Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

9 Gorffennaf 2020


bulletin image

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - COVID-19: Cymorth pellach i fusnesau gan Lywodraeth y DU; Risgiau Legionella; Canllaw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i fusnesau ar gasglu data personol ar gyfer olrhain cysylltiadau; Manteisio i’r eithaf ar eich presenoldeb ar Croeso Cymru; COVID-19 arolwg Traciwr Defnddwyr Twristiaeth y DU; Tasglu Twristiaeth COVID-19.


COVID-19: Cymorth pellach i fusnesau gan Lywodraeth y DU

Ar 8 Gorffennaf, nododd y Canghellor y camau nesaf yn strategaeth Llywodraeth y DU i sicrhau adferiad economaidd yn dilyn coronafeirws. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Risgiau Legionella

Gan fod adeiladau ar gau neu lai o bobl ynddynt oherwydd pandemig  COVID-19, gall dŵr fod yn ddisymud mewn systemau oherwydd bod llai o ddefnydd yn cael ei wneud ohonynt ac mae hynny’n gallu cynyddu’r risg o glefyd y llengfilwyr. Mae’n hanfodol bod systemau dŵr yn cael eu fflysio’n llwyr ym mhob llety gwyliau, gan gynnwys cawodydd a phennau cawodydd.

Edrychwch ar eich Asesiad Risg a dilyn canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ynghylch adfer systemau dŵr, unedau aerdymheru a systemau perthnasol.


Canllaw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i fusnesau ar gasglu data personol ar gyfer olrhain cysylltiadau

Wrth i fusnesau lletygarwch ddechrau ailagor mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau cychwynnol i fusnesau y gofynnir iddyn nhw gofnodi a chadw data personol cwsmeriaid, staff ac ymwelwyr i gefnogi’r cynllun profi ac olrhain.   Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

Noder, bydd canllawiau manwl ar gasglu a chadw data yn cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru yfory. Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf yn y cylchlythyr yfory.


Manteisio i’r eithaf ar eich presenoldeb ar Croeso Cymru

Wrth i Gymru agor yn araf bach, gallai fod yn amser da i edrych ar eich presenoldeb ar-lein.  Os ydych wedi eich rhestru ar www.croeso.cymru mae’n werth gwneud yn siŵr fod eich manylion yn gyfredol a manteisio ar y nodweddion newydd.  I wneud hyn, cofrestrwch ar y rhestr lleoliadau.  

Edrychwch ar yr enghreifftiau isod o leoliadau sy’n defnyddio rhai o’r nodweddion newydd: 

Beth sy’n newydd?

Rydym wedi gwrando ar eich adborth ac wedi gwneud rhai gwelliannau i’r wefan, dyma rai enghreifftiau o’r nodweddion newydd: 

  • Rydym wedi gwella’r hidlwr ar y chwiliad am y lleoliad i’w wneud yn haws ichi ddod o hyd i leoliadau yn ôl ardal. 
  • Cewch ychwanegu fideo nawr i’ch manylion – nodwedd wych i ddangos pobl o amgylch eich lleoliad. 
  • Rydym wedi dechrau defnyddio delweddau mawr, dylai delweddau bellach fod yn 1920 picsel fesul 1440 picsel (gwnewch yn siŵr mai chi sy’n berchen yr hawlfraint neu eich bod wedi derbyn caniatád deiliad yr hawlfraint i ddefnyddio’r delweddau at ddibenion hyrwyddo).   
  • Cewch nawr rannu eich sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol drwy restru eich cynnyrch.
  • Rydym wedi datblygu Awgrymiadau i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o’ch manylion.

Os hoffech help gyda mewngofnodi neu ddiweddaru eich manylion, anfonwch e-bost at Stiward Data Croeso Cymru vw-steward@nvg.net, ffoniwch 0330 808 9410 neu sgwrs fyw wrth ddefnyddio’r pecyn rhestru lleoliadau. 


COVID-19 arolwg Traciwr Defnddwyr Twristiaeth y DU

Mae’r adroddiad wythnosol diweddaraf gan ein harolwg Traciwr Defnddwyr y DU bellach ar gael ar wefan Visit Britain yn dangos canfyddiadau wythnos 7 gan gynnwys 29 Mehefin i’r 3 Gorffennaf.  Mae hwn yn rhoi’r canlyniadau diweddaraf inni o agweddau a bwriadau ynghylch cymryd gwyliau yn y DU a Chymru eleni.  Mae adroddiad manwl ar broffil ymwelwyr ledled Prydain hefyd wedi’i gyhoeddi sy’n seiliedig ar y gwaith maes o 4 wythnos o’r 18 Mai i’r 12 Mehefin. 

Mae Adroddiad Proffil Cymru, yn cynnwys yr un cyfnod, ar y rhai sy’n bwriadu ymweld â Cymru a’r mathau o deithiau y maent yn bwriadu eu cymryd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:

  • Ymhlith preswylwyr y DU sy’n cynllunio gwyliau haf eleni, Cymru yw’r drydedd gyrchfan fwyaf poblogaidd, wedi yr Alban a De-orllewin Lloegr. 
  • Mae’n debygol y bydd Cymru yn denu amrywiol fathau o ymwelwyr eleni.  Teuluoedd yw’r gyfran uchaf o ymwelwyr sy’n bwriadu dod i Gymru dros gyfnod yr haf. 
  • Mae’r rhai sydd am ddod i Gymru yn bwriadu dod am amrywiol fathau o wyliau, ond ‘cefn gwlad neu bentref’, ‘tref arfordirol/glan môr draddodiadol’ ac ‘arfordir gwledig’ yw’r tri mwyaf poblogaidd yn ystod yr haf. 
  • Mae llety hunanddarpar masnachol (megis bwthyn gwyliau wedi’i rentu), carafanau/gwersylla a chartrefi preifat (gan gynnwys aros gyda ffrindiau/teulu neu gartrefi preifat masnachol megis Airbnb) yn dri gategori llety a ffefrir ar gyfer teithiau i Gymru yr haf hwn, ac wedi hynny gwestai a tai llety/Gwely a Brecwast.  
  • Mae hanner y bobl sy’n bwriadu ymweld â Chymru yn ystod yr haf yn bwriadu i’w taith fod yn wyliau o 4+ noson ac ychydig dros ddwy ran o bump yn disgwyl cael gwyliau byr.  Ym misoedd y gaeaf, mae disgwyl i fwyafrif y teithiau fod yn wyliau byr.

Tasglu Twristiaeth COVID-19

Ar ddechrau’r argyfwng COVID-19 gofynnodd Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon am sefydlu corff i gynrychioli’r sector twristiaeth er mwyn trafod effaith yr argyfwng ar y diwydiant.  Mae’r gwaith hwn wedi cynnwys nifer o haenau, gan gynnwys themâu cyffredin megis bylchau yn y pecynnau cyllido a syniadau er mwyn lliniaru’r problemau.  

Mae’r grŵp – y cyfeirir ato weithiau fel y Tasglu Twristiaeth o dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, Jason Thomas, ac mae’n cynnwys pedwar Cadeirydd y Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol, cynrychiolwyr Cymru ar Visit Britain a Chyngor Diwydiant Twristiaeth y DU,  Cynghrair Twristiaeth Cymru, UK Hospitality Cymru a thîm twristiaeth uwch Jason Thomas.  Cewch weld cylch gorchwyl y grŵp yma, gan gynnwys ei aelodau. 

Bu’r grŵp yn allweddol wrth helpu Croeso Cymru i dynnu sylw Gweinidogion at anghenion penodol y sector twristiaeth, gan gynnyws y Prif Weinidog.  Mae’r Dirprwy Weinidog wedi datgan, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd iawn, y byddai ysbryd ac agwedd positif y grŵp, gyda chefnogaeth eu cydweithwyr a’u timau, yn cadw y sector ynghŷd ac yn dod drwy’r argyfwng.   Mae Adroddiadau y cytunwyd arnynt o gyfarfodydd blaenorol bellach ar gael ac yn cael eu diweddaru bob wythnos. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).  Mae’r bwletinau diweddaraf isod:

  • 06 Gorffennaf: Y Prif Weinidog yn gofyn i bobl fod yn ddiogel wrth ymweld â Chymru
  • 03 Gorffennaf: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 02 Gorffennaf: Bwletin - Amserlen ar gyfer ailagor sector twristiaeth a lletygarwch Cymru yn raddol
  • 29 Mehefin: Bwletin - Canllawiau’r Economi Ymwelwyr
  • 26 Mehefin: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 19 Mehefin: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 11 Mehefin: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 09 Mehefin: Y Gronfa Cadernid Economaidd; datganiad y Prif Weinidog ar dwristiaeth
  • 05 Mehefin: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 03 Mehefin Bwletin - Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a chadarnhau’r camau nesaf ar gyfer ffyrlo; Y Gronfa Cadernid Economaidd; COVID-19 – Traciwr Ymddygiad Defnyddwyr; Yswiriant Tarfu ar Fusnes; Profi, Olrhain, Diogelu: canllawiau i gyflogwyr; Canllawiau Arferion Gorau ar weithio’n ddiogel

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill i gael y newyddion diweddaraf drwy danysgrifio i’n cylchlythyr.

HomepageFacebookTwitterInstagram