Bwletin newyddion: Teulu a ffrindiau yn ganolog i’r rheoliadau coronafeirws newydd yng Nghymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu,  edrychwch arno ar-lein.   

31 Gorffennaf 2020


cu

Teulu a ffrindiau yn ganolog i’r rheoliadau coronafeirws newydd yng Nghymru

Daw rheolau newydd i rym ddydd Llun i’w gwneud yn haws i deulu a ffrindiau gwrdd yn yr awyr agored. Dyna oedd cyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw wrth iddo amlinellu newidiadau pellach i’r rheoliadau coronafeirws yng Nghymru.

Daw’r pecyn diweddaraf o newidiadau yn dilyn chweched adolygiad y rheoliadau coronafeirws ac maent yn canolbwyntio ar alluogi ffrindiau a theulu i gwrdd yn yr awyr agored a galluogi mwy o fusnesau i agor dan do.

Bydd y Prif Weinidog yn egluro bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn nifer y bobl sy'n gallu cwrdd y tu mewn, ond bydd hyn yn dibynnu ar bobl yn parhau i ddilyn rheolau a lefelau coronafeirws yng Nghymru.

Bydd hefyd yn annog pobl i ddilyn y rheolau a chanllawiau newydd i helpu i ddiogelu Cymru a rheoli lledaeniad coronafeirws yn dilyn tueddiadau gofidus ar draws Ewrop.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rydym yn dod i arfer â byw ochr yn ochr â coronafeirws ond ni ddylem anghofio’r perygl a ddaw yn ei sgil. Mae’n haint angheuol ac nid yw’r risg i’n hiechyd wedi diflannu – fel y gwelwn mewn rhannau o Ewrop lle bu achosion newydd a lle cyflwynwyd mesurau newydd i reoli ei ledaeniad.

Mae cyfraddau’r feirws yng Nghymru yn dal i fod yn isel, gan ein galluogi i lacio’r cyfyngiadau ymhellach dros yr wythnosau nesaf. Ond dim ond os yw pawb yn dal i gymryd camau i ddiogelu eu hunain a’r rhai sy’n agos atynt y gallwn wneud hyn.

Mae’n rhaid i fusnesau gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ledaenu’r feirws yn eu heiddo. Maent wedi gweithio’n galed iawn i roi mesurau ar waith i ddiogelu staff a chwsmeriaid. Ac mae’n rhaid i bob un ohonom wneud ein rhan hefyd drwy gydymffurfio â’r rhain a chadw pellter pan fyddwn ni’n gadael ein cartref ac yn cwrdd ag eraill.

O ran y lleiafrif bychan sydd ddim yn dilyn y rheolau – byddwn yn gweithredu. Rydym yn gweithio gyda’n hawdurdodau gorfodi yma yng Nghymru i sicrhau bod ganddynt y pwerau a’r adnoddau angenrheidiol. Rwyf eisiau gwneud yn siŵr y cedwir at yr holl fesurau sydd wedi’u datblygu i’n diogelu ni.”

Gwneir cyfres o newidiadau i’r rheoliadau coronafeirws dros y tair wythnos nesaf:

O 3 Awst:

  • Bydd y cyfyngiadau sy’n atal mwy na dwy aelwyd neu ddwy aelwyd estynedig rhag cwrdd yn yr awyr agored yn newid i ganiatáu i hyd at 30 o bobl gwrdd yn yr awyr agored. Rhaid cadw pellter corfforol bob amser.
  • Caiff tafarndai, bariau, bwytai a chaffis ailagor dan do, yn ogystal ag aleau bowlio, ystafelloedd ocsiwn a neuaddau bingo dan do.
  • Caiff lleoliadau priodas trwyddedig ailagor i gynnal seremonïau priodas hefyd. Ond ni chaniateir cynnal derbyniadau dan do ar hyn o bryd – bydd y rhain yn cael eu hystyried fel rhan o’r newidiadau ar 15 Awst.
  • Bydd y canllawiau’n cael eu diweddaru i lacio’r gofyniad i blant o dan 11 oed orfod cadw pellter oddi wrth ei gilydd ac oddi wrth oedolion. Mae hyn yn cyd-fynd â’r dystiolaeth wyddonol sy’n dangos bod y risg o drosglwyddo’r haint yn is yn y grŵp oedran hwn. Ond mae’n bwysig iawn bod plant hŷn ac oedolion ifanc yn dal i gadw pellter cymdeithasol a chadw at y mesurau eraill i’w cadw yn ddiogel.

Os yw’r amodau’n dal i fod yn ffafriol, o 10 Awst:

  • Caiff pyllau nofio, ystafelloedd ffitrwydd dan do, campfeydd, sbas a chanolfannau hamdden dan do ailagor.
  • Caiff ardaloedd chwarae dan do i blant ailagor.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried a yw’n bosibl gwneud newidiadau i’r rheolau sy’n galluogi pobl i gwrdd dan do gyda phobl eraill nad ydynt yn rhan o’u haelwyd neu aelwyd estynedig o 15 Awst.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Diolch i ymdrechion pawb yng Nghymru rydym wedi gallu rheoli lledaeniad y feirws a llacio’r cyfyngiadau. Dim ond os yw pawb yn dal ati gyda’r gwaith caled hwn y gallwn barhau i’w llacio.

Os byddwn yn rhoi’r gorau iddi yn awr, mae perygl gwirioneddol y gwelwn ni achosion newydd o coronafeirws ac efallai y bydd rhaid inni roi rhai o’r cyfyngiadau ar waith unwaith eto i reoli ei ledaeniad.

Rydym yn wynebu’r tebygolrwydd y bydd cynnydd pellach mewn achosion o’r feirws dros yr hydref a’r gaeaf – ni fydd hyn drosodd erbyn y Nadolig. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddal i ddiogelu Cymru. Mae hyn yn cynnwys cadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo yn aml ac ystyried yn ofalus lle yr ydym yn mynd, beth yr ydym yn ei wneud a pham.”


 

Mae’r cynigion cyfredol yn yr adolygiad diwethaf ar 31 Gorffennaf, sy’n gallu newid, yn rhagweld ailagor yr economi ymwelwyr fel a ganlyn:

6 Gorffennaf 2020

 

Atyniadau awyr agored i ymwelwyr wedi Ail-agor

Ar 6 Gorffennaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi'r gofyniad i aros yn lleol gan ganiatáu i bobl deithio o amgylch Cymru ac i ymweld ag atyniadau ymwelwyr awyr agored, yn amodol ar ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym.

11 Gorffennaf 2020

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llety gwyliau hunangynhwysol wedi Ail-agor

Dim ond i aelodau o'r un aelwyd neu aelwydydd estynedig y gellir gosod llety hunan-ddarpar.

Mae hyn hefyd yn cynnwys llety â gwasanaeth lle gellir gosod defnydd ystafelloedd gwely yn unig i'r un cartref neu aelwyd estynedig ac nid, er enghraifft, ffrindiau yn archebu ystafell wely ddwbl neu ystafell wely i'r teulu, ac ati.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw lety sy’n gwbl  hunangynhwysol, e.e. bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol, cartrefi modur modern, cychod a rhywfaint o letyau glampio sydd â’u ceginau a’u hystafelloedd ymolchi eu hun na fyddant yn cael eu defnyddio gan westeion eraill.

Hefyd yn y categori hwn mae:

·       Gwestai a lletyau â gwasanaeth eraill (e.e. lletyau gwely a brecwast, hosteli ayyb) sy’n darparu ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu darparu prydau bwyd drwy wasanaeth ystafell.

·       Parciau carafanau lle y mae’r lletyau yn gwbl hunan-gynhaliol – ond bydd y cyfleusterau a rennir ar y safle yn dal i fod ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cyfleusterau cawod a thoiledau a rennir, cyfleusterau a rennir ar gyfer golchi dillad ayyb, ac ardaloedd cyhoeddus mewn mathau eraill o lety. Mae hyn yn golygu unrhyw safle carafanau neu garafanau teithiol lle y mae gan bob llety ei gyflenwad ei hun o ddŵr ar gyfer cawod, toiled a choginio gan gydymffurfio â’r canllawiau caeth ar fannau gwaredu gwastraff a dŵr a rennir.

Dylai pob cyfleuster a rennir, ac eithrio mannau dŵr a gwaredu, aros ar gau gan gynnwys blociau toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, bwytai, clybiau nos, tafarnai, caffis, etc.

13 Gorffennaf 2020

Tafarndai, bariau, caffis a bwytai wedi ailagor tu allan Atyniadau ymwelwyr dan do

25 Gorffennaf 2020

 

 

Gwersylla a charafanio a mathau eraill o lety (e.e. hosteli) gyda chyfleusterau a rennir (e.e. toiledau a rennir, ystafelloedd ymolchi, blociau cawod, mannau golchi llestri a chyfleusterau golchi dillad) yn ail-agor.

* Ceginau a rennir - hyd nes bydd canllawiau pellach wedi'u cynhyrchu, ein cyngor yw i weithredwyr gyda mannau cegin a rennir yw cau'r mannau hyn i grwpiau, oni bai bod y llety wedi'i feddiannu gan yr un teulu neu aelwyd estynedig y cytunwyd arni.

3 Awst 2020

Lletygarwch dan do (tafarndai, bariau, caffis a bwytai) yn Ail-agor

Mae lonydd bowlio-deg, neuaddau bingo a Thai arwerthu yn agor

10 Awst 2020

 

Mae ardaloedd chwarae dan do, pyllau nofio, canolfannau hamdden, canolfannau ffitrwydd dan do a champfeydd yn paratoi ar gyfer ail-agor.

Edrychwch yn ôl yn ddiweddarach am fwy o wybodaeth.

I'w gadarnhau

Digwyddiadau dan ystyriaeth

Edrychwch yn ôl yn ddiweddarach am fwy o wybodaeth.

 


hospitality

Coronafirws (COVID-19) canllawiau ar gyfer ail-agor eich busnes yn ddiogel

Mae Canllawiau ar Economi Ymwelwyr ar gael i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i ail-agor yn ystod pandemig coronafirws (COVID-19).

Cynhyrchwyd a diweddarwyd canllawiau ychwanegol mewn ymgynghoriad â'r sector lletygarwch ar gyfer tafarndai, bariau, caffis a bwytai sy'n ailagor tu-mewn ac yn yr awyr agored,  gellir eu gweld ar wefan UK Hospitality.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Mae rhestr o gwestiynau cyffredin sy’n ymwneud â coronafeirws yn cael ei diweddaru'n rheolaidd hefyd ar gwefan Llyw.Cymru - cofiwch edrych yn ôl yn rheolaidd.

Mae canllawiau hefyd ar gael i sicrhau bod camau ymbellhau cymdeithasol a chorfforol yn cael eu dilyn bob amser.


Olrhain Cysylltiadau

Bydd strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn allweddol wrth atal achosion newydd o’r clefyd, wrth i’r cyfyngiadau symud lacio.  Wrth i bobl ddod i gysylltiad â mwy a mwy o bobl, mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 mewn rhai sectorau’n uwch. Mae hyn oherwydd y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio mwy o amser ar y safleoedd hynny nag mewn mannau eraill, ac mae’n bosibl y byddant yn dod i gysylltiad agos â phobl y tu allan i’w haelwyd.

Mae canllawiau polisi newydd bellach wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wythnos ddiwethaf ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yn y sectorau hyn. Mae’r rhain yn disgrifio’r rôl bwysig mae’r busnesau hyn yn ei chwarae yn y gwaith o olrhain cysylltiadau a diogelu Cymru ac mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd os fydd cwsmer neu aelod staff yn dangos symptomau neu yn profi’n bositif am COVID19.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram