Bwletin newyddion: Llacio cyfyngiadau coronafeirws Cymru ymhellach

Newyddion diwydiant
Croeso Cymru

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

 

24 Gorffennaf 2020


cu

Llacio cyfyngiadau coronafeirws Cymru ymhellach

Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd sinemâu, amgueddfeydd a salonau harddwch yn gallu ailagor o ddydd Llun, wrth i gyfyngiadau coronafeirws Cymru barhau i gael eu llacio.

Bydd modd i lety gwyliau sydd â chyfleusterau a rennir, megis meysydd pebyll, ailagor o ddydd Sadwrn (25 Gorffennaf) ymlaen, ynghyd ag atyniadau tanddaearol. Dyma nodi carreg filltir bwysig gan y bydd atyniadau Cymru i ymwelwyr yn ailagor yn llawn.

Hefyd, bydd rheolau newydd sy’n ei gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, yn dod i rym ddydd Llun (27 Gorffennaf).

Dyma’r cam diweddaraf yn y broses o ailagor sectorau lletygarwch, hamdden a manwerthu Cymru yn raddol. Yn ogystal â salonau harddwch, parlyrau ewinedd, siopau tatwio, sinemâu, arcedau difyrion, amgueddfeydd ac orielau, bydd y rheoliadau coronafeirws hefyd yn cael eu diwygio i ganiatáu i’r farchnad dai ailagor yn llawn.

Ond er bod dileu’r cyfyngiadau yn caniatáu i’r holl fusnesau hyn ailagor, nid yw’n gwneud yn ofynnol iddynt wneud hynny.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

Diolch i ymdrechion pob un ohonon ni i leihau lledaeniad y feirws, rydyn ni’n cymryd camau pellach i ailagor rhagor o Gymru.

Mae ein busnesau manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth yn chwarae rhan mor bwysig yn ein heconomi, a bydd rhagor ohonyn nhw’n dechrau croesawu cwsmeriaid a gwesteion yn ôl o yfory ymlaen.

Wrth i ragor o lefydd ddechrau ailagor, rhaid inni ddod i arfer ag ambell i newid i’n diogelu ein hunain a’r bobl sy’n gweithio yn y busnesau hyn. Gallai hyn olygu gorfod cadw lle ymlaen llaw neu roi ein manylion i’r llefydd rydyn ni’n ymweld â nhw, er mwyn cefnogi ein gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu, rhag ofn y daw achosion o’r coronafeirws i’r amlwg.

Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonon ni i gadw at y rheolau newydd hyn fel y gallwn ni ddiogelu ein hunain a’n hanwyliaid.

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Ond os byddwn ni i gyd yn cydweithio, gallwn ni ddiogelu Cymru.

Bydd yr adolygiad ffurfiol nesaf o’r rheoliadau yn cael ei gynnal erbyn 30 Gorffennaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys yr opsiynau ar gyfer agor tafarndai, bariau, caffis a bwytai dan do o 3 Awst, yn amodol ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd a llwyddiant y broses o ailagor lletygarwch yn yr awyr agored. O fewn y cyd-destun hwnnw mae rhai pwyntiau allweddol i’w cofio a’u rhannu’n eang:

hospitality

Ailagor lletyau sydd â chyfleusterau cysylltiedig a rennir

O 25 Gorffennaf ymlaen, fel y cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, bydd safleoedd carafan a gwersylla â chyfleusterau a rennir (ee toiledau, ystafelloedd ymolchi, blociau cawodydd, ceginau, cyfleusterau golchi llestri a golchi dillad) yn gallu ailagor.

Bydd llacio’r cyfyngiadau ar gyfleusterau a rennir yn galluogi hosteli a lletyau ar ffurf hostel, gwestai a lletyau eraill â gwasanaeth i osod ystafelloedd heb en-suite, yn ogystal â rhai sydd ag en-suite, ond dim ond i aelodau o’r un aelwyd neu’r aelwyd estynedig.

Ar hyn o bryd, dim ond yn yr awyr agored y mae bariau, bwytai a chaffis yn gallu agos, ond mae darparwyr llety yn gallu gweini bwyd a diodydd i ystafelloedd gwely, gan wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â’r mesurau cadw pellter cymdeithasol a chorfforol bob amser.

Ni fydd lletyau sydd â mannau cysgu a rennir (ee ystafelloedd cysgu) ar agor i unrhyw grwpiau, heblaw am y rheini sy’n teithio yn unol â chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru ar aelwydydd neu aelwydydd estynedig cytunedig.

Mae canllawiau manwl wedi’u llunio ar gyfer y diwydiant i helpu busnesau twristiaeth i roi protocolau cadw pellter yn eu lle yn barod i ailagor cyfleusterau a rennir a chael asesiadau risg yn eu lle ar gyfer glanhau cawodydd a thoiledau a rennir.

Ceginau a rennir

Hyd nes bod canllawiau pellach wedi’u llunio, ein cyngor i weithredwyr sydd â cheginau a rennir yw cau’r ardaloedd hynny i grwpiau oni bai bod y llety yn cael ei ddefnyddio gan yr un aelwyd neu aelwyd estynedig gytunedig yn unig.


 

6 Gorffennaf 2020

 

 

Atyniadau awyr agored i ymwelwyr wedi Ail-agor

 

Ar 6 Gorffennaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru godi'r gofyniad i aros yn lleol gan ganiatáu i bobl deithio o amgylch Cymru ac i ymweld ag atyniadau ymwelwyr awyr agored, yn amodol ar ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo llym.

11 Gorffennaf 2020

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llety gwyliau hunangynhwysol wedi Ail-agor

Dim ond i aelodau o'r un aelwyd neu aelwydydd estynedig y gellir gosod llety hunan-ddarpar.

Mae hyn hefyd yn cynnwys llety â gwasanaeth lle gellir gosod defnydd ystafelloedd gwely yn unig i'r un cartref neu aelwyd estynedig ac nid, er enghraifft, ffrindiau yn archebu ystafell wely ddwbl neu ystafell wely i'r teulu, ac ati.

Mae hyn yn cynnwys unrhyw lety sy’n gwbl  hunangynhwysol, e.e. bythynnod gwyliau, carafanau gwyliau gan gynnwys carafanau teithiol, cartrefi modur modern, cychod a rhywfaint o letyau glampio sydd â’u ceginau a’u hystafelloedd ymolchi eu hun na fyddant yn cael eu defnyddio gan westeion eraill.

Hefyd yn y categori hwn mae:

  • Gwestai a lletyau â gwasanaeth eraill (e.e. lletyau gwely a brecwast, hosteli ayyb) sy’n darparu ystafelloedd en-suite ac sy’n gallu darparu prydau bwyd drwy wasanaeth ystafell.
  • Parciau carafanau lle y mae’r lletyau yn gwbl hunan-gynhaliol – ond bydd y cyfleusterau a rennir ar y safle yn dal i fod ar gau, megis pyllau nofio, cyfleusterau hamdden, cyfleusterau cawod a thoiledau a rennir, cyfleusterau a rennir ar gyfer golchi dillad ayyb, ac ardaloedd cyhoeddus mewn mathau eraill o lety. Mae hyn yn golygu unrhyw safle carafanau neu garafanau teithiol lle y mae gan bob llety ei gyflenwad ei hun o ddŵr ar gyfer cawod, toiled a choginio gan gydymffurfio â’r canllawiau caeth ar fannau gwaredu gwastraff a dŵr a rennir.

Dylai pob cyfleuster a rennir, ac eithrio mannau dŵr a gwaredu, aros ar gau gan gynnwys blociau toiledau, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad, bwytai, clybiau nos, tafarnai, caffis, etc.

13 Gorffennaf 2020

Tafarndai, bariau, caffis a bwytai wedi ailagor tu allan

Atyniadau ymwelwyr dan do 

25 Gorffennaf 2020

 

 

Gwersylla a charafanio a mathau eraill o lety (e.e. hosteli) gyda chyfleusterau a rennir (e.e. toiledau a rennir, ystafelloedd ymolchi, blociau cawod, mannau golchi llestri a chyfleusterau golchi dillad) yn ail-agor

* Ceginau a rennir - hyd nes bydd canllawiau pellach wedi'u cynhyrchu, ein cyngor yw i weithredwyr gyda mannau cegin a rennir yw cau'r mannau hyn i grwpiau, oni bai bod y llety wedi'i feddiannu gan yr un teulu neu aelwyd estynedig y cytunwyd arni   

3 Awst 2020

Lletygarwch dan do paratoi ar gyfer ail-agor


Olrhain Cysylltiadau

Bydd strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn allweddol wrth atal achosion newydd o’r clefyd, wrth i’r cyfyngiadau symud lacio.  Wrth i bobl ddod i gysylltiad â mwy a mwy o bobl, mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 mewn rhai sectorau’n uwch. Mae hyn oherwydd y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio mwy o amser ar y safleoedd hynny nag mewn mannau eraill, ac mae’n bosibl y byddant yn dod i gysylltiad agos â phobl y tu allan i’w haelwyd.

Mae canllawiau polisi newydd bellach wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wythnos ddiwethaf ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yn y sectorau hyn. Mae’r rhain yn disgrifio’r rôl bwysig mae’r busnesau hyn yn ei chwarae yn y gwaith o olrhain cysylltiadau a diogelu Cymru ac mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd os fydd cwsmer neu aelod staff yn dangos symptomau neu yn profi’n bositif am COVID19.


“Addo. Fy addewid dros Gymru” – Pecyn cymorth ar gael nawr i’r diwydiant

Ein prif neges wrth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddechrau agor eto yw: ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.’ sy’n cynnwys yr addewid ein bod yn annog pawb sy’n teithio o amgylch Cymru i gefnogi, i wneud y pethau bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr. I wneud addewid gyda’n gilydd i ofalu am ein gilydd, am ein gwlad ac am ein cymunedau wrth i ni ddechrau darganfod Cymru unwaith eto. Gellir llofnodi’r addewid yma yn: croeso.cymru/addo.

Mae ein pecyn cymorth defnyddiol yn awr ar gael i’w wneud hyd yn oed yn haws ichi gymryd rhan a gofynnwn ichi barhau i rannu eich addewidion gyda ni yn y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #addo #VisitWalesSafely.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram