Cymru yn barod i groesawu ymwelwyr eto
Mae y Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi gweld sut mae busnesau twristiaeth yn paratoi i groesawu ymwelwyr i Gymru wrth i’r sector baratoi i agor am y tro cyntaf ers dechrau yr argyfwng coronafeirws.
Ar ddydd Sadwrn (11 Gorffennaf) ymwelodd â The Hide yn Sain Dunwyd ym Mro Morgannwg, i weld y mesurau y mae llety hunanddarpar yn eu yn ei roi ar waith , wrth i’r ymwelwyr cyntaf gyrraedd yng Nghymru.
Daw yr ymweliad wedi i’r Prif Weinidog gyhoeddi pecyn o fesurau newydd – ac eang – i lacio y cyfyngiadau coronafeirws ymhellach yng Nghymru, fydd yn gweld rhannau mawr o ddiwydiannau ymwelwyr, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Cymru yn ail-agor dros y tair wythnos nesaf.
O heddiw ymlaen (dydd Llun (13 Gorffennaf), bydd tafarndai, bariau a bwytai yn gallu agor y tu allan, yn ogystal â rhan fwyaf o atyniadau dan dô. Dywedodd y Prif Weinidog hefyd bod llety twristiaid sydd â chyfleusterau a rennir, megis safleoedd gwersylla, i baratoi i agor o’r 25 Gorffennaf.
Mae trafodaethau manwl ynghylch sut y gall busnesau lletygarwch weithredu mewn ffordd ddiogel o dan dô o ran y coronafeirws yn parhau, gyda chynlluniau ar gyfer ail-agor o’r 3 Awst, os bydd amodau’n caniatáu hynny.
Wrth i bobl baratoi crwydro Cymru unwaith eto, mae Croeso Cymru wedi cyflwyno addewid i annog pawb sy’n ymweld â Chymru i ofalu am ei gilydd, am y wlad a’n holl gymunedau. Mae’r addewid, sy’n annog pawb i wneud y pethau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth mawr ar gael i’w lofnodi ar https://www.croeso.cymru/cy/addo.
Gofynnir i ymwelwyr gynllunio ymlaen llaw cyn gynted â phosibl ac i archebu lle i aros yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch yr hyn y bydd pobl angen ei wneud os ydynt yn dioddef symptomau coronafeirws yn ystod eu arhosiad yng Nghymru. Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys cyngor i fusnesau i helpu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru ddod i wybod amdanynt a rheoli unrhyw achosion yn y dyfodol.
Mae busnesau twristiaeth yn gweithio’n galed i gadw ymwelwyr yn ddiogel. Mae safon y diwydiant, Barod Amdani, a’r nod ategol yn fenter ledled y DU, sy’n caniatáu i fusnesau ar draws y sector ddangos eu bod yn dilyn canllawiau y llywodraeth a iechyd y cyhoedd, wedi cynnal asesiad risg coronafeirws a gall weld a ydynt wedi sefydlu y prosesau gofynnol. Darllenwch yn llawn ar Gwefan Llywodraeth Cymru.
Barod Amdani – cynllun am ddim i fusnesau’r diwydiant twristiaeth a lletygarwch
Mae safon y diwydiant "Barod Amdani" yn gynllun hunan asesu sydd wedi'i gynllunio mewn partneriaeth â'r sefydliadau Cenedlaethol (Croeso Cymru, Tourism Northern Ireland, Visit Scotland a Visit England) er mwyn rhoi sicrwydd i bob sector o'r diwydiant twristiaeth, yn ogystal â sicrwydd i ymwelwyr, bod gan fusnesau brosesau clir ar waith a'u bod yn dilyn canllawiau gan y diwydiant a'r Llywodraeth.
Mae'r cynllun yn rhad ac am ddim i ymuno ac yn agored i bob busnes ar draws y diwydiant.
Bydd yn rhan ganolig o negeseuon Croeso Cymru i ddefnyddwyr dros yr wythnosau nesaf. Hyd yma mae 3,500 o fusnesau Cymru bellach wedi cwblhau'r hunanasesiad i gadarnhau eu bod yn glynu wrth ganllawiau'r Llywodraeth ac iechyd y cyhoedd, wedi cynnal asesiad risg COVID-19 ac wedi gwirio bod ganddynt y prosesau gofynnol wrth iddynt baratoi i ail-agor.
Cofrestru’ch sefydliad ar gyfer y Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
Gall busnesau ddefnyddio'r Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn cynnig gostyngiad i annog pobl i fwyta yn eich bwyty. Ceir manylion am y cynllun a chymhwysedd ar wefan Busnes Cymru.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|