Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN - Baromedr Busnesau Twristiaeth COVID-19; Ymchwil ym maes Twristiaeth; Ymweld â Chymru’n ddiogel dros Wyl y Banc a chynllunio ar gyfer ymweliadau’r hydref; Canllaw Priodasau; Asedau a phecynnau y gall eich busnes eu lawrlwytho; Cadw cofnodion ynghylch staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr: profi, olrhain, diogelu; CThEM – mynnwch y manylion diweddaraf; Aerdymheru ac awyru yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i’r 800 o fusnesau o bob rhan o Gymru gyfrannodd at y Baromedr COVID-19 diweddaraf, a gyhoeddir yr wythnos hon. Er bod y canlyniadau’n dangos ei bod hi wedi yn brysur o ran ymwelwyr yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, bydd angen i bobl barhau i gymryd eu gwyliau gartref dros yr hydref i roi hwb i fusnesau. Mae clywed adborth trwy’r baromedr a thrwy grwpiau fel y 4 fforwm ranbarthol wedi bod yn amhrisiadwy. Mae baromedr twristiaeth llawn 26 Gorff - 6 Awst ar gael ar-lein nawr.
Mae crynodeb o ymchwil diweddar ym maes twristiaeth yng Nghymru a’r DU bellach ar gael. Mae hyn yn cynnwys manylion gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru ynghylch COVID-19 a dolenni i ffynonellau allanol eraill.
Cyn gŵyl y banc, mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Dafydd Elis-Thomas cadarnhau yr angen i ymwelwyr, busnesau a chymunedau gydweithio i gadw Cymru yn ddiogel gan ddweud: “Dim ond drwy i bawb chwarae eu rhan a chymryd cyfrifioldeb personol am ein gweithredoedd allwn ni barhau i fynd i’r afael â’r coronafeirws.”
Yn ei ddatganiad i'r wasg ar 25 Awst, dywedodd y Gweinidog ei bod yn dal yn bwysig i ddenu ymweliadau dros yr hydref: “Er bod gwyl banc olaf yr haf ar fin ein cyrraedd, mae gan Gymru gymaint i’w gynnig yn yr hydref – a bydd cynllunio teithiau dydd a darganfod, mewn modd gyfrifol, beth sydd ar garreg ein drws yn helpu i ymestyn y tymor ac yn cefnogi economi ymwelwyr Cymru.”
Mae dathliadau priodas yn bwysig iawn i lawer o fusnesau. Caniateir cynnal brecwastau priodas ar ôl dyddiad y gwasanaeth cyn belled â’i fod yn cael ei gynnal ar neu ar ôl 22 Awst 2020. Ni chynhwysir te angladd na bedyddiadau yn hyn. Fe welwch y canllawiau diweddaraf i awdurdodau lleol, safleoedd cymeradwy a mannau addoli ar gynnal priodasau a phartneriaethau sifil ar-lein a cheir canllawiau i fannau cynnal priodasau a digwyddiadau priodasol ar asesu'r risgiau.
Rydym yn deall ei bod yn anodd cadw i fyny weithiau â phopeth sydd ar gael. Bydd y dolenni isod yn eich helpu i weld pa adnoddau a phecynnau sydd ar gael i’ch helpu.
-
Pecynnau Darganfod Cymru'n Ddiogel gan gynnwys canllaw i’r diwydiant a phethau i’w lawrlwytho fel posteri i’ch helpu i rannu negeseuon Addo. Hefyd casgliad o luniau sydd wedi’u dewis yn ofalus i dynnu sylw at fannau agored a’r angen i gadw pellter. (os mai dyma’r tro cyntaf ichi ddefnyddio’r safle, bydd angen munud o’ch amser i gofrestru – yn ogystal â’r uchod, mae’n cynnwys llyfrgell anferth o luniau a gwybodaeth am ddim).
-
Cadw Cymru'n Ddiogel yn y Gwaith: Canllaw Cyfreithiol / Canllaw ar gyfer y Gweithle a Phecynnau ac Adnoddau.
- Adnoddau cyffredinol Cadw Cymru'n Ddiogel gan gynnwys posteri i’w lawrlwytho.
- Pecyn ac adnoddau Profi Olrhain Diogelu gan gynnwys cadw cofnodion (gweler yr eitem isod).
Defnyddiwch asedau fel y posteri dwyieithog i'ch helpu i esbonio wrth eich cwsmeriaid pam ei bod yn ofyn cyfreithiol ar bob busnes lletygarwch a lleoliad risg uchel i gasglu manylion cwsmeriaid e.e. enw a rhif ffׅôn, i helpu’r cynllun Profi Olrhain Diogelu rhag ofn y codith y feirws eto.
Nodyn i’ch atgoffa: Mae’n rhaid i’r busnesau neu'r mannau canlynol gasglu a chadw gwybodaeth gyswllt:
- Lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bariau, bwytai a chaffis
- Sinemâu
- Gwasanaethau cysylltiad agos, gan gynnwys siopau trin gwallt a siopau barbwr, gwasanaethau harddwch, gwasanaethau tatŵio, therapyddion chwaraeon a thylino
- Pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, sbâs, a chanolfannau neu gyfleusterau hamdden eraill o dan do.
Mae casglu gwybodaeth gyswllt a’i chadw am 21 diwrnod yn ofyniad cyfreithiol yn yr achosion uchod. Lawrlwythwch a chadwch grynodeb o sut i gadw cofnodion am staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr ar gyfer y prif fannau a dylech eu defnyddio law yn llaw â’r wybodaeth fanwl sydd yng nghanllawiau Llywodraeth Cymrun ar gadw cofnodion am staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr. Mae’r canllawiau’n ymdrin hefyd ag ystyriaethau fel cydymffurfio â GDPR a sut i ateb cwestiynau cwsmeriaid e.e. os bydd cwsmer, ar ôl esbonio’r rhesymau, ddim am rannu ei fanylion a bod dyletswydd arnoch i gasglu’r manylion hynny, ni ddylech ei adael ar y safle.
Mae darparwyr llety yn casglu data ymwelwyr drwy archebion fel arfer. Dylid parhau i gasglu’r wybodaeth hon a’i chadw yn unol â chanllawiau Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru.
Rhestr chwarae COVID-19 HMRC ar YouTube yw’r lle i droi am weminarau byw, a rhai wedi’u recordio, am gyhoeddiadau COVID-19. Mae’r fideos hyn yn crynhoi’r cymorth sydd ar gael er mwyn helpu busnesau, unigolion hunangyflogedig, cyflogwyr a’u gweithwyr i ymdrin ag effaith economaidd COVID-19. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi diweddaru eu canllawiau ar aerdymheru ac awyru yn ystod yr argyfwng coronafeirws. Mae’r canllawiau wedi’u seilio ar y wybodaeth ddiweddaraf ac efallai y byddant yn cael eu diweddaru pan ddaw gwybodaeth newydd i’r fei.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau cyflenwad digonol o awyr iach yn y gweithle a dyw hyn heb newid. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|