Rhannau helaeth o ddiwydiannau ymwelwyr, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth Cymru i ail-agor. Cyhoeddwyd manylion hefyd ynghylch pryd y gall tafarndai, caffis a bwytai ailagor yn yr awyr agored a thrinwyr gwallt, barbwyr a siopau trin gwallt symudol ailagor drwy apwyntiad. Gall y diwydiant harddwch ehangach, gan gynnwys tatwyddion, hefyd ddechrau paratoi i ailagor.
Yn cynnwys toriadau TAW i'r sectorau twristiaeth a lletygarwch, bonws cadw swyddi i gyflogwyr sy'n dod â gweithwyr ar ffyrlo’n ôl, a chynllun swyddi 'KickStart'.
Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i ailddechrau eich busnes yn ddiogel, mae gan ‘Diogelu Cymru yn y Gweithle ' ganllawiau, enghreifftiau ac adnoddau manwl i’ch helpu.
Nod ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yw codi ymwybyddiaeth o fwyd a diod gwych o Gymru. Cymerwch ran drwy lawrlwytho a rhannu'r pecyn cymorth ar eich cyfryngau cymdeithasol.