid i'r ymatebion i'r ymgynghoriad ein cyrraedd erbyn 23 Hydref 2020.

MFA

Newid i weld RPW Ar-lein – Dilysu Aml-ffactor

Fel rhan o Raglen Trawsnewid Porth Llywodraeth y DU cyflwynwyd haen ychwanegol o ddiogelwch, a elwir yn Ddilysu Aml-ffacto, ar 3 Awst 2020 ar gyfer Cwsmeriaid RPW Ar-lein.

Glastir Uwch

Contractau Glastir Uwch

Cynigir estyniadau i ddeiliaid contract Glastir Uwch y disgwylir i'w contract ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. Bydd angen i chi ddarllen y contract gan y gallai gynnwys rhai newidiadau. Bydd gennych 21 diwrnod i dderbyn/gwrthod y cynnig. Bydd angen i chi wirio eich cyfrifon Taliadau Gwledig Ar-lein yn rheolaidd.
Bydd estyniadau contract Glastir - Tir Comin a Glastir Organig hefyd yn cael eu cyhoeddi yr hydref hwn a byddwn yn rhoi manylion maes o law.

Pryfed peillio

Grantiau Bach Glastir – Tirwedd a Pryfed Peillio 2019

Mae gan gwsmeriaid y rhoddwyd contract iddynt ar gyfer y cynllun uchod tan 30 Medi i gyflwyno hawliad. Rhaid cwblhau'r holl eitemau gwaith cyfalaf a amserlennwyd yn y contract a hawlio ar eu gyfer erbyn y dyddiad hwn. Rhaid cyflwyno hawliadau drwy RPW Ar-lein a chynnwys pob ffotograff 'cyn' ac 'ar ôl' Geotagged. Bydd hawliadau hwyr yn cael eu gwrthod.

Llo

Arolwg Amaethyddol a Garddwriaethol 2020

Os ydych wedi cael eich dewis ar gyfer yr arolwg eleni, byddwch wedi derbyn eich ffurflen drwy’r post cyn bo hir. Gallwch lenwi'r arolwg ar-lein hyd 30 Medi.

Defaid

Cofnod Defaid a Geifr 2020

Mae’r cofnod defaid a geifr diweddar ar gael.
Os hoffech gael copi o'r llyfr cofnodion wedi'i argraffu, cysylltwch ag EIDCymru i dderbyn copi trwy'r post.

  • e-bost – cysylltu@eidcymru.org
  • ffôn - 01970 636759
Bae Barafundle

Swydd: Asesydd Dros Dro Diogelu'r Amgylchedd Cymru

Rydym yn ceisio penodi arbenigwr profiadol mewn cyfraith amgylcheddol i oruchwylio y trefniadau interim i ddiogelu’r amgylcheddol yng Nghymru. Bydd Asesydd Interim i Ddiogelu’r Amgylchedd, Cymru yn goruchwylio cwynion sy’n gysylltiedig â chyfraith amgylcheddol yng Nghymru.
Unwaith y byddwn yn cyrraedd diwedd y Cyfnod Pontio ym mis Ionawr, bydd goruchwylio cyfraith amgylcheddol yng Nghymru, gan Gomisiwn yr UE, yn dod i ben.  Bydd y swydd bwysig hon yn galluogi pobl Cymru i barhau i godi pryderon ynghylch, a chydymffurfio â, deddfwriaeth amgylcheddol. Yr hyn sy’n bwysig yw y bydd gwaith yr Asesydd Interim, yn ogystal â pharhau i ddefnyddio pedair egwyddor graidd yr amgylchedd, yn sicrhau ein bod yn ychwanegu at ein safonau amgylcheddol yng Nghymru, sy’n flaenllaw yn fyd-eang.

Baner

Y ffin â'r Undeb Ewropeaidd: mewnforio ac allforio nwyddau

Mae Llywodraeth y DU wedi amlinellu'r prosesau y mae angen i fusnesau eu dilyn er mwyn mewnforio ac allforio nwyddau i Brydain ac oddi yno o'r flwyddyn nesaf. 

Coronafeirws

Datganiad Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ynghylch Coronafeirws (COVID-19)

Mewn ymateb i gyngor gan Lywodraeth y DU ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ynghylch coronafeirws, mae Taliadau Gwledig Cymru wedi cyflwyno rhai newidiadau i rai o’i wasanaethau er mwyn gwarchod iechyd, diogelwch a lles staff a chwsmeriaid yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Bydd y newidiadau hyn yn helpu Taliadau Gwledig Cymru i sicrhau parhad gwasanaethau, cymorth a chyfarwyddyd ynghylch yr holl wahanol gynlluniau, rheolau a rheoliadau y maent yn eu gweinyddu.
Daliwch i edrych ar y wefan am y wybodaeth ddiweddaraf.

Coedwig

Coedwig Genedlaethol i Gymru: gweminar ar-lein ar gyfer ffermwyr a thirfeddianwyr

Mae'r Rhaglen Goedwig Genedlaethol yn dal i fod ar gam cynnar, ac nid yw'r gwaith ar leoliadau penodol wedi dechrau eto. Rydym ar ddechrau ein cyfnod ymgysylltu i ddeall pa ddull y gallem ei gymryd i sicrhau'r manteision mwyaf posibl. Mae angen i'r cynigion a ddatblygwyd ar gyfer y Goedwig Genedlaethol weithio i bawb. Rydym am weithio gyda ffermwyr i drafod sut y gall coetir ar dir fferm gefnogi ein cynlluniau ar gyfer y Goedwig Genedlaethol. Rydym am ddeall yr hyn a fydd, yn eich barn chi, yn gwneud y Goedwig Genedlaethol yn llwyddiant. Mae'r weminar ar-lein wedi'i drefnu ar gyfer 6 Hydref am 8pm.

Gwobrau Dewi Sant

Pwy sydd wedi eich ysbrydoli yn 2020? Pwy ddylai Cymru fod yn falch ohonynt? 

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru ac maent yn cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.
Mae’r coronafeirws wedi cael gymaint o effaith ar ein bywydau ni i gyd eleni ac wrth ddewis y rhai sydd ar y rhestr fer, bydd sylw arbennig yn cael ei roi i unigolion ym mhob categori sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig yn ystod yr argyfwng. Mae categori ‘Gweithiwr Allweddol’ wedi ei gyflwyno eleni hefyd. Mae’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar 15 Hydref 2020.

Hyfforddiant

Cyrsiau hyfforddi a ariennir gan Cyswllt Ffermio

Agorodd y cyfnod ariannu sgiliau ar gyfer cyrsiau hyfforddi a ariannwyd gan Cyswllt Ffermio ar 7 Medi. Bydd y ffenestr yn cau am 5pm dydd Gwener 30 Hydref 2020.
Mae angen i bobl gofrestru gyda Chyswllt Ffermio cyn 5pm dydd Llun 26 Hydref 2020. Hyd yn oed os yw'r busnes wedi'i gofrestru bydd angen i'r unigolyn sy'n gwneud cais am yr hyfforddiant a ariennir gofrestru gydag e-bost unigol. Cysylltwch â 08456 000 813 neu gofrestru ar-lein.
Mae dros 80 o gyrsiau ar gael – pob un yn cael ei ariannu gan hyd at 80%. Mae holl fanylion y cyrsiau ar wefan Cyswllt Ffermio. 

Cyswllt Ffermio

Bacteria diniwed yn helpu i leihau lefelau amonia mewn siediau dofednod ar fferm yng Nghymru

Mae strategaeth sy’n golygu ychwanegu bacteria nad yw’n heintus i amgylchedd ieir ar fferm wyau maes yng Nghymru yn lleihau’r lefelau amonia sy’n gallu effeithio ar iechyd yr adar.

Oen

Fferm yr ucheldir yn cychwyn ar dreialon mewn ymgais i roi’r gorau i ddefnyddio dwysfwyd i besgi ŵyn

Gall wrea wedi’i ddiogelu fod yn adnodd allweddol i leihau allyriadau ffermio glaswelltir ond mae treialon ar fferm dda byw yng Nghymru wedi tynnu sylw at ddiffygion posibl yn ei berfformiad yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych.

Lotteri

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Choetiroedd Cymunedol

Dewch i glywed mwy am raglenni grant amgylcheddol newydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am y broses ymgeisio gan roi cyngor ar faint y gallwch ofyn amdano ac ar beth y gallwch ei wario. Cewch gyfle hefyd i glywed mwy am y prosiectau newydd arloesol yr ydym wedi’u hariannu dros yr haf. Peidiwch â cholli allan, ymunwch ag un o'n sesiynau rhithwir parhaus.

Mochyn daear

Beth i’w wneud os byddwch chi’n dod o hyd i fochyn daear marw

Os dewch o hyd i fochyn daear marw, dylech roi gwybod amdano, gan roi lleoliad y mochyn:

WRN

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
MSBF

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Mae MSBF yn targedu prosiectau yn y sector Twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.

Tractor

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

 Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy 

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCAmgylchFferm

@LIC_Pysgodfeydd