Bwletin Gwaith Ieuenctid – Rhifyn yr Hâf

COVID 19 Rhifyn Arbennig 9 - Awst 20

 
 

Gair gan Gadeirydd y Bwrdd

Cadeirydd y Bwrdd, Keith Towler

Llais Keith

Mae'r broses o lacio'r cyfyngiadau yng Nghymru dros yr wythnosau diwethaf, a'r cyfle i ailgysylltu â theuluoedd a ffrindiau (gan gadw pellter cymdeithasol) wedi bod yn hwb mawr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Hefyd, mae'n gyfle i ni bwyso a mesur effaith y pandemig ar iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc, a chynllunio sut gallwn barhau i'w cefnogi drwy'r argyfwng hwn. 

Mae'r newyddion yn peri pryder mawr. Yn ôl arolwg blynyddol Cymdeithas y Plant o lesiant plant, a gyhoeddwyd ddiwedd y mis diwethaf, nododd bron 1 o bob 5 o blant 10-17 oed yn y DU eu bod yn anhapus â'u bywydau yn gyffredinol adeg y cyfyngiadau symud oherwydd y coronafeirws. Ysgrifennodd grŵp o seicolegwyr plant blaenllaw at bapur newydd The Times ym mis Mehefin i dynnu sylw at y peryglon iechyd meddwl i blant a phobl ifanc oherwydd y cyfyngiadau symud. Er bod y llythyr hwn yn seiliedig ar ysgolion yn ailagor yn Lloegr, roedd yn ein hatgoffa'n glir o effaith yr argyfwng ar ein pobl ifanc.

Fodd bynnag, yng nghanol yr argyfwng hwn, rydym yn parhau i wneud gwahaniaeth. Mae gwaith ieuenctid yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddilyn y pum ffordd at les, hyd yn oed ar adeg o gadw pellter cymdeithasol. Cyhoeddodd papur newydd The Independent erthygl ar 1 Awst yn nodi bod Cymru'n arwain y ffordd wrth gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc ac yn cyfeirio at becyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc Llywodraeth Cymru. Yn fy marn i, roedd y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru yn haeddu'r un sylw. Mae'r erthyglau yn y rhifyn hwn o'r bwletin yn dangos rôl hanfodol Gwaith Ieuenctid wrth gefnogi iechyd meddwl a llesiant ein pobl ifanc. Yn ein strategaeth gwaith ieuenctid, rydym wedi mynegi ein gweledigaeth i sicrhau bod ein pobl ifanc yn ffynnu, a bod cyfleoedd a phrofiadau ar gael iddynt, yn y Gymraeg a'r Saesneg, sy'n rhoi pleser iddynt ac yn cyfoethogi eu datblygiad personol drwy ddulliau gwaith ieuenctid. Trwy roi hwb i hyder a hunan-barch pobl ifanc drwy ddulliau gwaith ieuenctid, byddwn yn helpu i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu.

Yn olaf, wrth i gyfyngiadau gael eu codi a lleoliadau gwaith ieuenctid ledled Cymru naill ai'n ehangu eu darpariaeth bresennol neu'n chwilio am ffyrdd o ail-agor cyfleusterau, rydym yn cyhoeddi canllawiau i'ch helpu gyda'ch ystyriaeth ynglŷn â beth fydd yn eich galluogi i agor yn ddiogel i bobl ifanc a’r holl staff yn eich sefydliad. Mae'r canllawiau wedi cael eu datblygu gan weithio'n agos gyda'r sector ac rydym yn gobeithio y byddent o gymorth i chi.

Mae'n debygol y bydd cadw pellter cymdeithasol efo ni am beth amser, ac wrth i chi ail-agor rhydem yn eich annog i feddwl sut y gallwch annog y bobl ifanc yr ydych yn gweithio efo i rannu negeseuon positif am gadw pellter cymdeithasol i helpu eu diogelu nhw, eu teuluoedd a'u cymuned ehangach.

Wrth i ni symud i'r cam nesaf yn ein hymateb i Covid 19, a gan fod y canllawiau ar waith bellach, rydym wedi penderfynu cyhoeddi'r bwletin yn llai aml. Rydym yn rhagweld y bydd rhifyn nesaf y bwletin yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.

Yn y cyfamser, wrth i chi symud tuag at gynyddu eich gweithrediadau, cadwch yn ddiogel.

Cofion gorau,

Keith

Llais Person Ifanc

Elen

Elen Jones

Yn sicr, mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol i ddweud y lleiaf. Rydwyf wedi gorfod dysgu i addasu a gweithio o adref, yn hytrach na gweithio’n ymarferol fel Prentis Gwaith Ieuenctid.

Fel unigolyn sy’n dioddef o iselder, credaf mai hwn yw’r cyfnod mwyaf heriol yr wyf wedi bod drwyddo hyd yn hyn, o ran ceisio rheoli fy iechyd meddwl. Dros y cyfnod rwyf wedi gorfod dysgu sut i addasu a gweithio o dan amgylchiadau anaddas, yn ogystal â dysgu sut i ofalu am fy hun a’m iechyd meddwl a defnyddio dulliau o ymdopi.

Roedd mynd o weithio dyddiau ac wythnosau llawn dop,  gyda dim un diwrnod yr un fath i weithio o adref yn sioc enbyd i mi. Yr elfen orau o fy swydd yw cael mynd o gwmpas ysgolion yr ardal yn cyfarfod plant a phobl ifanc, yn ogystal ag oedolion newydd a chymdeithasu; rydw i wrth fy modd efo bwrlwm y swydd!

Fel person ifanc iach, mae gennyf gymaint i fod yn ffodus ohono. Felly, hwn yw’r meddylfryd yr wyf wedi’i ddilyn drwy gydol cyfnod y clo, gan gymryd pob dydd yn ei dro a gweithredu’n unol â’r hyn dwi’n deimlo y diwrnod hwnnw.

Drwy gydol y cyfnod clo rydwyf wedi parhau i weithio gan gynnal gweithgareddau megis cwisiau a gweithgareddau ar-lein a hefyd cwblhau fy NVQ. Wrth weithio, rwy’n sicrhau fy mod yn cymryd seibiadau cyson a digon o awyr iach (yn ffodus iawn i mi, rwy’n byw ar fferm).

Rwyf wedi manteisio ar y cyfle i fwynhau byd natur ac awyr iach Cymru gan gerdded yn fy milltir sgwâr a gwneud ymarfer corff hwyliog fel ‘zumba’  (heb roi gormod o straen arnaf fy hun, wrth gwrs) - mae hyn wedi bod yn allweddol i mi er mwyn creu strwythur a chadw fy meddwl yn iach. Yn ogystal, cymdeithasu dros y wê a thrafod fy nheimladau gyda fy ffrindiau a’m teulu.

Y ddau prif beth sy’n fy helpu i ymdopi gyda fy iechyd meddwl sydd wedi bod yn hanfodol drwy’r cyfnod yw blogio a flogio am iechyd meddwl a siarad am yr hyn dwi’n deimlo. Oherwydd hyn, felly, rwy’n ei wneud yn gyson er mwyn ymdopi. Yn ychwanegol, mae fy mlogs a’m flogs ar gael i eraill i’w darllen a’u gwylio (gan obeithio eu bod yn eu helpu nhw hefyd)!

Nawr, rwy’n agosáu at derfyn fy mhrentisiaeth, ac yn sicr mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anhygoel ac yn rhyfedd yr un pryd. Rydwyf wedi cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau a dysgu sut i ofalu am fy lles. Mae’r cymorth llesol gan Yr Urdd wedi bod yn wirioneddol wych drwy’r flwyddyn ac mae’r prentisiaeth wedi fy helpu i ffynnu a datblygu amrywiaeth o sgiliau.

Ffocws Arbennig - Iechyd Meddwl a Llesiant

Rydym yn canolbwyntio ar thema benodol ym mhob bwletin. Yn y rhifyn hwn, mae’r ffocws ar werth Gwaith Ieuenctid i’r agenda gyflogadwyedd a sgiliau.

Inspire

Prosiect Ysbrydoli – Gwaith Ieuenctid mewn Ysbytai

Prosiect gwaith ieuenctid yw Ysbrydoli, ac mae'n cefnogi pobl ifanc 11-18 oed sy'n byw yn Wrecsam a Sir y Fflint ac sy'n amlygu ymddygiad hunan-niweidio. Mae'r prosiect yn gweithio mewn ffordd gyfannol gyda phob person ifanc er mwyn grymuso a hybu ei annibyniaeth.

Mae ymyriadau prosiect Ysbrydoli yn wirfoddol ac maen nhw’n cynnwys hyd at tua 8 sesiwn unigol ar gyfer pob person ifanc, gan ganolbwyntio ar eu nodau dymunol. Cynhelir y sesiynau lle bynnag y mae'r bobl ifanc yn teimlo'n gyfforddus. Mae'r cymorth yn cynnwys helpu'r person ifanc i ddatblygu strategaethau ymdopi gweithredol, cyflwyno gweithgareddau cymdeithasol, gweithgareddau dargyfeiriol, a chymorth gyda thai, cyflogaeth, addysg neu waith gwirfoddol, gan weithio ar y canlynol: datblygu hyder a hunan-barch, hylendid cwsg, perthynas ag eraill, rheoli emosiynau, cysylltiad graddol, er enghraifft i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu archebu diod mewn caffi a sawl maes arall. Hefyd, mae prosiect Ysbrydoli yn darparu cymorth i bobl ifanc ddefnyddio gwasanaethau prif ffrwd fel CAMHS, yn ogystal â'u hatgyfeirio i wasanaethau arbenigol eraill pan fydd angen er mwyn cefnogi eu llesiant.

Yn ogystal, mae prosiect Ysbrydoli yn cynnal gweithgareddau dargyfeiriol a chlwb ieuenctid wythnosol i bobl ifanc a fyddai'n elwa o hyn, gan gynorthwyo'n aml i ddatblygu sgiliau cymdeithasol yn dilyn ymyrraeth un i un. Hefyd, mae'r tîm yn ymweld â wardiau yn Ysbyty Maelor Wrecsam bob dydd, ac yn darparu sesiynau addysg anffurfiol i ysgolion, a grwpiau ieuenctid eraill ar bynciau yn ymwneud ag iechyd a llesiant emosiynol.

Yn ystod y cyfyngiadau symud, mae prosiect Ysbrydoli wedi parhau i ddarparu cymorth unigol i bobl ifanc drwy ddefnyddio Zoom, galwadau ffôn a negeseuon testun yn unol â dewis y person ifanc. Yn ystod y cyfnod hwn, mae prosiect Ysbrydoli wedi cefnogi dros 50 o bobl ifanc, gan lwyddo i'w cynnwys mewn bron i 300 o sesiynau drwy ddefnyddio Zoom a galwadau ffôn. Mae rhagor o gymorth wedi'i ddarparu drwy negeseuon testun hefyd. Mae'r cymorth a ddarparwyd wedi amrywio'n fawr gan ddibynnu ar ddymuniadau pob person ifanc, ond mae rhai enghreifftiau'n cynnwys cymorth i ymdrin â'u hemosiynau, addysg seicoleg yn ymwneud â gorbryder, gwaith hylendid cwsg, cwblhau cynlluniau diogelwch, a chydweithio ag amrywiaeth o wasanaethau eraill i sicrhau bod pob person ifanc yn ddiogel a bod cymorth priodol ar gael. Mae pecynnau llesiant wedi'u darparu i bobl ifanc ac maen nhw’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a syniadau tynnu sylw i'w helpu os ydynt yn teimlo'n isel neu'n meddwl am hunan-niweidio.

Yn ogystal, mae prosiect Ysbrydoli wedi cynnal clwb ieuenctid rhithwir wythnosol dros Zoom, gan ddarparu cymorth a gweithgareddau amrywiol er mwyn helpu pobl ifanc agored i niwed yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae hyn wedi cynnwys gweithgareddau'n seiliedig ar sioeau gêm amrywiol gan gynnwys 'Play Your Cards Right', 'The Generation Game', 'Family Fortunes', cwisiau a llawer mwy.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â inspire@wrexham.gov.uk

Adnoddau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc

Mae adran Cadw'n ddiogel ar-lein HWB yn cefnogi plant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr, ymarferwyr a llywodraethwyr gyda diogelwch ar-lein, seiberddiogelwch a diogelu data, gan ddarparu amrywiaeth eang o adnoddau, canllawiau a dolenni i ffynonellau cymorth eraill. Mae’n cynnwys adnoddau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc, gan gynnwys:

hwb 130 x 130

 

Yng Nghymru – Fy Ngwaith Ieuenctid/Beth Mae Gwaith Ieuenctid yn ei Olygu i Mi

Byddwn yn taflu goleuni ar sefydliad gwaith ieuenctid gwahanol ym mhob rhifyn.

Project Hope

Dywedwch wrthym am eich gwaith a’r heriau sy’n eich wynebu

Mae pandemig byd-eang COVID-19 yn cael effaith ddigynsail ar unigolion a chymunedau. Sylweddolodd Naomi Lea, 21 oed, ein sylfaenydd a chydlynydd y prosiect, y byddai hyn yn cael effaith enfawr ar bobl ifanc: "Yn ystod yr argyfwng hwn, mae unigrwydd wedi bod yn broblem wirioneddol i lawer o bobl ifanc - maen nhw wedi methu â chymdeithasu â ffrindiau wyneb yn wyneb na gwneud y pethau y maen nhw'n eu mwynhau.”

Fe aeth Naomi ati i sefydlu Project Hope gyda 15 o bobl ifanc eraill er mwyn trefnu cyfarfodydd ar-lein ar gyfer pobl 13-25 oed dair gwaith yr wythnos. Nod y prosiect yw mynd i'r afael ag unigrwydd ymysg pobl ifanc trwy greu lle diogel i unigolion ddod at ei gilydd, cyfarfod â phobl newydd a chael hwyl. Felly, mae'r prosiect yn mynd i'r afael ag anghenion pobl ifanc i gysylltu ag eraill yn ystod y cyfnod ansicr a brawychus hwn.

Project Hope 2

Mae llawer o bobl ifanc yn debygol o deimlo'n ynysig ac yn unig iawn yn sgil y ffaith fod ysgolion wedi cau, bod gweithgareddau allgyrsiol wedi'u canslo, a bod gwasanaethau cymunedol wedi'u heffeithio o bosibl gan y pandemig presennol. Mae'n bosibl nad oes ganddynt berthynas agos â'r rhai sy'n byw ar yr aelwyd, ac o ganlyniad maen nhw’n methu siarad â neb na rhannu unrhyw bryderon. Rydym yn gwybod bod unigrwydd a theimlo'n ynysig yn gallu bod yn niweidiol iawn i iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Yn ogystal, gall teimlo'n ynysig effeithio ar ddatblygu sgiliau anwybyddol pobl ifanc, fel hunaneffeithiolrwydd, hyder a chyfathrebu. 

Mae llawer o bobl ifanc wedi arfer bod mewn amgylchedd lle maen nhw wedi'u hamgylchynu gan bobl eraill bob dydd, ac mae gorfod treulio cymaint o amser ar eu pennau eu hunain yn newid sylweddol ac anodd o bosibl. Mae'r prosiect yn ceisio mynd i'r afael â phob un o'r themâu hyn drwy ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol, drwy atgyfeirio pobl ifanc a chynnal sesiynau wythnosol.

Beth sy'n wych am yr hyn rydych chi'n ei wneud a pha wahaniaeth mae'n ei wneud yn eich ardal?

Mae'r prosiect yn gweithredu ar-lein drwy Zoom er mwyn hwyluso sesiynau. Mae'r Prosiect wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl ifanc drwy ddarparu cyfle i gysylltu â chyfoedion ledled y DU, gan roi ymdeimlad o normalrwydd yn ystod y pandemig Covid-19 presennol.

Project Hope 4

Trwy ei mentergarwch a'i gweledigaeth i wneud gwahaniaeth yn ystod y cyfnod digynsail hwn, mae Naomi wedi dwyn ynghyd dîm o bobl ifanc sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth, gan sefydlu prosiect rhagorol sy'n helpu pobl ifanc i gysylltu â'i gilydd. Mae'r Prosiect yn sicrhau bod modd i bobl ifanc gyfathrebu a chysylltu mewn ffordd sydd â rhyw ymdeimlad o normalrwydd, er gwaethaf y cyfnod heriol presennol. Mae Naomi ac eraill sy'n ymwneud â Project Hope wedi dangos bod unrhyw un yn gallu gwneud gwahaniaeth ac arwain y ffordd er mwyn amlygu pwysigrwydd cysylltu â phobl eraill a bod yn gefn iddynt.

Project Hope 3

Mae Project Hope yn darparu tair sesiwn awr a hanner o hyd bob wythnos. Cynhelir y sesiynau hyn bob dydd Llun am 7pm, bob dydd Mercher am 4pm a phob dydd Sadwrn am 7pm. Bob wythnos rydym yn ceisio cynnal sesiwn llesiant, sesiwn rhannu sgiliau a sesiwn hwyl fel cwis.

Ble i gael mwy o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch drwy'r canlynol:

@ylprojecthope

https://twitter.com/ylprojecthope?lang=en-gb  https://www.instagram.com/ylprojecthope/      https://www.instagram.com/ylprojecthope/

Ym Mhedwar Ban Byd

Ym mhob rhifyn, byddwn yn taflu goleuni ar rai o’r gwahanol ddulliau neu weithgareddau gwaith ieuenctid sy’n digwydd y tu hwnt i Gymru

Promo Cymru

ProMo-Cymru a Hafal yw partneriaid Cymru mewn prosiect Mynediad Ieuenctid 5 mlynedd DU gyfan i sicrhau bod pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn arwain y gwaith o weddnewid darpariaeth iechyd meddwl yn y gymuned. Yn y flwyddyn gyntaf, y nod yw cyd-gynhyrchu "galwad i weithredu", gan amlinellu'r ffordd orau o gefnogi anghenion iechyd meddwl pobl ifanc. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch cindy@promo.cymru

IYD2020

Cynhaliwyd Diwrnod Rhyngwladol Ieuenctid ar 12 Roedd thema 2020, "Ymgysylltu â Phobl Ifanc ar gyfer Gweithredu Byd-eang" yn canolbwyntio ar hyrwyddo ymgysylltiad a chyfranogiad ystyrlon gan bobl ifanc ar lefel leol, genedlaethol a byd-eang. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma,

Ydych chi wedi clywed?

Rydym yn neilltuo lle i unigolion a sefydliadau rannu gwybodaeth gyda’u cymheiriaid ym mhob rhifyn.

Papurys

Mae PAPYRUS wedi lansio HOPELINK, platfform digidol unigryw sy'n galluogi'r rhai sy'n cysylltu â HOPLINE UK i weithio gyda chynghorydd i ddatblygu cynllun diogelwch hunanladdiad sydd ar gael iddynt ar-lein 24/7. Gwasanaeth cyfrinachol yw hwn ac nid oes unrhyw fanylion personol yn cael eu cofnodi. Mae HOPELINE UK (0800 068 41 41) yn wasanaeth cyfrinachol di-dâl ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru sydd â meddyliau hunanddinistriol neu bobl o unrhyw oedran sy'n pryderu am berson ifanc https://papyrus-uk.org/help-advice-2/hopelink/

Mae Tîm Dilyniant Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn darparu pecynnau Crefft a Llesiant i helpu pobl ifanc i ymdopi â'r pryder sy'n deillio o ansicrwydd parhaus am y dyfodol. Hefyd, mae'r tîm wedi gweithio'n galed i sicrhau bod pob un o ddarparwyr Sir y Fflint yn cadw mewn cysylltiad drwy gyfarfodydd 'cadw mewn cysylltiad'. 

Flint

Mae'r tîm wedi cefnogi pobl ifanc o bob math, cyn ac ar ôl 16 oed, ar yr adeg anodd hon drwy gydweithio â darparwyr amrywiol, gan gynnwys Art and Soul tribe, Soul School, 11 25 CIC a'r Crew Alliance yn ogystal â llawer o ddarparwyr cenedlaethol eraill fel Ymddiriedolaeth y Tywysog. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag williams@flintshire.gov.uk

Big Ideas

Mae Syniadau Mawr Cymru wedi lansio Her Haf Menter Teulu 2020. Mae'n awyddus i glywed gan bobl ifanc 16 oed ac iau sy'n byw yng Nghymru ac a gafodd syniad gwych yn ystod y cyfyngiadau symud a allai droi'n fusnes, datrys problem neu helpu'r gymuned ryw ddydd! Hefyd, gallai'r bobl ifanc ennill £100 tuag at yr elusen o'u dewis. Mae gwybodaeth am sut i gymryd rhan ar gael yma: bigideas.wales/summerchallenge

WG Green

Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol yw Diogelu Cymru sy'n targedu pobl ifanc rhwng 16-24 oed, i'w hatgoffa bod angen i bob un ohonom gadw pellter cymdeithasol yr haf hwn i gadw ein gilydd yn ddiogel.

Bydd yr ymgyrch yn rhedeg ar draws Tik Tok, Snap Chat, Instagram, Facebook, Twitter, YouTube.

Cymwysterau gwaith ieuenctid JNC. Cafodd y gyfres newydd o gymwysterau gwaith ieuenctid Lefel 2 a Lefel 3, ei ddatblygu’n gyntaf yn 2015, ac wedi cael eu hadnewyddu ac ar gael o 1 Ebrill 2020. Fel o’r blaen, mae’r rhai ar lefel Tystysgrif yn rhoi cydnabyddiaeth Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid JNC a Gweithiwr Cefnogi Ieuenctid Cynorthwyol JNC i’r rhai sy’n eu cwblhau.

Mae’r papur hwn yn cynnwys holl gymwysterau gwaith ieuenctid JNC gyda chanolbwynt penodol ar y cymwysterau ar gyfer Gweithwyr Cefnogi Ieuenctid.

Meic

Byddwch yn Rhan o Daflen Newyddion Gwaith Ieuenctid

E-bostiwch gwaithieuenctid@llyw.cymru os ydych am gyfrannu at y cylchlythyr nesaf. Byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau, ynghyd â gwybodaeth am gyfanswm geiriau erthyglau ar gyfer y gwahanol adrannau. Bydd y cylchlythyr yn cael ei gynhyrchu bob chwarter unwaith eto o fis Hydref 2020.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid?  Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr chwarterol sy’n darparu newyddion diweddaraf, diweddariadau a datblygiadau mewn Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: