COHES3ION yn mynd yn rhithwir
Fel partner yn rhaglen Interreg yr UE cymerodd Llywodraeth Cymru ran mewn taith ddysgu rithwir i ranbarth Calabria yn yr Eidal i gael gwybod am eu strategaeth arbenigo clyfar.
Darllenwch fwy am raglen COHES3ION a'r arferion da a ddysgwyd o'r ymweliad
Advances Wales - Rhifyn 92 are gael nawr
Y dulliau o arloesi a welir yn y rhifyn hwn yn cynnwys system newydd i ddatgelu ymosiadau seibr ar ddyfeisiau clyfar a phlatfform arloesol i reoli’r defnydd o ynni.
Mae’r rhifyn hefyd yn cynnwys ymchwil sy’n torri tir newydd ym maes yr ymennydd yn dilyn torri aelod o’r corff i ffwrdd.
Cliciwch yma i weld y rhifyn diweddaraf
Rhaglen Sbarduno Arloesedd Trafnidiaeth Cymru
Ydych chi eisiau'r cyfle i sicrhau contract gyda Trafnidiaeth Cymru?
Darganfyddwch fwy am sut y gall y rhaglen sbarduno arloesedd helpu eich busnes i dyfu.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau yn ystod yr achosion o coronafirws, cliciwch yma
Cynhadledd Ar-lein y Metropole Ruhr
18 Mehefin 2020
Ymunwch â'r gynhadledd ar-lein i drafod ag arbenigwyr rhyngwladol enwog sut y gall dinasoedd a rhanbarthau Ewropeaidd gyflawni trawsnewidiad economaidd drwy arbenigo clyfar, yn enwedig yn erbyn cefndir argyfwng presennol pandemig coronafeirws.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru cliciwch yma
Cyflwyniad Ar-lein - Ar ôl Covid-19 - ni fydd unrhyw 'dychwelid i'r gyffredin'
23 Mehefin 2020, 11:00-12:00
Mae’r pandemig yn orfodi ni gyd i newydd ein dulliau gwaith a byw. Sawl o’r newidiadau hyn bydd yn barhaol? Beth bydd golwg yr “arferol newydd”. Yn yr araith yma, bydd Dr Christopher Haley o NESTA, y sefydliad arloesi, yn trafod rhai canlyniadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol o’r argyfwng yma, a chyflwyno rhai senario bosib y dyfodol.
Archebwch lle yma
Wythnos Technoleg Cymru
13-17 Gorffennaf 2020
Mae'r wythnos technoleg Cymru gyntaf erioed yn ŵyl o weminarau, yn weithdai ac yn ddigwyddiadau digidol i fusnesau technoleg a diwydiannau cefnogi yng Nghymru a thu hwnt.
Cofrestrwch yma
Beth am gofrestru ar gyfer ein Cymhorthfa Cyllid Arloesi Ar-lein i helpu'ch cwmni i gael gafael ar gyllid ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu, i gynnal prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol, ac i fasnacheiddio'r canlyniadau.
Cliciwch yma i gofrestru
|