Dyma’r pymthegfed rhifyn o’n cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf wrth inni weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Gwnaethom gyhoeddi a mabwysiadu'r Cynllun ar 12 Tachwedd 2019. Wrth inni weithredu'r cynllun gyda'r rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, hoffem glywed eich barn chi felly cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. I'r rheini ohonoch sydd heb ddarllen y cylchlythyr hwn o'r blaen, mae fersiynau blaenorol ohono i'w gweld yma. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr.
Y wythnos hon gwnaethom gyhoeddi’r Arweiniad Cyflawni sy’n rhoi canllawiau ymarferol ar weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae’n rhoi rhagor o fanylion ynghylch y polisïau yn yr CMCC i helpu i sicrhau ei fod yn cael ei gyflawni mewn modd effeithiol a chyson. Mae’r ddogfen yn rhoi gwybodaeth am y gofynion cydsynio perthnasol, trefniadau llywodraethu, deddfwriaeth arall a diffiniadau o’r termau a ddefnyddir yn yr CMCC, yn ogystal â chanllawiau penodol sy’n berthnasol i bob polisi yn yr CMCC. |
|
|
Mae’n rhaid i Awdurdodau Cyhoeddus ystyried yr Arweiniad Cyflawni wrth wneud penderfyniadau a allai gael effaith ar ardal y cynllun. Dylid ei ystyried ochr yn ochr â pholisïau, canllawiau a thystiolaeth anstatudol arall sy’n gysylltiedig â’r cynllun i ategu cynllunio morol yng Nghymru, a bydd yn cael ei ddiweddaru o dro i dro. Nid yw’r Arweiniad Cyflawni yn cyflwyno polisïau cynllunio newydd, a dylid ei ddarllen ochr yn ochr â’r CMCC. Dyma un o gyfres o gynhyrchion y mae’r tîm Cynllunio Morol yn eu creu i helpu defnyddwyr i weithredu Cynllun Morol cyntaf Cymru.
Mae prosiect ynni’r môr gwerth £60 miliwn a fydd yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, wrth adfer economi Sir Benfro yn dilyn COVID-19, wedi cael y golau gwyrdd. Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru bellach wedi cymeradwyo’r achos busnes ar gyfer Prosiect Ardal Forol Doc Penfro, y disgwylir iddo ychwanegu £73.5 miliwn y flwyddyn at economi Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Disgwylir i’r prosiect greu dros 1,800 o swyddi yn y 15 mlynedd nesaf. Mwy yma |
|
|
Yn ystod y cyfyngiadau symud rydym wedi parhau i drafod â’n grwpiau rhanddeiliaid allweddol drwy weminarau.
Cyfarfu’r Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol ar 19 Chwefror. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys yr Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol ac mae’n rhaid iddynt ystyried y cynllun wrth wneud eu penderfyniadau. Trafododd y grŵp y gwaith o weithredu a monitro’r cynllun, a dyletswyddau Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol. Mae crynodeb o’r cyfarfod yma.
Mae’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol yn gweithredu fel ‘cyfaill beirniadol’ drwy gydol y broses cynllunio morol ac yn rhoi cyngor inni ar ddulliau ar gyfer cynllunio morol. Mae’r grŵp hwn wedi cwrdd ddwywaith ers dechrau’r cyfyngiadau symud, i edrych ar ddull gofodol ar gyfer cynllunio, trafodaethau trawsffiniol a gweithredu. Mae crynodeb o’r cyfarfodydd ar 29 Ebrill ac 28 Mai ar gael drwy ddilyn y dolenni.
Cynhelir cyfarfodydd nesaf y ddau grŵp ym mis Gorffennaf.
Mae’r Datganiad Ardal Morol yma!
Mae CNC bellach wedi lansio’r Datganiadau Ardal y maent wedi eu creu gyda eu partneriaid lleol i helpu i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy ar lefel leol, ac i hwyluso blaenoriaethau’r Polisi Adnoddau Naturiol. Mae saith Datganiad Ardal sy’n cynnwys tiriogaeth Cymru, gydag un yn canolbwyntio ar yr ardal forol. |
|
|
Mae’r Datganiad Ardal Morol yn canolbwyntio ar dair thema: adeiladu cadernid ecosystemau morol; ategu’r gwaith o weithredu’r CMCC; ac atebion sy’n seiliedig ar natur ac addasu ar yr arfordir. Mae’n disgrifio beth mae llwyddiant ar gyfer arfordir a moroedd Cymru yn ei olygu i CNC a’i bartneriaid. Mae hefyd yn disgrifio’r camau a nodwyd i wireddu’r weledigaeth hon. Hoffai CNC glywed eich barn ar y nodau a’r camau a amlinellir yn y Datganiad Ardal Morol, a sut rydych chi’n credu y gallech chi gyfrannu at y gwaith o’u cyflawni. Cysylltwch ag CNC yma marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dull gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru o ran cyngor morol
Mae awdurdodau trwyddedu a datblygwyr yn ceisio cyngor CNC mewn perthynas ag effeithiau posibl gan ddatblygiadau arfaethedig ar yr amgylchedd morol ac arfordirol. Maent hefyd yn rhoi cyngor i’r llywodraeth a sefydliadau ar baratoi polisïau a chynlluniau. Y nod yw darparu cyngor sy’n helpu i sicrhau bod amgylchedd morol ac adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy, eu gwella a’u defnyddio er budd y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r cyngor yn gymesur â’r risg sy’n gysylltiedig â’r cynllun, y datblygiad neu’r gweithgaredd.
|
|
|
|
|
Yn ddiweddar mae CNC wedi gwneud newidiadau i’w strwythurau a’u gweithdrefnau i wella’r gwasanaeth maent yn ei ddarparu, gan gynnwys rhoi cyngor ar faterion morol. Maent wedi creu gwefannau newydd sy’n dangos eu gwaith ar brosiectau morol yn ddiweddar, a’u cyfraniadau atynt. Maent hefyd wedi creu canllawiau ar gyfer datblygwyr morol. Mae eu wefan yma.
Diweddaru y strategaeth cyllid Grant
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi diweddaru eu strategaeth cyllid grant yn ddiweddar i hwyluso’r camau gan eraill ac i sicrhau cydweithio. Mae canllawiau ynghylch y strategaeth hon bellach ar gael ar Wefan CNC ac mae wedi’i chynllunio i ganiatáu dull cyllido hirdymor, mwy hyblyg, sy’n ymateb yn well.
Cysylltwch a ni
Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau.
|