Y cymorth ariannol diweddaraf, yn ogystal â'r cymorth cynghori sydd ar gael drwy Busnes Cymru a phartneriaid allanol, a'r camau i ofalu am eich iechyd meddwl a lles.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar yr hyn y gallwch chi a’ch busnes ei wneud yn ystod yr argyfwng a beth sy'n digwydd os byddwch yn torri'r deddfau newydd hyn.
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru manylion y Cynllun Cadw Swyddi. Bydd y cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol hyd ddiwedd mis Gorffennaf gyda newidiadau i’r Cynllun ar ôl hynny.
Mae Llywodraeth y DU, mewn ymgynghoriad â’r diwydiant, wedi llunio canllawiau ‘diogel rhag COVID-19’ i helpu i sicrhau bod gweithleoedd mor ddiogel â phosibl.