Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

11 Mehefin 2020


bulletin image

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


Canllawiau Arferion Gorau ar weithio’n ddiogel – Yr Economi Ymwelwyr

Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ac sydd wedi cyflwyno adborth drwy’r Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol. Bydd y sylwadau hyn yn sail i’r Canllawiau drafft ar weithio’n ddiogel sydd wrthi’n cael eu paratoi ar gyfer yr Economi Ymwelwyr. Mae sawl sgwrs a neges e-bost wedi ategu’r tair sesiwn ymgysylltu ar-lein craidd y bu dros 100 o unigolion/sefydliadau yn rhan ohonynt gan fynegi eu barn ynghylch y fersiynau drafft cychwynnol.

Mae wedi sicrhau bod y Canllawiau i Gymru ynghylch yr Economi Ymwelwyr wedi’u llunio ar sail adborth o bob rhan o’r sector. Mae’r canllawiau hyn wrthi’n cael eu cwblhau’n derfynol a byddant ar gael yn fuan, ar y cyd â chyngor ynghylch cyfathebu, er mwyn helpu’r sector i baratoi i ddychwelyd yn ddiogel. Rydym yn gwerthfawrogi holl amser ac ymdrech y bobl sydd wedi ein helpu â’r gwaith yma.

Mae canllawiau amrywiol wedi’u llunio er mwyn Diogelu Cymru wrth i ni fynd ati’n raddol i ddatgloi ein cymdeithas a’n heconomi. Mae’r Canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac mae gwybodaeth allweddol ar gyfer busnesau hefyd ar gael yn busnescymru.llyw.cymru.

Mae canllawiau ar gyfer gweithredwyr a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus eisoes wedi’u cyhoeddi. Mae Canllawiau Cyffredinol hefyd wedi’u cyhoeddi ar gyfer Cyflogwyr a Gweithwyr a’r Sector Gweithgynhyrchu. Mae gwahanol Ganllawiau perthnasol hefyd wrthi’n cael eu llunio gan gynnwys Canllawiau ynghylch gweithio mewn swyddfeydd a Sectorau Cyswllt: Manwerthu a gweithio mewn cerbydau ac o gerbydau. 


Y Gronfa Cadernid Economaidd – ailagor gwiriwr cymhwystra i ddod i wybod a yw eich busnes yn gymwys am gymorth o’r cam nesaf

Gall busnesau bellach ddod i wybod a ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o gam nesaf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwiriwr cymhwysedd ar-lein wedi ail-agor yr wythnos hon a bydd busnesau yn gallu gwneud ceisiadau am gymorth o’r cam hwn o’r gronfa erbyn diwedd y mis.

Mae’r Gronfa wedi’i chynllunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau, nad ydynt yn gymwys am gynlluniau cymorth eraill Llywodraeth y DU.

Bydd cam nesaf y gronfa yn galluogi busnesau i gael mynediad at £10 miliwn yn ychwanegol o gymorth ariannol. Caiff ei dargedu at microfusnesau, BBaChau a busnesau mawr o bwysigrwydd economaidd hanfodol, sydd heb dderbyn cymorth hyd yma gan y Gronfa Cadernid Economaidd.


Gwerth dros £680m yn cyrraedd busnesau er mwyn eu cynorthwyo yn sgil COVID-19

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi bod gwerth dros £680 miliwn o grantiau cymorth wedi cyrraedd busnesau ar draws Cymru er mwyn eu helpu i ymateb i’r heriau ariannol sydd ynghlwm wrth y coronafeirws (COVID-19).

Mae’r ffigurau diweddaraf a gaiff eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod dros 56,000 o grantiau wedi’u talu i gwmnïau ar draws y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch y mae gwerth ardrethol eu heiddo yn £51,000 neu’n llai. Mae’r busnesau hyn hefyd yn elwa ar ryddhad ardrethi drwy’r pecyn gwerth £1.4 biliwn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yng nghyhoeddiad Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y cynllun grantiau ardrethi annomestig COVID-19 yn dod i ben am 5pm ar 30 Mehefin 2020 ac mae Gweinidogion Cymru yn annog unrhyw fusnesau nad ydynt eisoes wedi cyflwyno cais i gysylltu â’u hawdurdod lleol ynghylch y cymorth hwn. Mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.


System Olrhain Ymddygiad Defnyddwyr - COVID-19

Mae’r ail wythnos o ddata o’r arolwg defnyddwyr, a gynhaliwyd ar y cyd â Visit Scotland a Visit England, wedi’u cyhoeddi. Mae cerdyn sgorio defnyddiol sy’n amlinellu’r prif ganlyniadau a thueddiadau o waith maes bob wythnos ar gael i’w lawrlwytho: system olrhain ymddygiad defnyddwyr


Perfformiad twristiaeth Cymru: 2019

Mae Adroddiad ar Berfformiad Twristiaeth yn 2019 wedi’i gyhoeddi; adroddiad cynhwysfawr sydd yn cynnwys data 2019 o’r prif arolygon twristiaeth. Mae’r dadansoddiad yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i Ionawr-Rhagfyr 2019 ac felly cyn y sefyllfa COVID-19 presennol ac eithrio’r Arolwg Baromedr Twristiaeth.


Rheoliadau teithio newydd

Mae rheolau newydd bellach yn berthnasol i deithwyr o’r DU o 8 Mehefin 2020. Mae canllawiau ar gael ar gyfer pobl sy’n teithio i Gymru o’r tu allan i’r DU - i’r rhai hynny sy’n cyrraedd Cymru yn syth ac i’r rhai hynny sy’n cyrraedd porthladd mewn lleoliad arall yn y DU ac sydd yna’n teithio i Gymru. Rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud er mwyn diogelu Cymru rhag y coronafeirws wrth gyrraedd o wlad dramor.

Mae canllawiau hefyd ar gael syn esbonio pwy fydd wedi'u heithrio rhag dilyn y rheolau newydd ynghylch ffiniau Cymru a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws.


UKinbound – aelodaeth dros dro a gweminarau am ddim

UKinbound yw’r unig gymdeithas fasnach sy’n cynrychioli buddiannau sector twristiaeth y DU sy’n ymdrin ag ymwelwyr o dramor, ac mae’n sicrhau bod y sector yn cael ei gydnabod yn un o’r rhai pwysicaf yn y DU o ran sbarduno’r economi a chyflogaeth.

Mae UKinbound wedi lansio opsiwn newydd lle mae’n cynnig aelodaeth dros dro yn rhad ac am ddim oherwydd COVID-19. Mae am gynnig cefnogaeth i’r rhannau hynny o’r diwydiant twristiaeth ehangach a all fanteisio ar rai o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig fel arfer i aelodau llawn o UKinbound. Ymhlith rhai o’r manteision y mae gweminarau, y newyddion diweddaraf dyddiol am COVID-19 a newyddion rheolaidd ar gyfer y diwydiant, a chael bod yn rhan o weithgareddau lobïo’r gymdeithas.

Dim ond tan ddiwedd y flwyddyn aelodaeth gyfredol, sef 30 Medi 2020, y bydd yr opsiwn i fod yn aelod cyswllt dros dro ar gael. Gallwch wneud cais i fod yn aelod cyswllt dros dro drwy fynd i www.ukinbound.org.

Nodwch na fydd modd i chi ofyn cwestiynau gan fod yr holl weminarau yn cael eu recordio ymlaen llaw.


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).  Mae’r bwletinau diweddaraf isod:

  • 09 Mehefin: Y Gronfa Cadernid Economaidd; datganiad y Prif Weinidog ar dwristiaeth
  • 05 Mehefin: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
  • 03 Mehefin Bwletin - Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig a chadarnhau’r camau nesaf ar gyfer ffyrlo; Y Gronfa Cadernid Economaidd; COVID-19 – Traciwr Ymddygiad Defnyddwyr; Yswiriant Tarfu ar Fusnes; Profi, Olrhain, Diogelu: canllawiau i gyflogwyr; Canllawiau Arferion Gorau ar weithio’n ddiogel
  • 29 Mai: Aros yn lleol i ddiogelu Cymru: cyhoeddi newidiadau i’r cyfyngiadau symud
  • 28 Mai: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill i gael y newyddion diweddaraf drwy danysgrifio i’n cylchlythyr.

HomepageFacebookTwitterInstagram