Bydd cronfa gwerth £5 miliwn yn cefnogi busnesau newydd sy'n syrthio drwy rhwyd y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogaeth Llywodraeth y DU, gan mai dim ond yn 2019 y dechreuwyd fasnachu.
Bydd y grant yn rhoi cymorth hanfodol i'r rhai a sefydlodd eu busnes rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020, ac yn eu helpu i barhau i fasnachu drwy’r argyfwng Covid-19.
Daw’r opsiwn i ohirio talu TAW i ben ar 30 Mehefin 2020. Rhaid i’r enillion TAW gyda dyddiad taliad dyledus ar ôl 30 Mehefin gael eu talu’n llawn ac ar amser.
Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i ailddechrau eich busnes yn ddiogel, mae gan ‘Diogelu Cymru yn y Gweithle ' ganllawiau, enghreifftiau ac adnoddau manwl i helpu eich busnes.