Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Newyddion diwydiant
Croeso Cymru

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

 

23 Gorffennaf 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Canllawiau ar gyfer ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored; Canllawiau a rheoliadau ar gyfer cwmnïau teithiau/coetsys;  Safleoedd Cadw – agor fesul cam; Arolwg Traciwr Defnyddwyr Twristiaeth y DU COVID-19; Gweminarau CThEM: Estyn Llaw drwy Fwyta Allan / Estyniad i Gynllun Cadw Swyddi cyfnod y Coronafeirws a ffyrlo hyblyg / tasgau cyflogres; Trefniadau Pontio’r DU – ‘Gwirio, Newid, Mynd’; Ymestyn y cynllun ffibr cyflym iawn. 


Canllawiau ar gyfer ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored

Dylai rheini sy’n gyfrifol am feysydd chwarae neu fannau chwarae awyr agored ddarllen ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored


Canllawiau a rheoliadau ar gyfer cwmnïau teithio/coetsus

Bydd angen i unrhyw un sy’n cynnal teithiau neu ymweliadau ledled Cymru sichrau eu bod hwy a’u cleientiaid yn cydymffurfio gyda’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 diweddaraf* a’r canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch i ail-agor fesul cam yn ddiogel.  Mae’n rhaid i hyn gynnwys asesiad risg llawn gan ystyried yr holl ofynion gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) bellter cymdeithasol/corfforol a’r dull Profi, Olrhain, Diogelu.  Dylai cwmnïau trafnidieth a choetsus ddilyn y canllawiau sy’n berthnasol i gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus gan sicrhau eu bod wedi cynnal asesiad risg llawn.  Cofiwch o’r 27 Gorffennaf y daw gorchuddion wyneb tri haen yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.  

O ran maint grwpiau, mae’r rheoliadau newydd yng Nghymru yn cyfyngu unrhyw grŵp sydd wedi’i drefnu yn yr awyr agored i gyfanswm o 30 o bobl (gan gynnwys trefnydd/gyrrwr/arweinydd ac ati) ar yr amdod bod mesurau penodol mewn llaw; gallai hyn gynnwys cymysgedd o aelwydydd (heb ei gyfyngu i’r un aelwyd/aelwydydd estynedig) cyn belled â bod pellter cymdeithasol / dulliau lliniaru eraill wedi’u sefydlu.   

*newid yn bosibl


Safleoedd Cadw – agor fesul cam

Dechreuodd Cadw ail-agor cofebau awyr agored, heb staff ar ddechrau’r mis.  Ym mis Awst, bydd mynediad â thocyn i gestyll, abatai a gweithfeydd haearn penodol yn dechrau fesul cam.  Er mwyn gwneud hyn yn ddiogel, mae Cadw wedi cyflwyno nifer o fesurau pellter cymdeithasol a hylendid hanfodol gan gynnwys creu system archebu ar-lein orfodol.  Bydd yr olaf yn dechrau wrth i’r safleoedd agor – am ragor o wybodaeth am y mesurau sy’n bodoli a rhestr wedi’i diweddaru o ba safleoedd sy’n bwriadu ail-agor a phryd, edrychwch ar wefan Cadw ar ail-agor safleoedd â staff.

Dylai sefydliadau ac unigolion yng Nghymru sy’n rheoli cyrchfannau diwylliant a threftadaeth sydd ar agor i’r cyhoedd ddarllen Cyrchfannau diwylliant a threftadaeth: canllawiau ar gyfer dychwelyd yn raddol.


COVID-19 arolwg Traciwr Defnddwyr Twristiaeth y DU gwawr

Mae’r adroddiad wythnosol diweddaraf gan ein harolwg Traciwr Defnddwyr y DU bellach ar gael ar wefan Visit Britain yn dangos canfyddiadau wythnos 9 gan gynnwys 13 -17 Gorffennaf.  Mae hwn yn rhoi’r canlyniadau diweddaraf inni o agweddau a bwriadau ynghylch cymryd gwyliau yn y DU a Chymru eleni.  Mae adroddiad manwl ar broffil ymwelwyr ledled Prydain hefyd wedi’i gyhoeddi sy’n seiliedig ar y gwaith maes o 4 wythnos o’r 15 Mehefin i’r 10 Gorffennaf. 


Gweminarau CThEM:

  • Estyn Llaw drwy Fwyta Allan – Mae’r weminar hon yn disgrifio’r cynllun ichi, gan gynnwys esbonio sut mae’r cynllun yn gweithio, pwy sy’n gymwys, sut i gofrestru a hawlio a beth sy’n digwydd ar ôl i chi hawlio. Dysgwch fwy a chofrestrwch ar gyfer y weminar.
  • Ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a rhoi gweithwyr ar ffyrlo hyblyg - Ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a sut gall ffyrlo hyblyg gefnogi eich busnes?  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
  • Tasgau cyflogres - Mae gweminar wedi’i recordio gan CThEM ar gael i chi ei gwylio pan yn gyfleus i chi, a fydd yn eich helpu gyda thasgau cyflogres a llenwi ffurflen P11D ar gyfer treuliau a buddion blynyddol. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion. 

Trefniadau Pontio’r DU – ‘Gwirio, Newid, Mynd’

Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni.  Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch newydd ‘Gwirio, Newid, Mynd’ i helpu busnesau ac unigolion i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Ymestyn y cynllun ffibr cyflym iawn

Mae mwy o gartrefi a busnesau i elwa o gyflwyno band eang cyflym iawn Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag Openreach, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, 20 Gorffennaf 2020.  Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram