Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: cyhoeddi map ffordd Cymru
Heddiw, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi datgelu map ffordd goleuadau traffig sy’n amlinellu sut gallai Cymru ddod allan o’r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws.
Mae’r map ffordd, Llacio'r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a'n heconomi: dal i drafod, yn rhan o ddull cydlynol a gofalus o lacio’r cyfyngiadau ac mae’n adeiladu ar ei chwaer bapur, 'Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad' a gyhoeddwyd ar 24 Ebrill.
O dan y rheolau presennol, mae’n rhaid i bobl yng Nghymru aros gartref a chynnal cyswllt oddi mewn i’w cartref yn unig, gydag eithriadau cyfyngedig.
Mae’r cyfyngiadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd yn bodoli er mwyn gwarchod iechyd pobl a rheoli lledaeniad y coronafeirws. Mae’r gyfraith yng Nghymru yn datgan yn glir mai dim ond tra maent yn angenrheidiol y gellir cadw’r cyfyngiadau hyn yn eu lle.
Diolch i ymdrechion arwrol pobl ledled Cymru, sydd wedi helpu i arafu lledaeniad y clefyd, mae’r Prif Weinidog yn cyhoeddi heddiw system goleuadau traffig coch, oren a gwyrdd er mwyn diffinio sut gellir dechrau llacio cyfyngiadau ar wahanol feysydd ym mywyd Cymru.
Bydd categorïau’r goleuadau traffig yn berthnasol ar draws bywyd Cymru, gan gynnwys y canlynol:
- ailagor ysgolion a chyfleusterau gofal plant
- gweld teulu a ffrindiau
- teithio yma ac acw
- chwarae gemau chwaraeon ac ymlacio
- gweithio neu gynnal busnes
- siopa
- defnyddio gwasanaethau cyhoeddus
- ymarfer ffydd ac achlysuron arbennig
Mae’r ddogfen yn datgan yn glir, o ystyried pwysigrwydd cyfyngu ar gyswllt cymdeithasol, y bydd rhaid gwneud penderfyniadau am flaenoriaethu – ac mae’n gwahodd barn pobl am hyn. Mae’n eithaf posibl y bydd Cymru yn ‘goch’ ar gyfer un math o weithgaredd, yn ‘oren’ ar gyfer un arall ac o dan gyfyngiadau symud o hyd ar gyfer trydydd un.
Bydd y penderfyniadau ym mhob cam yn seiliedig ar farn Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton, Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) Llywodraeth y DU a Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu o brofiad gwledydd eraill, yn ogystal â Chyd-ganolfan Bioddiogelwch newydd y DU.
Er mwyn osgoi ail don, a allai fod yn fwy na’r un gyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu’r seilwaith sydd ei angen i reoli achosion o’r clefyd yn y dyfodol. Cafodd hyn ei ddatgan yn y Strategaeth ‘Profi, Olrhain, Diogelu’ a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach yr wythnos hon.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Dros yr wyth wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld ymdrech anhygoel, ym mhob rhan o’n cymdeithas, i ymateb i’r her i’n ffordd o fyw yn sgil y feirws COVID-19 – her na welwyd mo’i thebyg o’r blaen.
O ganlyniad, rydyn ni, fel gwledydd eraill ar draws y byd, yn gallu dechrau meddwl sut y gallwn ddechrau llacio’r cyfyngiadau. Ond, wrth wneud hynny, mae’n hanfodol ein bod yn sylweddoli nad argyfwng tymor byr yw hwn. Hyd nes y ceir brechlyn neu driniaethau effeithiol, bydd raid inni fyw gyda’r clefyd yn ein cymdeithas a cheisio rheoli ei ledaeniad a lliniaru ei effeithiau.
Gan fod pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn wynebu’r un heriau, rydym ni wastad wedi bod yn gryf o blaid gweithredu fel pedair gwlad wrth fynd ati i godi’r cyfyngiadau.
Ond rhaid parchu hefyd y cyfrifoldeb sydd ar bob Llywodraeth i benderfynu pa mor gyflym y mae’n ddiogel gwneud newidiadau, a’r cydbwysedd y mae angen ei daro rhwng gwahanol ffyrdd o lacio – beth yw’r flaenoriaeth o ran caniatáu i bobl gwrdd â’u perthnasau agos, mynd i siopa neu i gael trin eu gwallt, dychwelyd i’r gwaith neu fynd am dro i lan y môr.
Cyfyng yw’r posibiliadau o ran llacio’r cyfyngiadau presennol, felly mae angen gwneud dewisiadau. Rydyn ni am wneud y dewisiadau hynny drwy ymgynghori â’n rhanddeiliaid a phobl Cymru.
Dyma pam rydyn ni’n cyhoeddi’r ddogfen hon, nid fel y gair olaf, ond fel rhan o sgwrs sy’n parhau.
Ond am y pythefnos nesaf, o leiaf, rwyf yn annog pawb yng Nghymru i gadw at y cyngor: Aros Gartref, Diogelu ein Gwasanaeth Iechyd ac Achub Bywydau.”
Darllenwch y datganiad i'r wasg yn llawn ar Llyw.Cymru.
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|