Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

26 Mehefin 2020


bulletin image

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


Rydym yn Barod

Mae Croeso Cymru wedi gweithio gyda sefydliadau twristiaeth cenedlaethol eraill ar safon diwydiant i'r DU gyfan a nod defnyddwyr i roi sicrwydd wrth i'r sector weithio tuag at ailagor.

Mae’r safon ‘Barod Amdani’ ar gyfer y diwydiant a’r nod atodol yn golygu y gall busnesau ddangos eu bod yn cadw at ganllawiau y Llywodraeth a iechyd y cyhoedd, wedi cynnal asesiad risg COVID-19 ac wedi edrych a ydynt wedi sefydlu y prosesau gofynnol. 

Cewch ymuno â’r cynllun yn ddi-dâl ac mae ar agor i bob busnes ar draws y diwydiant.

Er mwyn derbyn y nod bydd yn rhaid i fusnesau lenwi hunan-asesiad drwy blatfform ar-lein gan gynnwys rhestr wirio yn cadarnhau eu bod wedi trefnu’r prosesau angenrheidiol, cyn derbyn tystysgrif a’r nod ‘Barod Amdani’ i’w arddangos ar eu safle ac ar-lein.

Bydd busnesau yng Nghymru yn gallu gwneud cais am y nod o ddechrau'r wythnos nesaf.

Cewch fwy o fanylion ar wefan https://goodtogo.visitbritain.com/


Grant Busnesau Newydd i gefnogi busnesau yng Nghymru

Mae Mark Drakeford y Prif Weinidog wedi cyhoeddi grant heddiw i gefnogi busnesau newydd i ddelio gydag effaith ddifrifol y Coronavirus.

Bydd y gronfa yn werth £5miliwn i ddechrau gyda hyblygrwydd ar gyfer y dyfodol.  Bydd yn cefnogi cwmnïau newydd, sydd y tu allan i Gynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig Llywodraeth y DU gan iddynt ond dechrau masnachu yn ystod 2019.

Bydd y ceisiadau ar gyfer y grant hwn yn agor ar 29 Mehefin.

Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y ‘Grant Busnesau Newydd’ o hyd at £2,500, rhaid i fusnesau:

  • fod heb dderbyn arian o’r Gronfa Cadernid Economaidd na’r Grant Ardrethi Annomestig
  • fod wedi’u sefydlu rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020 a heb fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
  • fod â llai na £50,000 o drosiant
  • fod wedi profi gostyngiad o fwy na 50% mewn incwm rhwng Ebrill-Mehefin 2020

Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru

Gallwch ddarllen y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cronfa Cadernid Economaidd Cam 2 - Cwestiynau ac Atebion

Mae cwestiynau am Gam 2 or Gronfa Cadernid Economaidd ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Mae’r gwiriwr cymhwysedd ar-lein wedi ailagor bellach er mwyn i gwmnïau gael amser i baratoi eu ceisiadau, a bydd busnesau yn gallu gwneud ceisiadau ar 29 Mehefin 2020.

Cwblhewch y gwiriwr cymhwysedd am gymorth COVID-19 i weld ydy’ch busnes chi’n gymwys.


Ymestyn y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig

Os ydych chi’n gymwys, mae’n rhaid i chi wneud cais am y grant cyntaf ar neu cyn 13 Gorffennaf 2020.  Mae’r cynllun hwn yn cael ei ymestyn, a byddwch yn gallu hawlio ail grant, sef y grant terfynol, ym mis Awst 2020. 

Byddwn yn pennu’ch cymhwystra yn yr un modd ag y gwnaethom ar gyfer y grant cyntaf.Os byddwch yn cyflwyno hawliad ar gyfer yr ail grant, bydd yn rhaid i chi gadarnhau bod coronafeirws wedi effeithio’n andwyol ar eich busnes ar neu ar ôl 14 Gorffennaf 2020.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru


Cynllun grant ardrethi annomestig yn cau i geisiadau newydd ar 30 Mehefin 2020

Bydd cynllun grantiau Covid-19 i fusnesau sydd wedi cofrestru i dalu ardrethi annomestig yn cau ar gyfer unrhyw geisiadau newydd am 5yh ar 30 Mehefin 2020.

Os ydych yn gymwys a heb gyflwyno cais eisoes, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno cais drwy’ch awdurdod lleol cyn y dyddiad yma.

Bydd unrhyw geisiadau a dderbyniwyd ar ôl 5yp ar 30 Mehefin 2020 yn cael eu diystyru.

Mae mwy o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Diweddariad CThEM – gohirio taliadau TAW

Fel rhan o gefnogaeth Llywodraeth y DU i fusnesau yn ystod COVID-19, rhoddodd CThEM yr opsiwn i fusnesau ohirio eu taliadau TAW os nad oeddent yn gallu talu ar amser, heb orfod talu llog ynghlwm wrth daliadau hwyr neu gosbau. Gellir gohirio talu TAW sy’n ddyledus rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 tan 31 Mawrth 2021.

Daw’r opsiwn i ohirio talu TAW i ben ar 30 Mehefin 2020. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r enillion TAW gyda dyddiad taliad dyledus ar ôl 30 Mehefin gael eu talu’n llawn ac ar amser.

Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Grantiau Busnesau Bach

Mae Salesforce yn gweithio mewn partneriaeth ag Enterprise Nation i gynnig cyfle i fusnesau bach cymwys dderbyn grant o £5,000 i’w helpu drwy’r argyfwng COVID-19.

Bydd ceisiadau’n agor mewn chwe chyfnod rhanbarthol ledled y DU.  Gellir cyflwyno ceisiadau yng Nghymru am 8:00 am ar 13 Gorffennaf 2020 hyd 11:59 pm ar 19 Gorffennaf 2020.

Bydd gofynion cymhwysedd yn berthnasol. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cynllun Ad-dalu Tâl Talwch Statudol

Mae Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Llywodraeth y DU yn parhau i ddarparu cymorth ariannol i gyflogwyr bach a chanolig.

Os ydych chi’n gyflogwr gyda llai na 250 o weithwyr, ac os ydych chi wedi talu Tâl Salwch Statudol i weithwyr am absenoldeb salwch sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, gallech chi fod yn gymwys i gael cymorth.

Cewch fwy o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Cynllun Cadw Swyddi

Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn dod i ben ar 31 Hydref 2020 mae canllawiau gan Llywodraeth y DU ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).  Mae’r bwletinau diweddaraf isod:

  • 19 Mehefin: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 11 Mehefin: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 09 Mehefin: Y Gronfa Cadernid Economaidd; datganiad y Prif Weinidog ar dwristiaeth
  • 05 Mehefin: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 03 Mehefin Bwletin - Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a chadarnhau’r camau nesaf ar gyfer ffyrlo; Y Gronfa Cadernid Economaidd; COVID-19 – Traciwr Ymddygiad Defnyddwyr; Yswiriant Tarfu ar Fusnes; Profi, Olrhain, Diogelu: canllawiau i gyflogwyr; Canllawiau Arferion Gorau ar weithio’n ddiogel

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill i gael y newyddion diweddaraf drwy danysgrifio i’n cylchlythyr.

HomepageFacebookTwitterInstagram