Cynllunio Morol - Rhifyn 16

21 Awst 2020

 
 

Croeso

Dyma’r unfed ar bymtheg rhifyn o’n cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf wrth inni weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Gwnaethom gyhoeddi a mabwysiadu'r Cynllun ar 12 Tachwedd 2019. Wrth inni weithredu'r cynllun gyda'r rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, hoffem glywed eich barn chi felly cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. I'r rheini ohonoch sydd heb ddarllen y cylchlythyr hwn o'r blaen, mae fersiynau blaenorol ohono i'w gweld yma. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr.

Prosiect gwynt arnofiol yn cael caniatâd i fynd yn ei flaen

Mae Ystâd y Goron wedi rhoi hawliau gwely’r môr i’r datblygwyr Blue Gem Wind i gynnal prosiect arddangos ynni’r gwynt 96MW â thyrbinau arnofiol.  Dyma’r tro cyntaf i hawliau gael eu rhoi ar gyfer prosiect gwynt arnofiol yng Nghymru, mae’n ddigwyddiad mawr yn hanes sector gwynt y môr yng Nghymru.

c

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ei bod yn croesawu’r cyhoeddiad:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ynni’r môr ers  blynyddoedd lawer. Rwy’n falch o gael croesawu’r cam nesaf hwn yn ein hymdrechion i harneisio potensial ynni’r môr yn unol â Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Byddwn yn parhau i sicrhau bod prosiectau’n dod â swyddi a buddsoddiad cynaliadwy i Gymru gan ein helpu i wireddu’n hymrwymiadau cyfreithiol o ran yr hinsawdd.”

 

Mae’r cyhoeddiad hwn yn dilyn dau ddatblygiad mawr arall ar gyfer gwynt y môr yng Nghymru. Darllenwch ymlaen.

lg

Adnoddau ar-lein i esbonio Cynllunio Morol yn fanylach

Oherwydd yr argyfwng iechyd, nid ydym wedi gallu cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb â’r Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol (APC) fydd yn gyfrifol am roi’r Cynllun ar waith. Rydym felly wedi recordio pum gweminar i esbonio’r broses Cynllunio Morol yn fanylach a sut i roi’r Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar waith.  Daeth yn amlwg o’n sesiynau trafod cynharaf â’r APCau y bydd ganddynt lawer o dimau y bydd angen iddynt ystyried y Cynllun neu wneud penderfyniadau yn ei gylch. Bydd y gweminarau hyn yn adnodd i’r rheini sydd am ddeall CMCC yn well.

CNCC

Mae’r pum gweminar yn ymdrin â:

  • Trosolwg o’r broses Cynllunio Morol a Chynllunio Morol yng Nghymru;
  • Trosolwg o gynnwys CMCC gan gynnwys ei bolisïau;
  • Cynnwys technegol CMCC megis mapiau, canllaw lleoli sectorau, Ardaloedd Adnoddau ac Ardaloedd Adnoddau Strategol;
  • Rhoi CMCC ar waith;
  • Gofynion monitro ac adrodd.

Rydym am ddatblygu rhagor o ddeunydd i helpu rhanddeiliaid, felly os gallwch feddwl am ryw agwedd arall ar y broses Cynllunio Morol y carech ei deall yn well, cysylltwch â’r tîm trwy’r blwch e-bost. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi at restr recordiadau Cynllunio Morol.

Gwneud y Cynllun Morol yn haws ei ddefnyddio

Er mwyn ei gwneud yn haws gweld polisïau ac amcanion Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru, rydym wedi datblygu cynnwys ar wefan Cynllun Morol Cymru. Rydym wedi creu crynodeb o’r un deg un o sectorau y mae CMCC wedi’i rannu iddynt (Agregau, Amddiffyn, Carthu a Gwaredu, Ceblau Tanddwr, Dŵr arwyneb a thrin dŵr, Dyframaethu, Porthladdoedd a Morgludiant, Pysgodfeydd, Twristiaeth a Hamdden, Ynni Carbon Isel ac Ynni – Olew a Nwy) gan gynnwys gwybodaeth gefndir am bob sector, amcanion y sector a pholisïau’r sector.

CYNN

Ymgysylltu

Rydym wedi parhau i ymgysylltu â grwpiau o randdeiliaid allweddol trwy gyfrwng gweminarau.

Mae Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol yn cynnwys yr Ardaloedd Adnoddau Strategol sy’n gorfod defnyddio’r CMCC i allu gwneud penderfyniadau a chawsant rith-gyfarfod ar 3 Gorffennaf. Trafodwyd sut y câi’r cynllun ei roi ar waith a’r canllawiau, y gwaith monitro a Phorthol y Cynllun Morol. Ceir crynodeb o’r cyfarfod yn y fan hon.

Bydd Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol yn gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ gydol y broses cynllunio morol ac yn ein cynghori ar agweddau ar gynllunio morol.  Cyfarfu’r grŵp ar 9 Gorffennaf i ystyried cynllunio gofodol gan gynnwys y canllawiau lleoli sectorau, cydweithio ar draws ffiniau a rhoi’r cynllun ar waith.  Fe welwch grynodeb o’r cyfarfod yn y fan hon.

Cyhoeddi data SMMNR

Rydym yn parhau fesul cam i ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth am amgylchedd y môr fel rhan o’r rhaglen Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol y Môr (SMMNR). Noddir yr SMMNR trwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewropeaidd (EMFF). Cafodd ABPmer eu comisiynu i gasglu a dehongli tystiolaeth amgylcheddol am ynni ffrwd y llanw, ynni’r tonnau ac adnoddau dyframaethu yng Nghymru.

SMMNR

Y llynedd, gwnaethon ni sefydlu Paneli o Arbenigwyr yn cynnwys rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y meysydd hyn i roi cyngor ar gynllunio morol; mae’r Paneli Arbenigwyr wedi cwrdd yn rheolaidd gydol y flwyddyn ddiwethaf ac wedi helpu i ddatblygu pecynnau o dystiolaeth amgylcheddol ar gyfer eu sectorau.

 

Er gwaetha’r tywydd anodd fis Gorffennaf diwethaf, cafodd arolygon amlbelydr eu cynnal ar arfordir gogledd-orllewin Sir Benfro ac arfordir gorllewinol Ynys Môn. Ategwyd data’r arolygon hyn gan arolygon fideo tanddwr i ddarparu darlun eang o nodweddion cynefinoedd benthig yr ardaloedd hyn.

LEE

Rydym bellach wedi cyhoeddi canlyniadau cychwynnol yr arolygon fideo tanddwr.  Bydd y data newydd hyn, ynghyd â’r dystiolaeth berthnasol a gasglwyd fel rhan o’r prosiect sylfaen dystiolaeth am amgylchedd morol Cymru, yn cael eu defnyddio i helpu i asesu’r cyfyngiadau a’r cyfleoedd amgylcheddol i ddatblygu’r sectorau hyn. Darllenwch ymlaen.

F

Ymgorffori cymesuredd yn ein cyngor morol

Mae Lucie Skates o’r tîm Cynllunio Morol wedi ysgrifennu erthygl ar gyfer “Transform”, cylchgrawn y Sefydliad Rheoli ac Asesu Amgylcheddol (IEMA) am waith CNC ar ymgorffori cymesuredd yn ei gyngor morol.  Mae Lucie’n trafod amcan Llywodraeth Cymru i sicrhau canlyniadau cynaliadwy mewn ffordd gyson ac effeithlon sy’n cadw beichiau mor fach â phosibl, gan ddefnyddio CMCC fel catalydd y gwaith hwn. Darllenwch yr erthygl yma

BAY

Diweddariad gan y Gweinidog ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Mae Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi diweddariad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a gallwch ei weld yma.

JULIE

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau.

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddwyd y Cynllun Morol cyntaf ar 12 Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu ein polisi ar gyfer defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/cynllunio-morol

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural