Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - July 2020

Gorffennaf 2020 • Rhifyn 015

 
 

Newyddion

#CaruCymruCaruBlas

Nod ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yw codi ymwybyddiaeth o fwyd a diod gwych o Gymru ac annog y gymuned Gymreig i gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru. Fel rhan o'r ymgyrch, cynhelir Diwrnodau Dathlu Bwyd a Diod o Gymru, gan ddechrau gyda’r cyntaf a gynhelir ar: Ddydd Gwener 3 Gorffennaf 2020 ynghyd â dau ddiwrnod arall – un ym mis Awst, ac un ym mis Medi.

Caru cymru Caru Blas

Ymgyrch #CaruCymruCaruBlas yn annog siopwyr i ddangos eu cariad at ddiwydiant bwyd a diod Cymru

Nod yr ymgyrch yw annog pobl i barhau i gefnogi cynhyrchwyr a manwerthwyr Cymru drwy brynu cynhyrchion bwyd a diod o Gymru – naill ai yn y siopau neu ar-lein.

Siaradwyr yr Weminar

Llywodraeth Cymru, mewn Partneriaeth â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: Ymateb Cenedlaethol i Covid-19

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gyda chefnogaeth y Bwrdd Bwyd, cynhaliwyd gweminar ar 2 Gorffennaf gyda dros 130 o fusnesau i drafod argyfwng COVID-19 a'i effaith ar weithgynhyrchu bwyd. Roedd y gweminar yn canolbwyntio ar fusnesau bwyd yn gweithredu i safonau uchel er mwyn lleihau'r risg y gallai'r gweithlu gontractio a lledaenu COVID-19 yn y gweithle. Cafodd y gweminar dderbyniad da iawn.

Andy Richardson

Nodyn gan Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru - Mehefin 2020

Wrth i ni barhau i wynebu’r newidiadau cyflym o ran effeithiau pandemig Covid-19, a gyda rhai o
ddyddiadau allweddol Brexit ar y gorwel, mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru wedi bod yn
siarad â'r Llywodraeth a’r diwydiant yn gyson er mwyn cael yr arweiniad a'r cymorth gorau posibl yn
ystod y cyfnod ymestynnol yma.

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Penodi Aelodau Newydd o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

O ganlyniad i COVID-19 ataliwyd ymgyrch recriwtio Adran yr Amgylchedd, Ynni a Manterion Gwledig Llywodraeth Cymru ar gyfer aelodau ychwanegol i Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru (BDBDC). Mae'r ymgyrch yn cael ei ailgychwyn yn ystod y mis hwn (Gorffennaf 2020). Bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud yng Nghylchlythyr BDBDC. Mae linc cofrestru i gylchlythyr BDBDC ar welod y cylchlythyr hwn.

Y Bwrdd yw llais y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Mae'n rhoi cyfeiriad, yn annog rhwydweithio ac yn rhannu gwybodaeth hanfodol. Hefyd, mae'n darparu ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol o gynnig cyngor i'r Llywodraeth.

 

Canolfan Arloesi

Arloesi Bwyd Cymru

Mewn cydweithrediad â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, rydym wedi crynhoi rhai o’r ystyriaethau sy’n ofynnol ar gyfer gweithgynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru mewn perthynas â’r risgiau a gyflwynir gan Coronavirus.

Dogfen ar Cig

Cyhoeddi canllawiau coronafeirws newydd ar gyfer safleoedd prosesu cig a bwyd

Cyngor i helpu safleoedd prosesu cig a bwyd i reoli risg COVID-19 i weithwyr.

Diogelwch Cymru
Cymorth Cofid-19

COVID-19: Cymorth i Fusnes

Mewn ymateb i achosion COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mesurau i gynorthwyo busnesau drwy'r cyfnod anodd hwn gan ymestyn y Gronfa Cadernid Economaidd ymhellach a chyflwyno Grant Busnes Newydd i fusnesau yng Nghymru, sy’n ychwanegol i’r cymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU.

Rhedeg eich busnes

Mae Busnes Cymru'n cefnogi pobl sy’n dechrau, yn rhedeg neu’n tyfu busnes. Rhoddir cyngor ar-lein, dros y ffôn ar ein Llinell Gymorth, neu wyneb-yn-wyneb, ac mae ein 10 canllaw gorau’n trafod hanfodion fel cyllid, cymorth technegol, ennill sgiliau masnachol, datblygu busnes, marchnata, eiddo a lleoliad, a mentora.

Nol i Gwaith

Adnoddau Dynol: Dychwelyd i'r gwaith yn dilyn y cyfyngiadau symud

Mae mwy a mwy o fusnesau’n paratoi i ddychwelyd i’r gwaith wrth i gynlluniau’r llywodraeth yn ymwneud â lleihau cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol barhau i ddod i’r amlwg. Mae’r daflen wybodaeth hon a ddatblygwyd gan Corinna Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Menter a Busnes, yn amlinellu rhai o’r ystyriaethau cyflogaeth sy’n berthnasol ar hyn o bryd.

Cymorth i Fusnesau

Mae Cam 2 Cronfa Cadernid Economaidd ar gyfer ceisiadau yn cau heddiw (Gorffennaf 10) am 5yp

Mae’r Gronfa wedi’i llunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth grant eraill nad oes angen eu had-dalu oherwydd COVID-19 gan Lywodraeth Cymru.

Trosglwyddo egni

Lansio Cyfnod 1 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol i gefnogi busnesau ar y llwybr i Sero-Net

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio Cyfnod 1 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd y rhaglen gyllid yn cefnogi busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni i drawsnewid i ddyfodol carbon isel a lleihau eu hallyriadau drwy ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon a datgarboneiddio.

Furlough
Tuck In
GO Award

Is-adran fwyd Llywodraeth Cymru yn cael ei anrhydeddu am ragoriaeth ym maes caffael yng Ngwobrau GO Cymru Ar-lein 2020

Cafodd Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru (Prif bartner), partneriaid traws-lywodraethol Llywodraeth Cymru – Arloesi Iechyd, Addysg, Caffael, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Innovate UK, Strategaeth arloesi ei anrhydeddu ochr yn ochr â goreuon cymuned gaffael Cymru yn ddiweddar yng Ngwobrau GO Cymru, Rhagoriaeth mewn Caffael Cyhoeddus, a gynhaliwyd ar 19 Mehefin.

 

AMRC Cymru

Arwain Gweithgynhyrchwyr i’r Normal Newydd

Bydd glasbrint ar gyfer gweithredu’n ddiogel a chynhyrchiol gan gynhyrchwyr yn ystod cyfnod COVID-19 yn rhoi hyder i’r diwydiant bwyd yng Nghymru i fedru addasu i’r dull gweithredu normal newydd fel y dechreuwn ddod.

 

Maggie

Maggie’s Exotic Foods

Cafodd Margaret Ogunbanwo ei magu a’i haddysgu yn Nigeria. Sefydlodd ei busnes, Maggie’s Exotic Foods, mewn ymgais i ail-greu rhai o’r bwyd bendigedig a gafodd ei magu yn ei fwyta. Ysbrydolwyd y busnes gan angerdd Maggie am ei threftadaeth Affricanaidd, a’i chariad at fwyd, coginio a gweld pobl ifanc, yn enwedig menywod, yn tyfu i'w llawn botensial.

Sciliau gwaithio

Dywedwch eich dweud am y newidiadau i Brentisiaethau Bwyd a Diod (Saesneg yn unig)

Mae prentisiaethau Bwyd a Diod Cymru yn rhaglenni dysgu a gynlluniwyd gan gyflogwyr i helpu recriwtio a hyfforddi staff a chynhelir adolygiad a diwygiad gan y Llywodraeth. Mae ymgynghoriad yn mynd rhagddo ynghylch newidiadau arfaethedig i'r prif lwybrau prentisiaeth a ddefnyddir gan fusnesau a'r cyngor sgiliau sector. Mae'r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer bwyd a diod yn cynnal dau ymgynghoriad ar-lein. Bydd y cysylltiadau yma ac yma yn mynd â chi i fanylion y newidiadau arfaethedig ac i'r ymgyngoriadau.

 

Os yw prentisiaethau'n bwysig i'ch busnes a/neu eich sector, mae'n HANFODOL bod busnesau'n cael gwybod am y diwygiadau ac dim ond amser byr y bydd yr ymgynghoriad yn ei gymryd i gwblhau. Rydym yn gwerthfawrogi bod gan fusnesau lawer o bwysau i ymgodymu â nhw ar hyn o bryd ond cofiwch gymryd ychydig o amser i ymateb i'r ymgynghoriad hynod bwysig hwn.

 

Economi Gogledd Cymru

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau yn ystod y cyfnod anodd yma. Maent wedi cynhyrchu arolwg busnes i edrych ar effaith COVID-19, sut mae wedi effeithio ar fusnesau lleol a’i diwydiannau er mwyn cael dealltwriaeth o’r anghenion ynghyd a’r hyn sydd ei angen er mwyn cefnogi adferiad bydd y cyfyngiadau yn cael ei codi.

Pysgotwyr

Bandiau Bodiau Yn Helpu i Dynnu Sylw At Gimychiaid Cymru

Mae cimychiaid o Gymru yn gobeithio sefyll allan wrth i gynllun ‘bandiau bodiau wedi’u brandio’ gael ei lansio. Ar ôl dal cimychiaid, caiff bandiau rwber eu gosod ar eu bodiau i'w hatal rhag anafu eu hunain a'r rhai sy'n eu trin. Mae'r cynllun newydd yn golygu bod bandiau’n cael eu gosod ar gimychiaid i ddangos yn glir eu bod wedi cael eu dal yn nyfroedd Cymru gan bysgotwyr o Gymru

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

I gael y newyddion, y wybodaeth a'r cymorth diweddaraf ar gyfer sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, cofrestrwch ar gyfer y Cylchlythyr wythnosol yn y linc uchod.

Digwyddiadau

Wythnos Gwin Cymru: 27 Gorffennaf - 2 Awst

Wythnos Gwin Cymraeg

Cyfle i ddarganfod mwy am ein cynhyrchwyr annibynnol a'u gwinoedd sy'n cael eu tyfu ym microhinsoddau cwbl unigryw Cymru.

Nordic

Ymweliad Datblygu Masnach Rhiwthwir - Y Nordics

Rydym yn gwahodd ceisiadau oddi wrth aelodau Clwb Allforio Bwyd a Diod Cymru i gymryd rhan mewn Ymweliad Datblygu Masnach rhithwir ȃ Denmarc, y Ffindir, Norwy a Sweden a gefnogir gan Bwyd a Diod Cymru. Ein partneriaid yn y farchnad fydd yn darparu'r rhaglen allgymorth ar gyfer pob gwlad yw'r Adran Masnach Rhyngwladol (DIT).

Cyllid grant

Adeiladu gwytnwch ariannol yn sector bwyd a diod Cymru – yn canolbwyntio ar gredyd masnach

Mae Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cy Cymru yn eich gwahodd i ymuno â gweminar i
ddeall sut y gall y cymorth yswiriant credyd masnach a gefnogir gan y llywodraeth
helpu eich busnes. Mae pandemig Covid-19 wedi bod yn hynod o heriol i fusnesau
bwyd a diod, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn y maes gwasanaeth bwyd.

Cyfryngau Cymdeithasol.

Instagram

Mae gan Bwyd a Diod Cymru cyfryngau cymdeithasol newydd. Dilynwch ni ar ein cyfrif Instagram Bwyd_a_Diod_Cymru a dilyn holl bethau bwyd a diod - newyddion, digwyddiadau a mwy #bwydadiodcymru

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN

E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilyn ar-lein: @BwydaDiodCymru