Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Newyddion diwydiant
Croeso Cymru

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

 

17 Gorffennaf 2020


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Addo. Gwnewch addewid dros Gymru; Rhybudd! Twyll posibl dros y ffȏn gyda Croeso Cymru; Olrhain Cysylltiadau; Gweminar: Olrhain cysylltiadau;  Canllawiau Economi Ymwelwyr Llywodraeth Cymru; Y Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig; COVID-19 arolwg Traciwr Defnddwyr Twristiaeth y DU gwawr; Cyngor Adfer am ddim i Fusnesau; Cofrestru’ch sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan; Barod Amdani – cynllun am ddim i fusnesau’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch;   Paratoi Arwyddion Diogelwch Dwyieithog; Trafnidiaeth Cymru - a yw eich taith trên yn hanfodol?; Cyhoeddi £9 miliwn i helpu canol trefi i ddod at eu hunain wedi’r Coronafeirws; Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. 


“Addo. Gwnewch addewid dros Gymru.”

Ein prif neges wrth i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ddechrau agor eto yw: ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.’ Dyma frawddeg syml y gellir ei haddasu ar gyfer eich busnes neu eich ardal leol, er mwyn annog pobl i fod yn gyfrifol tra yn ymweld â Chymru. Byddwn yn parhau i rannu’r neges hon trwy gydol y tymor.

Fel rhan o’r neges rydym yn gofyn i bawb sy’n teithio o amgylch Cymru i addo i wneud y pethau bychain fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. I wneud addewid gyda’n gilydd i ofalu am ein gilydd, am ein gwlad ac am ein cymunedau wrth i ni ddechrau darganfod Cymru unwaith eto. Gellir llofnodi’r addewid yma: croeso.cymru/addo.

Cymryd rhan

Rydym yn gweithio ar becyn cymorth defnyddiol i’w gwneud yn haws i chi gymryd rhan yn yr ymgyrch, fydd yn cael ei rannu yn fuan. Yn y cyfamser gallwch lawrlwytho yr addewid a phoster, a phori trwy ein cynnwys ar-lein. Rhannwch eich addewid gyda ni ar ein sianelau cymdeithasol gan ddefnyddio #addo #DiogeluCymru.

Diolch o galon am eich cefnogaeth gyson.


Rhybudd! Twyll posibl dros y ffȏn gyda Croeso Cymru

Rydym wedi clywed yn ddiweddar am nifer o alwadau ffôn amheus i fusnesau yng Nghymru, gan rhywun sy’n honni eu bod yn cynnig ffordd well o fynd ar wefan Croeso Cymru am bris is, yn amrywio rhwng £5.99 - £9.99.

Nid yw Croeso Cymru yn cynnig gwasanaeth o’r fath nac unrhyw ddull hyrwyddo fel hyn.  Os cewch alwad ffȏn fel hyn, peidiwch â datgelu unrhyw wybodaeth bersonol, gan hysbysu - www.actionfraud.police.uk/


Olrhain Cysylltiadau

Bydd strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru yn allweddol wrth atal achosion newydd o’r clefyd, wrth i’r cyfyngiadau symud lacio.  Wrth i bobl ddod i gysylltiad â mwy a mwy o bobl, mae’r risg o drosglwyddo COVID-19 mewn rhai sectorau’n uwch. Mae hyn oherwydd y bydd cwsmeriaid ac ymwelwyr yn treulio mwy o amser ar y safleoedd hynny nag mewn mannau eraill, ac mae’n bosibl y byddant yn dod i gysylltiad agos â phobl y tu allan i’w haelwyd.

Mae canllawiau polisi newydd bellach wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru wythnos ddiwethaf ar gyfer busnesau sy’n gweithredu yn y sectorau hyn. Mae’r rhain yn disgrifio’r rôl bwysig mae’r busnesau hyn yn ei chwarae yn y gwaith o olrhain cysylltiadau a diogelu Cymru ac mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn fydd yn digwydd os fydd cwsmer neu aelod staff yn dangos symptomau neu yn profi’n bositif am COVID19.


Gweminar: Olrhain cysylltiadau

Mae system olrhain cysylltiadau yn rhan hanfodol o’n strategaeth Profi Olrhain Diogelu, gan ei bod wedi profi mor werthfawr yn y gorffennol mewn ymdrechion i reoli lledaeniad clefydau heintus drwy dorri’r ddolen drosglwyddo. Ei nod yw darparu gwybodaeth amser real am ba mor bell y mae’r clefyd wedi lledaenu; pa mor gyflym y mae’n lledaenu; a’r mannau hynny lle y mae’r problemau mwyaf.

Yng Nghymru, mae gennym system iechyd cyhoeddus gadarn sy’n cael ei darparu gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol sydd ag arbenigedd sylweddol yn y gwaith o olrhain cysylltiadau. Mae hyn yn cryfhau ein sefyllfa o ran ein gallu i ymateb i’r pandemig hwn. Bellach, yr her yw cynyddu lefel ein capasiti i olrhain cysylltiadau i lefel nad ydym wedi ei gweld erioed o’r blaen, er mwyn inni allu olrhain yn gyflym degau o filoedd o gysylltiadau newydd bob dydd os bydd rhaid.  Er mwyn inni gyflawni hyn yng Nghymru, byddwn yn defnyddio trefniadau cadarn ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chymryd camau ar y cyd.

Os ydych am ddeall beth mae hyn yn ei olygu i chi, bydd Sharon West, o’r tîm Profi Olrhain Diogelu yn Llywodraeth Cymru, a Dr Giri Shankar, o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal gweminar i egluro sut mae’r system olrhain cysylltiadau yn gweithio yng Nghymru. 

Cynhelir y weminar hon, a ddarperir drwy MS Teams, ar 24 Gorffennaf am 11:30 - 12:30. Mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r digwyddiad hwn, a fyddech cystal â rhoi gwybod y byddwch yn bresennol drwy e-bostio:  Covid19ContactTracing@llyw.cymru

Caiff dolen at y cyfarfod ei hanfon ar ôl ichi dderbyn y cyfarfod.


Canllawiau Economi Ymwelwyr Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr, cyffredinol ar yr economi ymwelwyr sy’n cynnwys tafarndai, bariau a bwytai.  Mae’r canllawiau hyn gan Lywodraeth Cymru yn cyfeirio cwmnïau at ganllaw mwy manwl a gyhoeddwyd gan UK Hospitality Cymru.

Mae Canllawiau UKH ar gyfer Ail-agor Lletygarwch yng Nghymru wedi ei gytuno gan, ac yn cynnwys canllawiau ychwanegol sydd wedi’u llunio gan Lywodraeth Cymru. 


Y Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig

Mae’r Cynllun Cymhorthdal Incwm i’r Hunangyflogedig (SEISS) wedi’i ddiweddaru gyda nifer o newidiadau. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion. 


COVID-19 arolwg Traciwr Defnddwyr Twristiaeth y DU gwawr

Mae’r adroddiad wythnosol diweddaraf gan ein harolwg Traciwr Defnddwyr y DU bellach ar gael ar wefan Visit Britain yn dangos canfyddiadau wythnos 8 gan gynnwys 6 -10 Gorffennaf.  Mae hwn yn rhoi’r canlyniadau diweddaraf inni o agweddau a bwriadau ynghylch cymryd gwyliau yn y DU a Chymru eleni.  Mae adroddiad manwl ar broffil yr ymwelwyr sy'n bwriadu ymweld â Chymru hefyd wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 


Cyngor Adfer am ddim i Fusnesau

Mae’r Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes ac Enterprise Nation, gyda chefnogaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wedi uno i gynnig cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i adfer o effaith y Coronafeirws. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion. 


Cofrestru’ch sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan

Gall busnesau ddefnyddio'r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynnig gostyngiad i annog pobl i fwyta yn eich bwyty.  Ceir manylion am y cynllun a chymhwysedd ar wefan Busnes Cymru.


Barod Amdani – cynllun am ddim i fusnesau’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch

Mae safon y diwydiant "Barod Amdani" yn gynllun hunan asesu sydd wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â'r sefydliadau Cenedlaethol (Croeso Cymru, Tourism Northern Ireland, Visit Scotland a Visit England) er mwyn rhoi sicrwydd i bob sector o'r diwydiant twristiaeth, yn ogystal â sicrwydd i ymwelwyr, bod gan fusnesau brosesau clir ar waith a'u bod yn dilyn canllawiau gan y diwydiant a'r Llywodraeth.

Mae'r cynllun yn rhad ac am ddim i ymuno ac yn agored i bob busnes ar draws y diwydiant.

Bydd yn rhan ganolig o negeseuon Croeso Cymru i ddefnyddwyr dros yr wythnosau nesaf.


Paratoi Arwyddion Diogelwch Dwyieithog

Gyda’r stryd fawr yn raddol agor mae nifer ohonom yn dechrau meddwl am ddychwelyd fesul tipyn at normalrwydd.  Mae pawb yn gwneud eu gorau i sicrhau diogelwch eu staff a defnyddwyr y gwasanaeth. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion. 


Trafnidiaeth Cymru - a yw eich taith trên yn hanfodol?

Oherwydd y pandemig COVID-19, mae Trafnidiaeth Cymru yn argymell i gwsmeriaid ond defnyddio y gwasanaeth tren os yw eu taith yn hanfodol, neu os nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o deithio.  Mae hyn oherwydd mesurau pellter cymdeithasol, fel y gallent gludo gweithwyr allweddol yn gyfforddus a’r rhai hynny sydd ag anghenion hanfodol.  Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.


Cyhoeddi £9 miliwn i helpu canol trefi i ddod at eu hunain wedi’r Coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £9 miliwn ar gael i helpu canol trefi ddod at ei hunain wedi’r Coronafeirws.

Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi y bydd £5.3 miliwn o’r rhaglen Trawsnewid Trefi yn cael ei ddefnyddio i ariannu addasiadau i ganol trefi i gefnogi masnachwyr a sicrhau bod y cyhoedd yn fwy diogel mewn ymateb i’r Coronafeirws.

Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Rheoliadau Teithio Rhyngwladol

Ar gais Llywodraeth y DU mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddiwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) Cymru 2020 i eithrio teithwyr o restr o wledydd rhag y gofyniad i ynysu a wnaed yn ofynnol yn y rheoliadau.  Cewch wybod mwy yn y Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram