Cylchlythyr Gwlad 29 Mai 2020

29 Mai 2020

 
 
 
 
 
 

Newyddion

Fferm

Ffurflen y Cais Sengl 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi bod deddfwriaeth wedi ei chyflwyno i estyn y dyddiad cau ar gyfer yr SAF i 15 Mehefin. Y gobaith yw y bydd gwneud hyn yn lliniaru’r effaith sylweddol mae’r argyfwng COVID-19 yn ei chael ar fusnesau ffermio.
Dylech ddweud wrth Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW ar unwaith os nad oes gennych fynediad at fand eang neu gyfrifiadur priodol er mwyn cyflwyno’r SAF ar-lein erbyn y dyddiad cau.

BPS

Elfen gwyrddu'r BPS - tyfu amrywiaeth o gnydau

O ganlyniad i’r tywydd eithriadol a’r mesurau presennol ar gyfer COVID-19, mae deddfwriaeth wedi’i chyflwyno i ddileu’r rheol sy’n ei gwneud yn ofynnol tyfu amrywiaeth o gnydau. Mae hyn yn golygu y gall cwsmeriaid y BPS fod yn gymwys ar gyfer y Taliad Gwyrddu drwy ddatgan tir pori parhaol ac ardal â ffocws ecolegol yn unig.

Coed

Creu Coetir Glastir

Mae’r cyfnod ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yng Nghynllun Creu Coetir Glastir bellach ar agor. Mae’r dyddiad cau wedi ei ymestyn tan 31 Gorffennaf 2020.
Bu nifer o newidiadau i’r broses ymgeisio ar gyfer Creu Coetir Glastir. Mae gwybodaeth bwysig am y newidiadau hyn ar gael ar ein wefan.

Pryfed Peillio

Grantiau Bach Glastir - Tirwedd a Phryfed Peillio 2019

Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19) presennol, mae’r dyddiad cau ar gyfer hawlio wedi cael ei estyn tan 30 Medi 2020. Rhaid i bob hawliad gael ei gyflwyno erbyn y dyddiad hwn.

Comin

Diweddariad i ganllawiau profi TB yn ystod coronafeirws (COVID-19)

Mae'r diweddariad diweddaraf ar brofion TB a symudiadau gwartheg i ac o dir comin yn ystod COVID 19 bellach ar gael.

Mae ein holl ganllawiau a chyngor ar brofion TB a phynciau perthnasol yn cael eu darparu a'u diweddaru ar TB Hub.

Mae prif swyddogion milfeddygol y DU yn adolygu'r mesurau hyn yn gyson a gwneir addasiadau i gyfarwyddiadau fel y bo'n briodol.

CTS

Anfon gwybodaeth am yr wybodaeth am wartheg ar-lein neu dros y ffôn

Gallwch anfon diweddariadau gwasanaeth symud gwartheg Prydain drwy SOG ar-lein, meddalwedd cymeradwy a llinell ffôn hunanwasanaeth.

Defaid

Cofrestru Da Byw a Chofnodi Symudiadau yn ystod coronafeirws (COVID-19)

Dylai ceidwaid da byw barhau i ddilyn y gofynion o safbwynt cofnodi symudiadau a chofrestru da byw. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cofrestru a chofnodi symudiadau da byw neu unrhyw gwestiynau ynghylch yr amserlenni presennol ar gyfer cofnodi dylech gysylltu â’r gwasanaeth perthnasol. Cliciwch ar y pennawd uchod i weld dolenni ar gyfer pob gwasanaeth.

Lorri

Pasbortau gwartheg: newidiadau dros dro i’r drefn o ofyn am newidiadau yn sgil y coronafeirws (COVID-19) 

Mae Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS) yn cyflwyno newidiadau dros dro i’r dull o ofyn am newidiadau i basbortau yn sgil pandemig y coronafeirws. 

Tir

Newidiadau i dir parhaol neu dir dros dro

Atgoffir ceidwaid bod yn rhaid iddynt gofnodi yn Rheoli fy CPH unrhyw newidiadau i'r tir y maent yn eu defnyddio ar gyfer da byw. Mae hyn yn cynnwys unrhyw newidiadau i dir parhaol a Chysylltiadau Tir Dros Dro.

Mae gofyn i bob ceidwad sydd â chyfyngiadau TB ddatgan bod y daliad dan gyfyngiadau wrth iddynt lenwi Rheoli fy CPH. 

Codesign

Cyd-gynllunio ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru

Gan weithio gyda Menter a Busnes, rydym yn ymgymryd â rhaglen gydlunio i gydweithio â ffermwyr i edrych ar rai o agweddau mwy ymarferol y cynigion a oedd yn rhan o’r ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir a gynhaliwyd y llynedd.

Lantra

Gwasanaeth paru sgiliau Cymru

Mae gwasanaeth newydd ar-lein, fydd yn paru gweithwyr gyda ceiswyr swyddi sy’n chwilio am waith amaethyddol, ar y tir a gwaith milfeddygol yn ystod yr achosion o coronafeirws (COVID-19), wedi cael ei lansio.

Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, caiff gwasanaeth peilot newydd ei ddarparu gan Lantra, y prif gorff dyfarnu ar gyfer y diwydiannau tir yng
Nghymru. Mae ffurflenni paru sgiliau yn hawdd i'w cwblhau a gellir eu cwblhau ar-lein drwy glicio ar y pennawd.

Cyswllt Ffermio

Datblygu eich sgiliau, datblygu eich busnes . . . gyda Cyswllt Ffermio

  • Mae cymhorthdal o hyd at 80% ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddiant fusnesau sydd wedi cofrestru
  • Mae mwy na 80 o gyrsiau ar gael, dan gategorïau Busnes, Tir a Da Byw
  • Rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant, wedi’u lleoli ledled Cymru
Wyn

Ŵyn cynffon dew Damara cyntaf yn cael eu geni yng Nghymru

Fis yma, mae Peter Williams a Bedwyr Jones wedi bod yn brysur yn croesawu’r ŵyn cynffon dew Damara cyntaf i’w geni yng Nghymru wedi gweithio gyda EIP Cymru ar y prosiect.

Coronafeirws

Coronafeirws (COVID-19) Newyddion

NRW

Lansio ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau i'r canllawiau ar gyfer asesu effaith amonia a nitrogen o ddatblygiadau amaethyddol a bydd yn cau ar 31 Awst 2020. 

WRN

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
MSBF

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Mae MSBF yn targedu prosiectau yn y sector Twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.

Paratoi Cymru

Wefan Paratoi Cymru

Ar 31 Ionawr gadawodd y DU yr UE ac rydym nawr mewn cyfnod pontio; yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y ffordd yr ydych yn gwneud busnes gyda'r UE yn newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi baratoi a gwneud newidiadau er mwyn parhau i wneud busnes ar ddiwedd y cyfnod pontio. Fe welwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Paratoi Cymru.

Mochyn daear

Beth i’w wneud os byddwch chi’n dod o hyd i fochyn daear marw

Os dewch o hyd i fochyn daear marw, dylech roi gwybod amdano, gan roi lleoliad y mochyn:

Tractor

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

 Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Facebookhttps://www.facebook.com/thedpjfoundation/

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: http://www.fcn.org.uk/

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: http://www.tirdewi.co.uk/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCAmgylchFferm

@LIC_Pysgodfeydd