Gwybodaeth, Cyngor, Arweiniad #Covid19

Cael trafferth gweld yr e-bost hwn? Darllenwch yn eich porwr

Busnes Cymru

31 Gorffennaf 2020


Cyllid | Dechrau a Chynllunio Busnes | Marchnata | Sgiliau a Hyfforddiant | Syniadau Busnes | TG


£40m hyfforddiant

Newidiadau pellach i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru

Cyhoeddi camau pellach i ddod â Chymru allan o’r cyfnod cloi yn ddiogel. Bydd tafarndai, bariau, bwytai a chaffis yn cael ailagor dan do o ddydd Llun ymlaen, a hefyd lawntiau bowlio dan do, tai ocsiwn a neuaddau bingo.

Canfod mwy yma...


£40m hyfforddiant

£40miliwn i gefnogi cyflogaeth a hyfforddiant yng Nghymru

I ysgogi cyflogwyr i recriwtio a chadw prentisiaid, cynyddu capasiti rhaglenni hyfforddeiaeth a chefnogi mwy o raddedigion i fanteisio ar brofiad gwaith, sesiynau blasu a lleoliadau gwaith â thâl.

Canfod mwy yma...


Clybiau Plant Cymru

Clybiau Plant Cymru – cefnogi busnesau gofal plant allan o’r ysgol

Mae cymorth ar gael i helpu lleoliadau gofal plant gyda'u cynlluniau i ail-agor gyda gweminarau rhwydwaith, adnoddau, canllawiau a hyfforddiant.

Canfod mwy yma...


Cynllun bwyta allan

Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan – gwybodaeth bellach i fusnesau

Rhagor o gymorth gyda chofrestru, cymhwysedd a sut i gynnig y gostyngiad ar gyfer cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’.

Canfod mwy yma...


Gwobr y Frenhines

Gwobr y Frenhines am Fenter 2020

Gwnewch gais nawr i gael cydnabyddiaeth fyd-eang, gwerth masnachol uwch, mwy o sylw yn y wasg a gwella morâl y staff.

Canfod mwy yma...


Strategaeth ffiniau

Strategaeth Ffiniau 2050 Llywodraeth y DU – dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar sut y gall systemau digidol newydd wella profiad masnachwyr a theithwyr a gwneud y DU yn lle mwy diogel.

Canfod mwy yma...


Cillid ar gyfer celfyddau

Cyllid ar gyfer y Celfyddydau: Grantiau Ymateb ac Ail-ddychmygu

Mae’r grantiau’n cynnig cyllid o rhwng £10,000 a £50,000 i addasu ac ail-ddychmygu ffyrdd o weithio yn y tymor hirach.

Canfod mwy yma...


Plastig a masgiau

Lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau plastig untro yng Nghymru

Mae eisiau eich barn ar sut y gallwn gydweithio i fynd i'r afael â sbwriel a lleihau ein dibyniaeth ar blastig untro.

Canfod mwy yma...



Hoffwch ni ar Facebook

Dilynwch ni ar Twitter


Dilynwch ni ar Instagram

Dilynwch ein tudalen LinkedIn