Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

7 Awst 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Campfeydd a phyllau nofio yn ailagor; Mwynhau Cymru – yn ddiogelu; Ymchwil ym maes Twristiaeth; Coronafirws (COVID-19) canllawiau ar gyfer ail-agor eich busnes yn ddiogelu; Olrhain Cysylltiadau; Mae bron i 5,000 o fusnesau yng Nghymru yn “Barod Amdani”; “Addo. Fy addewid dros Gymru” – Pecyn cymorth ar gael nawr i’r diwydiant; Ymgyrch #CaruCymruCaruBlas; Cyhoeddi manylion pellach y Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws; Galwad am dystiolaeth ac arolwg o’r Dreth ar Enillion Cyfalaf


Campfeydd a phyllau nofio yn ailagor

Heddiw (dydd Gwener 7 Awst), cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, y bydd pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do a chanolfannau hamdden yn gallu ailagor o ddydd Llun ymlaen.

Bydd ardaloedd chwarae dan do i blant hefyd yn gallu agor eu drysau unwaith eto fel rhan o’r newidiadau diweddaraf i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru. Fodd bynnag, dylai ardaloedd megis pyllau peli nad oes modd eu glanhau yn hawdd barhau ar gau.

Mae Prif Weinidog Cymru yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw i ddilyn y rheolau perthnasol mewn bariau, bwytai a chaffis sydd bellach wedi ailagor ac mewn gweithleoedd.

Dan gyfraith Cymru, mae’n ofynnol bod mesurau yn cael eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y mathau hyn o eiddo. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod pobl yn cadw 2 fetr o bellter rhwng ei gilydd lle bo’n bosibl a chymryd camau eraill i osgoi rhyngweithio agos megis gosod sgriniau neu wisgo gorchuddion wyneb a gwella hylendid. Rhaid darparu gwybodaeth hefyd i gwsmeriaid a staff i’w helpu i ddeall yr hyn y mae’n rhaid iddynt wneud i gadw’n ddiogel yn yr eiddo.

Mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau’r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i orfodi’r gofynion hyn. Mae hyn yn galluogi swyddogion gorfodi i gyflwyno Hysbysiad Gwella Eiddo i dynnu sylw at dor-cyfraith ac i nodi mesurau sydd angen eu cymryd yn yr eiddo i gydymffurfio â’r gyfraith.  Os na chydymffurfir â’r Hysbysiad Gwella Eiddo, neu os oes achos difrifol o dor-cyfraith, gellir cau eiddo drwy gyflwyno Hysbysiad Cau Eiddo. Pan gaiff hysbysiadau eu cyflwyno, bydd arwyddion yn cael eu harddangos mewn man amlwg i roi gwybod i bobl bod angen gwelliant neu y bu gorfod cau eiddo.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.

DS gallwch weld y tabl wedi'i ddiweddaru o ddyddiadau ailagor ar waelod y cylchlythyr hwn.


Mwynhau Cymru – yn ddiogel

Ar drothwy’r penwythnos cyntaf ers i leoliadau lletygarwch dan do ailagor a chan fod disgwyl i’r tywydd fod yn braf mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas, yn awyddus i atgoffa trigolion ac ymwelwyr i fwynhau’r hyn y gall Cymru ei gynnig – ond mewn modd diogel.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Ymchwil ym maes twristiaeth

Mae crynodeb o ymchwil diweddar ym maes twristiaeth yng Nghymru a’r DU bellach ar gael. Mae hyn yn cynnwys manylion gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru ynghylch COVID-19 a dolenni i ffynonellau allanol eraill.


Coronafirws (COVID-19) canllawiau ar gyfer ail-agor eich busnes yn ddiogel

Mae Canllawiau ar Economi Ymwelwyr ar gael i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i ail-agor yn ystod pandemig coronafirws (COVID-19).

Cynhyrchwyd a diweddarwyd canllawiau ychwanegol mewn ymgynghoriad â'r sector lletygarwch ar gyfer tafarndai, bariau, caffis a bwytai sy'n ailagor tu-mewn ac yn yr awyr agored,  gellir eu gweld ar wefan UK Hospitality.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel. Mae rhestr o gwestiynau cyffredin sy’n ymwneud â coronafeirws yn cael ei diweddaru'n rheolaidd hefyd ar gwefan Llyw.Cymru - cofiwch edrych yn ôl yn rheolaidd. Mae canllawiau hefyd ar gael i sicrhau bod camau ymbellhau cymdeithasol a chorfforol yn cael eu dilyn bob amser.

Hefyd, mae enghreifftiau ac adnoddau fel rhan o'r “Diogelu Cymru yn y Gweithle: Ailgychwyn ac ail-agor busnes” ar gael ar ar wefan Busnes Cymru.   


Olrhain Cysylltiadau

Bydd strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn allweddol wrth atal achosion newydd o’r clefyd, wrth i’r cyfyngiadau symud lacio.  Wrth i bobl ddod i gysylltiad â mwy a mwy o bobl, mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 mewn rhai sectorau’n uwch. Mae hyn oherwydd y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio mwy o amser ar y safleoedd hynny nag mewn mannau eraill, ac mae’n bosibl y byddant yn dod i gysylltiad agos â phobl y tu allan i’w haelwyd.

Mae canllawiau polisi newydd bellach wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wythnos ddiwethaf ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yn y sectorau hyn. Mae’r rhain yn disgrifio’r rôl bwysig mae’r busnesau hyn yn ei chwarae yn y gwaith o olrhain cysylltiadau a diogelu Cymru ac mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd os fydd cwsmer neu aelod staff yn dangos symptomau neu yn profi’n bositif am COVID19.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Profi, Olrhain, Diogelu: eich cwestiynau.


Mae bron i 5,000 o fusnesau yng Nghymru yn “Barod Amdani”

Mae safon y diwydiant "Barod Amdani" yn gynllun hunan asesu am ddim sydd wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â'r sefydliadau cenedlaethol (Croeso Cymru, Tourism Northern Ireland, VisitScotland a VisitEngland) er mwyn rhoi sicrwydd i bob sector o'r diwydiant twristiaeth, yn ogystal â sicrwydd i ymwelwyr, bod gan fusnesau brosesau clir ar waith a'u bod yn dilyn canllawiau gan y diwydiant a'r Llywodraeth ynghylch COVID-19.

Mae cynrychiolaeth o bob sector ar hyn o bryd, o ddarparwyr llety i dywyswyr teithiau, atyniadau, darparwyr gweithgareddau a busnesau lletygarwch – os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch ati yn awr. Mae’n broses syml a bydd yn galluogi eich busnes i ddefnyddio’r safon er mwyn ennyn hyder defnyddwyr. Mae’r cynllun yn cael ei ddefnyddio ar draws y DU a bydd darpar ymwelwyr yn chwilio am leoliadau a gwasanaethau sy’n cymryd rhan yn y cynllun.

Bydd yn parhau’n rhan allweddol o neges Croeso Cymru i ddefnyddwyr ac o’r wythnos hon ymlaen bydd defnyddwyr CroesoCymru.com yn gallu chwilio am yr holl gynhyrchion drwy opsiwn hidlo newydd “Barod Amdani”.


“Addo. Fy addewid dros Gymru” – Pecyn cymorth ar gael nawr i’r diwydiant

Ein prif neges wrth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddechrau agor eto yw: ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.’ sy’n cynnwys yr addewid ein bod yn annog pawb sy’n teithio o amgylch Cymru i gefnogi, i wneud y pethau bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. I wneud addewid gyda’n gilydd i ofalu am ein gilydd, am ein gwlad ac am ein cymunedau wrth i ni ddechrau darganfod Cymru unwaith eto. Gellir llofnodi’r addewid yma yn: croeso.cymru/addo.

Mae ein pecyn cymorth defnyddiol yn awr ar gael i’w wneud hyd yn oed yn haws ichi gymryd rhan a gofynnwn ichi barhau i rannu eich addewidion gyda ni yn y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Addo #DiogeluCymru


Ymgyrch #CaruCymruCaruBlas

Mae'r ymgyrch #CaruCymruCaruBlas wedi'i anelu at annog Defnyddwyr i gefnogi'r sector lletygarwch, cynhyrchwyr a manwerthwyr Cymreig drwy brynu bwyd a diod o Gymru.  Mae nifer o fusnesau wedi dangos dyfeisgarwch a hyblygrwydd yn ystod y pandemig, ac mae'r ymgyrch wedi'i ddylunio i ddiolch i bawb a chwaraeodd ran, yn ogystal ag annog defnyddwyr i gefnogi'r sector lletygarwch nawr wrth i ragor o gyfyngiadau gael eu codi. 

Lansiwyd yr ymgyrch ar 3 Gorffennaf 2020 gyda 'Diwrnod Dathlu Bwyd a Diod Cymru', sy'n cynnwys pob rhan o'r gadwyn gyflenwi, gan ddarparu cyfle i bobl ddiolch i'r rheiny sydd wedi bod yn gweithio i fwydo'r genedl yn ystod pandemig y coronafeirws.   

Cynhelir yr ail ddiwrnod dathlu dydd Gwener 7 Awst 2020 a byddwn yn dathlu'r sector lletygarwch a'r sector bwyd a diod yng Nghymru.  Mae'r ymgyrch yn gyfan gwbl ddigidol ac yn anelu at orlwytho'r cyfryngau cymdeithasol gyda'r hashnod #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste.

I'ch helpu i gymryd rhan lawn yn y Diwrnod Dathlu, mae cyfres o fframiau calon digidol ar gyfer eich lluniau, i'w hychwanegu at eich postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.  Gallwch lawrlwytho’r pecyn digidol o wefan Busnes Cymru.


Cyhoeddi manylion pellach y Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Gall cyflogwyr hawlio’r Bonws Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws i bob gweithiwr cymwys sydd wedi bod ar ffyrlo.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Galwad am dystiolaeth ac arolwg o’r Dreth ar Enillion Cyfalaf

Mae’r Swyddfa Symleiddio Treth (OTS) wedi cyhoeddi arolwg ar-lein a galwad am dystiolaeth i geisio barn ar y Dreth ar Enillion.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Tabl wedi'i ddiweddaru o ddyddiadau ailagor:

6 Gorffennaf 2020

 

Atyniadau awyr agored i ymwelwyr wedi Ail-agor

Ar 6 Gorffennaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi'r gofyniad i aros yn lleol gan ganiatáu i bobl deithio o amgylch Cymru ac i ymweld ag atyniadau ymwelwyr awyr agored, yn amodol ar ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym..

11 Gorffennaf 2020

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llety gwyliau hunangynhwysol wedi Ail-agor

Dim ond i aelodau o'r un aelwyd neu aelwydydd estynedig y gellir gosod llety hunan-ddarpar.

Mae hyn hefyd yn cynnwys llety â gwasanaeth lle gellir gosod defnydd ystafelloedd gwely yn unig i'r un cartref neu aelwyd estynedig ac nid, er enghraifft, ffrindiau yn archebu ystafell wely ddwbl neu ystafell wely i'r teulu, ac ati.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw lety sy’n gwbl  hunangynhwysol, e.e. bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol, cartrefi modur modern, cychod a rhywfaint o letyau glampio sydd â’u ceginau a’u hystafelloedd ymolchi eu hun na fyddant yn cael eu defnyddio gan westeion eraill.

Hefyd yn y categori hwn mae:

  • Gwestai a lletyau â gwasanaeth eraill (e.e. lletyau gwely a brecwast, hosteli ayyb) sy’n darparu ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu darparu prydau bwyd drwy wasanaeth ystafell.
  • Parciau carafanau lle y mae’r lletyau yn gwbl hunan-gynhaliol – ond bydd y cyfleusterau a rennir ar y safle yn dal i fod ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cyfleusterau cawod a thoiledau a rennir, cyfleusterau a rennir ar gyfer golchi dillad ayyb, ac ardaloedd cyhoeddus mewn mathau eraill o lety. Mae hyn yn golygu unrhyw safle carafanau neu garafanau teithiol lle y mae gan bob llety ei gyflenwad ei hun o ddŵr ar gyfer cawod, toiled a choginio gan gydymffurfio â’r canllawiau caeth ar fannau gwaredu gwastraff a dŵr a rennir.

Dylai pob cyfleuster a rennir, ac eithrio mannau dŵr a gwaredu, aros ar gau gan gynnwys blociau toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, bwytai, clybiau nos, tafarnai, caffis, etc.

13 Gorffennaf 2020

Tafarndai, bariau, caffis a bwytai wedi ailagor tu allan Atyniadau ymwelwyr dan do

25 Gorffennaf 2020

 

 

Gwersylla a charafanio a mathau eraill o lety (e.e. hosteli) gyda chyfleusterau a rennir (e.e. toiledau a rennir, ystafelloedd ymolchi, blociau cawod, mannau golchi llestri a chyfleusterau golchi dillad) yn ail-agor.

* Ceginau a rennir - hyd nes bydd canllawiau pellach wedi'u cynhyrchu, ein cyngor yw i weithredwyr gyda mannau cegin a rennir yw cau'r mannau hyn i grwpiau, oni bai bod y llety wedi'i feddiannu gan yr un teulu neu aelwyd estynedig y cytunwyd arni.

3 Awst 2020

Lletygarwch dan do (tafarndai, bariau, caffis a bwytai) yn Ail-agor

Mae lonydd bowlio-deg, neuaddau bingo a Thai arwerthu yn agor

10 Awst 2020

 

Mae ardaloedd chwarae dan do, pyllau nofio, canolfannau hamdden, canolfannau ffitrwydd dan do a champfeydd yn paratoi ar gyfer ail-agor.

Edrychwch yn ôl yn ddiweddarach am fwy o wybodaeth.

I'w gadarnhau

Digwyddiadau dan ystyriaeth

Edrychwch yn ôl yn ddiweddarach am fwy o wybodaeth.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram