|
|
|
Llais Keith
Ar ôl dechrau cyfnod y cyfyngiadau symud, gwnaethom gymryd camau cyflym i gynyddu amlder bwletinau gwaith ieuenctid, er mwyn cefnogi'r sector gwaith ieuenctid yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ers mis Ebrill, mae'r bwletin wedi parhau i esblygu a datblygu ac erbyn hyn mae gennym garreg filltir arall, ar ffurf rhifyn gwestai o'r bwletin, a ddatblygwyd gan Dîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru (EYST).
|
Wrth ystyried pwysigrwydd y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys (‘Black Lives Matter’) a'r cyfraniad y gall gwaith ieuenctid ei wneud i gynnal ymarfer anwahaniaethol, rwy'n falch iawn fod EYST wedi cytuno i gynhyrchu ein rhifyn gwestai cyntaf o'r bwletin. Safbwyntiau ein golygyddion gwadd eu hunain sy'n cael eu mynegi, ond maen nhw'n cynnwys rhai negeseuon pwysig iawn ar gyfer pob un ohonom.
Draw i EYST gyda fy niolch a fy ngwerthfawrogiad twymgalon …
Helô, a chroeso i'r rhifyn arbennig hwn o Gylchlythyr Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru, a theimlwn ei fod yn anrhydedd mawr ein bod wedi cael ein gofyn i'w olygu.
Dechreuodd EYST Cymru fel sefydliad sy'n canolbwyntio ar ieuenctid, ac er ein bod wedi ehangu ein cylch gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ganolbwyntio ar leiafrifoedd ethnig o bob oed, mae gwaith ieuenctid a phobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd ein dull a'n hethos. Rwy’n ddigon ffodus i fod wedi cymryd rhan ers cafodd EYST ei sefydlu yn 2005, pan wnes gyfarfod â grŵp o fechgyn ifanc o leiafrifoedd ethnig yn Abertawe, a’u mentor Momena Ali, a oedd yn ceisio cynnal prosiect peilot llwyddiannus y tu hwnt i’w chwe mis cychwynnol. Fe wnaethom ffurfio EYST, gyda phwyllgor rheoli yn cynnwys o leiaf 50 y cant o fuddiolwyr, ac mae'r gweddill yn hanes.
Mae pobl ifanc o gefndiroedd amrywiol hefyd wedi bod yn rym arweiniol y tu ôl i adfywiad diweddar y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, a ysgogwyd gan farwolaeth drasig George Floyd, a gafodd sgil effaith bwerus ledled y byd. Yn anffodus, nid coronafeirws yw'r unig feirws byd-eang sy'n bygwth bywydau ar hyn o bryd, ac nid yw hiliaeth yn rhywbeth sy'n digwydd yn America yn unig. Mae'r mis diwethaf wedi bod yn gyfnod emosiynol a chyffrous hefyd yng Nghymru wrth i lu o brotestiadau Mae Bywydau Du o Bwys gael eu trefnu, yn bennaf gan bobl ifanc, wedi'u sbarduno gan ddicter yn erbyn anghyfiawnder ac angerdd i newid cymdeithas. O Hwlffordd i Bort Talbot ac o'r Barri i Langollen, daeth pobl ifanc at ei gilydd mewn ffordd nad oeddent erioed wedi gwneud o'r blaen, gyda chanlyniadau anhygoel – cawn fwy ar hyn yn yr erthygl arbennig o fewn y cylchlythyr hwn.
Ond mae gwaith ieuenctid yng Nghymru bob amser wedi bod yn amrywiol ac mae pobl ifanc sy'n byw yng Nghymru yn dod o gefndiroedd ac yn meddu ar brofiadau bywyd gwahanol iawn. Yn ôl y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion diweddaraf (CYBLD), mae ychydig o dan 12 y cant o blant oed ysgol yng Nghymru o gefndir ethnig heblaw am ‘Gwyn Prydeinig’. Yn hanesyddol, mae sector gwaith ieuenctid Cymru wedi ymateb i’r amrywiaeth hon trwy ddatblygu llu o raglenni cymorth ieuenctid ar lefel gymunedol, sydd, yn ogystal ag EYST, yn cynnwys er enghraifft Clwb Bechgyn a Merched Grangetown, Clwb Bocsio Tiger Bay, Cymdeithas Gymunedol Yemenïaidd Casnewydd, Clwb Ieuenctid Cultures yn Wrecsam, Prosiect Gwreiddiau Ifanc Race Council Cymru a’r YMCA, Urban Circle, Sefydliad Cymunedol Ieuenctid Mwslimaidd (YMCO) Casnewydd, Fio, Glitter Cymru a llawer mwy – gweler ein map EYST o sefydliadau BAME ledled Cymru.
Ac wrth gwrs, un agwedd yn unig ar hunaniaeth a phrofiad bywyd unigolyn ifanc yw ethnigrwydd a hil. Mae pobl ifanc hefyd yn ofalwyr, mae rhai yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches, mae eraill yn nodi eu bod yn LHDT, neu maent â diddordebau mewn chwaraeon, cerddoriaeth, drama neu deithio rhyngwladol sy’n brif nod iddynt. Gall gwaith ieuenctid yng Nghymru ddarparu ar gyfer yr holl angerddau a dibenion hyn, a'r amrywiaeth hon yw ei harddwch. Gadewch i ni werthfawrogi ac adeiladu ar yr harddwch hwnnw, ar gyfer dyfodol pob un ohonom.
Diolch 😊
Rocio Cifuentes
Prif Swyddog Gweithredol, EYST Cymru
|
|
Mae Tahirah Ali yn 19 oed, ac mae wedi bod yn gwirfoddoli ers dros bum mlynedd bellach, gan gyfrannu at y gymuned a mwynhau pob munud. O gynlluniau chwarae i glwb gwaith cartref, a gweithio gyda grwpiau cymunedol gwahanol, mae'n teimlo bod hyn wedi rhoi sail iddi fel unigolyn ifanc. |
Yn 2018, cymerodd ran yn Young, Migrant and Welsh, prosiect a oedd yn canolbwyntio ar newid canfyddiadau unigolion ifanc sy'n byw yng Nghymru ac sy'n dod o gymuned ymfudol. Roedd cyfraniad Tahirah yn canolbwyntio ar fenywod mewn chwaraeon a chodi pwysau yn benodol.
Enwebwyd Tahirah yn Llysgennad Ieuenctid dros Gymru gan EYST ar gyfer yr ymgyrch #iwill. Mae hi'n teimlo ei bod wedi gallu cyrraedd cynulleidfa ehangach a chodi mwy o ymwybyddiaeth, nid o fewn y gymuned leol yn unig ond yn genedlaethol hefyd. Wrth weithio gyda Llysgenhadon Ieuenctid eraill yng Nghymru, llwyddodd Tahirah i gyfrannu at greu deunydd a oedd yn adlewyrchu'r Gymru amrywiol y mae'n falch i'w galw'n gartref.
Mae Tahirah hefyd wedi cymryd rhan fel aelod o banel beirniadu ar gyfer prosiectau ac elusennau gwahanol yng Nghymru a gynhelir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC). Roedd hyn yn golygu bod gwaith unigolion a sefydliadau yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol, er mwyn gwneud mwy o waith i wella eu cymunedau a derbyn cyllid pellach i'w gynnal. Yn fwyaf diweddar, roedd Tahirah ar y panel beirniadu ar gyfer Gwobrau Diana. Cafodd y gwobrau eu cydnabod yn rhyngwladol, a rhoddodd hyn gipolwg ar waith anhygoel gan unigolion ledled y byd.
Yn ddiweddar, gofynnwyd i Tahirah gymryd rhan mewn prosiect newydd sy'n datblygu o'r enw Rhwydwaith Arweinwyr y Dyfodol yng Nghymru. Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed a sut y gellir goresgyn heriau, yn enwedig yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
Dyma brofiad Tahirah o bandemig y coronafeirws yn ei geiriau ei hun:
“2020. Mae wedi bod yn gyfnod rhyfedd i bawb. Mae fy mywyd wedi newid yn llwyr a bydd y persbectif sydd gen i nawr yn aros gyda mi am byth. Mae wedi bod yn anodd addasu a glynu at drefn eithaf cyffredin gartref, hyd yn oed i mi.
Addysg yw fy mhrif ffocws yn bennaf neu dyna oedd fy mhrif ffocws gan fy mod wedi bod yn paratoi ar gyfer fy arholiadau blwyddyn olaf a dechrau paratoi ar gyfer y brifysgol. Yn bersonol, yr ansicrwydd ynghylch fy addysg a fy nyfodol oedd fy mhryder mwyaf yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf. Rwy'n deall bod llawer ohonom sy'n bobl ifanc yn yr un sefyllfa am gael rhywfaint o eglurder, yn arbennig o ganlyniad i'r ansicrwydd.
Mae ffitrwydd yn rhan enfawr o fy mywyd ac roedd mynd o hyfforddi pump i chwe diwrnod yr wythnos i gael gwybod bod campfeydd ar gau nes y ceir hysbysiad pellach yn ofidus a dweud y lleiaf. Mae hyfforddi gartref wedi dod yn arferiad newydd i'r rhan fwyaf o bobl ond y peth rwy'n ei golli fwyaf am hyfforddi yw'r bobl y byddwn yn eu gweld ac awyrgylch y gampfa yn gyffredinol. |
|
|
Fodd bynnag, er bod y pandemig byd-eang hwn wedi bod yn heriol, mae'n bwysig cydnabod y pethau cadarnhaol sydd wedi dod i'r amlwg. Mae ein bywydau prysur beunyddiol wedi ein gwneud yn gyfarwydd â pheidio â threulio cymaint o amser ag yr hoffem gyda'n hanwyliaid neu hyd yn oed mwynhau hobïau fel pobi neu ddarllen er pleser, na fyddai gan y mwyafrif ohonom amser ar eu cyfer fel arfer. Mae gweld gwahanol sefydliadau, elusennau ac unigolion yn dod at ei gilydd i ddarparu cefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio'n ddwfn wedi bod yn syfrdanol iawn. Mae hyn yn dangos, hyd yn oed gydag argyfwng byd-eang, na ellir chwalu ein hundod.” – Tahirah Ali
|
Ers marwolaeth George Floyd yn nwylo swyddogion heddlu ym Minneapolis, America, bu llawer o gefnogaeth a chydgefnogaeth, ledled y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru. Mae pobl ifanc yn benodol wedi gyrru'r mudiad hwn, ar ôl cael eu cythruddo gan greulondeb ei farwolaeth, ac maen nhw wedi mynnu cael diwedd ar yr hiliaeth sefydliadol systemig sydd wedi difetha cymaint o fywydau ledled y byd, ers canrifoedd erbyn hyn.
Mae gan Gymru hanes hir a balch o ran bod yn wrth-hiliaeth a gwrth-ffasgaeth, gyda glowyr o Gymru yn ymladd ffasgaeth yn Sbaen yn rhyfel cartref Sbaen yn y 1930au a Chynghrair Wrth-Natsïaidd Cymru yn gwrthwynebu gwleidyddiaeth y dde-eithafol, gan gynnwys y Ffrynt Cenedlaethol, ar ddiwedd y 1970au a'r 1980au. Heddiw, mae gan Sefyll yn Erbyn Hiliaeth Cymru (‘Stand up to Racism Wales’) ddilyniant cryf ac mae'n trefnu digwyddiadau a ralïau yn rheolaidd mewn ymateb i droseddau casineb hiliol neu ddigwyddiadau terfysgol.
Fodd bynnag, cyn marwolaeth George Floyd, nid oedd Cymru wedi gweld ehangder na graddfa'r gweithredu gwrth-hiliaeth rydym wedi'i weld yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf. Yn ogystal ag yn Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, lle y byddech chi'n disgwyl i brotestiadau o'r fath ddigwydd, mae protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys wedi digwydd mewn lleoedd sy'n annhebygol o fod yn ganolfannau o weithgarwch o’r fath fel Hwlffordd, Llangollen, y Barri a Phort Talbot. Mae cannoedd o bobl wedi ymgynnull yn y digwyddiadau hyn, ac fe'u harweiniwyd i raddau helaeth gan bobl ifanc sydd heb ymwneud â threfnu ac actifiaeth o'r blaen.
|
|
Ar 1 Gorffennaf, trefnodd EYST fforwm ar-lein a geisiodd ddod â'r trefnwyr hyn ynghyd, a darparu lle i ystyried yr hyn sy'n digwydd nesaf. Mynychodd 70 o bobl, gan gynnwys Riah Andrews, trefnydd protest Mae Bywydau Du o Bwys yn Llangollen, Sean Suter, trefnydd protest Mae Bywydau Du o Bwys Port Talbot, Sabrina Thakurdas a Luis Williamson, trefnwyr protest Mae Bywydau Du o Bwys Caerdydd, ac Andrew Ogun, trefnydd protest Mae Bywydau Du o Bwys Casnewydd. Bu siaradwyr a threfnyddion mwy profiadol yn siarad yn ogystal a chlywsom gan Hilary Brown, trefnydd protest Mae Bywydau Du o Bwys y Barri, a Nimisha Trivedi, o Sefyll yn Erbyn Hiliaeth Cymru. |
Yr hyn a oedd yn amlwg oedd bod pawb yn teimlo ein bod mewn man di-droi nôl mewn cymdeithas, lle roedd pawb wedi cael digon, a lle bod angen i newid go iawn a pharhaol ddigwydd nawr – mae angen i'r foment hon droi'n fudiad, a chyfrifoldeb pawb yw hynny, nid pobl dduon yn unig. Cytunwyd bod rôl addysg yn hanfodol, a bod angen dysgu hanes pobl dduon yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru, fel y gellir ei ddeall fel rhan o hanes Cymru, hanes a rennir gennym. Cytunodd y trefnwyr er ei fod yn cynhesu'r galon i weld maint y gefnogaeth, roeddent hefyd wedi profi adlach, a oedd weithiau'n ofidus ac yn syndod, ac wedi clywed rhai o'u ffrindiau eu hunain yn cwestiynu’r ffocws ar fywydau du.
Dywedodd Chloe Cherney, trefnydd digwyddiad Hwlffordd: “Mae hiliaeth yn broblem enfawr, yn arbennig o fewn ardaloedd llai yng Nghymru. Ni allwn adael i hyn waethygu. Mynychodd 200 o bobl rali gyntaf Hwlffordd, ond cafwyd adlach fawr hefyd.” Mae Chloe newydd ddechrau ar hyn ac mae eisiau gweld mwy o newid yn digwydd. Ychwanegodd, “Mae'n bwysig iawn bod cenedlaethau iau yn dod at ei gilydd ynglŷn â hyn, gan fod hiliaeth wedi'i gwreiddio'n fwy dwfn o fewn y cenedlaethau hŷn.” |
|
|
Yn ystod eu digwyddiadau penglinio (‘take the knee’), eglurodd Chloe eu bod wedi bod yn cynnal cyfnod o dawelwch i Christopher Kapessa, bachgen du ifanc a fu farw mewn damwain mewn afon yn Rhondda Cynon Taf ar 1 Gorffennaf 2019, digwyddiad lle mae’r heddlu wedi cael eu beirniadu am beidio â cheisio erlyniadau. Nododd nad oedd nifer o bobl yn ei hardal yn gwybod llawer am Christopher Kapessa, gan ddweud, “Digwyddodd hyn yng Nghymru ac nid oedd pobl yn gwybod amdano. Mae'n syndod. Nid ydynt yn gwybod nad yw'n fater Americanaidd yn unig.” Cafodd cerflun o Thomas Picton, perchennog caethweision o Hwlffordd, ei symud o Neuadd Dinas Caerdydd yn dilyn pwysau cynyddol yn lleol. Dywed Chloe ei bod wedi cael ei dysgu ei fod yn arwr pan oedd hi yn yr ysgol, pan oedd hefyd mewn gwirionedd yn cael ei adnabod fel ‘lleiddiad Trinidad’ oherwydd ei greulondeb llwyr tuag at y caethweision, hyd yn oed yn ôl safonau'r cyfnod.
Lee a’r criw cyn y cyfyngiadau symud
Helô, Lee Tiratira ydw i, gweithiwr cymorth Plant a Phobl Ifanc Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME CYP) gydag EYST, ac rwy'n gweithio yn Wrecsam ac yn gwasanaethu gogledd Cymru. Mae'r prosiect Plant a Phobl Ifanc Du a Lleiafrifoedd Ethnig (BME CYP) yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru yng Nghaerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Er fy mod wedi bod yn gweithio i EYST ers mis Hydref 2018, dechreuais yn y rôl hon yng nghanol cyfnod y cyfyngiadau symud ar ddiwedd mis Ebrill 2020.
Yr heriau uniongyrchol a wynebais oedd sicrhau bod plant a phobl ifanc ar y prosiect yn derbyn cyflenwadau bwyd priodol a’r hyn roedd ganddynt hawl ar ei gyfer, ac yn goroesi yn ariannol o ganlyniad i'r beichiau ychwanegol a achoswyd gan y cyfyngiadau symud. Yn ogystal â'r anghenion brys hyn, yr her nesaf a pharhaus oedd addasu i ac annog ymgysylltiad â phlant a phobl ifanc ar draws platfformau digidol neu ar-lein.
Roedd y gwaith ieuenctid roeddwn yn cymryd rhan ynddo yn mynd trwy gamau cyffredinol o sicrhau hygyrchedd, darparu rhywbeth apelgar (i fodloni'r mwyafrif!) ac, wedi hynny, cynnal diddordeb. Gwelais fod ymgysylltu ar-lein ond yn digwydd pan oedd yn cael ei dargedu’n fwy neu ei ddarparu ar gyfer anghenion unigolion yn hytrach nag unrhyw beth â mynediad agored. Roedd llawer o'r gwaith a ddaeth yn sgil hynny yn canolbwyntio ar droseddau casineb ar-lein, yr oedd nifer o bobl ifanc wedi'u profi yn anffodus. Gwnaethom gynnal cystadlaethau cymhelliant hefyd roedd pobl ifanc neu grwpiau wedi gofyn amdanynt yn benodol neu sesiynau hwyliog heb strwythur a arweiniwyd yn y foment gan y sgwrs. Enghraifft wych o hyn yw llwyddiant ymgysylltiad newydd gan bobl ifanc Syria yn Sir y Fflint – grŵp yr oeddwn wedi'i chael hi'n anodd ymgysylltu ag ef wyneb yn wyneb cyn cyfnod y cyfyngiadau symud. Trwy EYST, darparwyd dyfeisiau a chymorth ar y rhyngrwyd i aelwydydd y plant a phobl ifanc hyn ac, yn dilyn problemau technegol ar y dechrau, cynyddodd ymgysylltiad ar-lein trwy Zoom a daeth yn rhywbeth mwy rheolaidd. Roedd sesiynau fel ‘pontio i'r ysgol uwchradd’, ‘nodwch y gwahaniaeth’ a chwisiau tîm yn boblogaidd iawn. Hoffem ddiolch YN FAWR i ddynes fendigedig o'r enw Liz o Synergy, a wnaeth dreulio sawl prynhawn yn mynd o dŷ i dŷ er mwyn helpu i roi Zoom ar waith ynddynt!
|
Gyda phopeth yn symud i blatfformau ar-lein, roedd rhaid i mi ddysgu sgiliau newydd – o gynnal sesiynau Zoom i ddysgu am a chreu negeseuon cyfryngau cymdeithasol. Mwynheais ddysgu am ffyrdd creadigol i ymgysylltu trwy bethau fel cystadlaethau a heriau ar-lein. Rwy'n credu bod y gallu i wybod am dechnoleg wedi fy helpu'n arw; llwyddais i symleiddio popeth y gallwn i wneud yr holl broses o ryngweithio mor hawdd â phosibl. Defnyddio fy sgiliau cyfathrebu oedd fy mhrif lwybrau at lwyddiant – roedd y gallu i ryngweithio a gwneud pethau'n hwyl, gan osgoi lletchwithdod ac osgoi diflastod, wedi helpu'n fawr! O ganlyniad i fod yn wyneb ar sgrin, daeth fy agwedd, mynegiannau a thact fy hunan i’r amlwg. Ar adegau, roeddwn i wedi teimlo fel cyflwynydd yn ystod y dydd yn bugeilio gwesteion rhag defnyddio iaith ddrwg neu amhriodol! Trodd hyn i gyd yn brofiad dysgu gwych y gallaf ei gymryd ymlaen ar gyfer popeth y byddaf yn ei wneud yn y dyfodol. Rwy'n credu bod llawer o fuddion i'w cael o wneud gwaith ieuenctid yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn ac rwy'n gobeithio y byddwn yn parhau i ychwanegu'r dimensiynau newydd hyn at bopeth a wnawn!
Os hoffech ddysgu mwy ynglŷn â'n gwaith ieuenctid neu waith arall, gallwch weld mwy ar ein ffrydiau cyfryngau cymdeithasol: Twitter – @eystwales; Facebook – 'Ethnic Minorities & Youth Support Team – EYST Wales'; Instagram – @eyst_wales; a YouTube – 'EYST Wales'. Neu os hoffech gysylltu â'n Tîm Plant a Phobl Ifanc Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn uniongyrchol, gallwch anfon neges at ein harweinydd prosiect Fateha: fateha@eyst.org.uk
Lee Tiratira, Prosiect BME CYP, Arweinydd Wrecsam lee@eyst.org.uk
Mae nifer fawr o sefydliadau yn gweithio ledled Cymru i gefnogi pobl ifanc du ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Efallai y byddant yn gallu cynnig cefnogaeth neu gyngor uniongyrchol i bobl ifanc o gefndiroedd amrywiol yn ogystal â hyfforddiant neu gyngor i weithwyr proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr ieuenctid. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys y canlynol:
Cymdeithas Tsieiniaidd yng Nghymru – wedi'i lleoli yn Abertawe
Canolfan Gymunedol Affrica – wedi'i lleoli yn Abertawe
Cymdeithas Gymunedol Yemenïaidd Casnewydd – wedi'i lleoli yng Nghasnewydd
Urban Circle – wedi'i leoli yng Nghasnewydd
Sefydliad Cymunedol Ieuenctid Mwslimaidd (YMCO) Casnewydd – wedi'i leoli yng Nghasnewydd
Grŵp Cymunedol Pwylaidd Ludek – wedi'i leoli yng Nghasnewydd
Clwb Bocsio Amatur Tiger Bay – wedi'i leoli yng Nghaerdydd
Horn Development Association – wedi'i leoli yng Nghaerdydd
Women Connect First – wedi'i leoli yng Nghaerdydd
Fio – wedi'i leoli yng Nghaerdydd
BAWSO – Cymru gyfan
Diverse Cymru – Cymru gyfan
Cyngor Ffoaduriaid Cymru – Cymru gyfan
Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth – Cymru gyfan
Race Council Cymru – Cymru gyfan
Race Alliance Wales – Cymru gyfan
EYST Cymru – Cymru gyfan
Am restr fwy cyflawn, edrychwch ar fap EYST o sefydliadau BAME yng Nghymru
Mae’r Athro Charlotte Williams OBE wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i arwain gweithgor newydd i roi cyngor ar addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar draws y cwricwlwm ysgol, a gwella’r broses addysgu honno. Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.
Cysylltwch drwy e-bost (youthwork@gov.wales) os hoffech gyfrannu at rifynnau o'r cylchlythyr yn y dyfodol, a byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau ar ein cyfer, gyda gwybodaeth am ffocws arbennig y rhifynnau sydd i ddod, a chyfrif geiriau erthyglau ar gyfer yr adrannau amrywiol.
Defnyddiwch #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru wrth drydaru er mwyn codi proffil gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|
|