Neges Prif Weinidog Cymru i Bobl Cymru
Ar ddydd Sul amlinellodd Prif Weinidog y DU y newidiadau bach y cynigir eu gwneud i’r cyfyngiadau symud yn Lloegr dros y tair wythnos nesaf.
Yma yng Nghymru mae’r rheoliadau’n newid i alluogi pobl i wneud ymarfer corff yn fwy rheolaidd ac i ganiatáu i ganolfannau garddio agor – os ydyn nhw’n cydymffurfio â rheolau cadw pellter cymdeithasol.
Nid yw cyngor Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru wedi newid:
- Os gallwch chi, dylech aros gartref.
- Os oes angen i chi adael y cartref i weithio, gwneud ymarfer corff neu siopa, dylech aros yn lleol ac aros yn wyliadwrus.
- Nid yw coronafeirws wedi diflannu
- Bydd y ffordd yr ydym yn ymddwyn dros yr wythnosau i ddod yn parhau i gael effaith ddwys ar ein Gwasanaeth Iechyd a'n gallu i achub bywydau.
- Os ydych yn mentro allan, arhoswch yn lleol ac arhoswch yn ddiogel.
Darllenwch fwy am Neges Prif Weinidog Cymru i Bobl Cymru a’r Rheoliadau coronafeirws: canllawiau Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu’r rheoliadau ac i ddiweddaru’r cwestiynau cyffredin ar y wefan i ateb cwestiynau’n cyhoedd.
Mae’r crynodeb sy’n egluro mynd allan i wneud ymarfer corff yng Nghymru yn ystod y cyfyngiadau symud coronafeirws yn Gadael y cartref i wneud ymarfer corff: canllawiau.
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru manylion y Cynllun Cadw Swyddi fel a ganlyn:
- Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn parhau hyd ddiwedd mis Hydref
- Bydd gweithwyr ar ffyrlo ledled y DU yn parhau i dderbyn 80% o’u cyflogau presennol, hyd at £2,500
- Bydd hyblygrwydd newydd yn cael ei gyflwyno o fis Awst i gael gweithwyr yn ôl i’r gwaith
Bydd y cynllun yn parhau ar ei ffurf bresennol hyd ddiwedd mis Gorffennaf a bydd y newidiadau i alluogi mwy o hyblygrwydd yn dod i rym o ddechrau fis Awst. Bydd manylion a gwybodaeth fwy penodol am sut bydd y cynllun yn cael ei weithredu ar gael cyn diwedd y mis.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Ewch i’r tudalennau Cyngor i fusnesau ar y coronafeirws ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.
Yn sgil y niferoedd enfawr o geisiadau a dderbyniwyd ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd i BBaCh, rydym yn cysylltu â busnesau i’w hysbysu bod eu ceisiadau yn cael sylw cyn gynted â phosibl. Darllen mwy am y diweddariad ynghylch cyllid
I’ch helpu gydol pandemig COVID-19 mae Busnes Cymru yn darparu podleoliadau sy’n cynnwys diweddariadau a gwybodaeth ar gyfer busnesau yng Nghymru.
Gwrandewch ar y podleoliad diweddaraf (Rhif 4 – Cymorth i Fusnesau - Twristiaeth) sy’n trafod sut y mae’r diwydiant twristiaeth wedi ymateb i’r argyfwng. Zoe Wright, Pennaeth Marchnata Folly Farm & Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth fydd yma i ddweud mwy.
Ewch i Podleoliadau Busnes Cymru i wybod mwy am y podleoliadau sydd ar gael.
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|