Bwletin Gwaith Ieuenctid

COVID-19 Rhifyn Arbennig 4 - 7 Mai 2020

 
 

Gair gan ein Cadeirydd

Keith Towler

Wrth i ni nesáu at ddiwedd y seithfed wythnos o gyfyngiadau symud mae llawer wedi digwydd mewn cyfnod mor fyr. Mae pob un ohonom wedi addasu'n gyflym iawn i ffordd newydd o weithio i gefnogi ein pobl ifanc. Yn y sefyllfa hon sy'n symud yn gyflym, dydy’r holl atebion ddim gennym ni eto, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni dderbyn bod hynny'n iawn. Bydd blaenoriaethau'n newid dros amser wrth i fwy o wybodaeth ddod i law a byddwn yn parhau i addasu'r hyn a wnawn.

Fodd bynnag yn ystod y cyfnod hwn mae'n dda gweld cyfraniad y gwasanaeth ieuenctid yn cael ei gydnabod yn Natganiad Ysgrifenedig diweddar y Gweinidog gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Roeddwn yn falch o ddarllen erthygl yn The Guardian hefyd a oedd yn canolbwyntio ar bwysigrwydd y gwasanaeth ieuenctid ym mywydau pobl ifanc. Cafwyd canmoliaeth i Gymru, gan gynnwys cyfeiriad at yr arian a oedd ar gael drwy'r Grant Cymorth Ieuenctid, ac roedd yr erthygl yn tynnu sylw hefyd at waith a oedd yn digwydd yn Nhorfaen, yn ogystal â sylwadau gan Youth Cymru. Rwy’n ddiolchgar i Gyngor y Gweithlu Addysg hefyd am gyhoeddi fy mlog: Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn ymateb i her cyfyngiadau symud.  Mae'r neges bod Gwaith Ieuenctid yn parhau i fod yn achubiaeth i rai pobl ifanc yn cael ei rhannu, doed a ddel.

Mae'r rhifyn hwn o'r Bwletin Gwaith Ieuenctid yn canolbwyntio ar wybodaeth – mae ateb cwestiynau pobl ifanc a rhoi gwybodaeth ieuenctid gywir iddyn nhw ar yr adeg hon yn hanfodol. Mae gwasanaeth llinell gymorth Meic yn cynnig awgrymiadau defnyddiol i bobl ifanc ar amrywiaeth o faterion gan gynnwys iechyd meddwl, perthynas ag eraill, tai a materion sy’n gysylltiedig â hawliau drwy fideos, adnoddau, erthyglau a chymorth uniongyrchol gan Eiriolwyr sy’n Ymgynghorwyr ar y Llinell Gymorth. Gallwn fod yn falch o waith y Rhwydwaith Trawsnewid Digidol i Ieuenctid yn y maes hwn, gan gynnwys y platfform rhannu gwybodaeth newydd sy'n cadw adnoddau gwerthfawr mewn un lle er mwyn helpu i osgoi dyblygu. Mae hwn yn adnodd cydweithredol, felly cofiwch gyflwyno unrhyw ddolenni a gwybodaeth ddefnyddiol sydd gennych yn uniongyrchol drwy'r platfform, gan ddefnyddio'r ddolen ar y dudalen we.

I gloi, hoffem i'r bwletin gyrraedd cymaint o wirfoddolwyr, ymarferwyr a rheolwyr gwaith ieuenctid ag sy'n bosibl, felly anogwch eich rhwydweithiau i gofrestru. Cofiwch mai eich bwletin chi yw hwn, felly cysylltwch â ni gyda'ch syniadau ar gyfer cynnwys yn y dyfodol drwy GwaithIeuenctid@llyw.cymru . Mae digon o arferion da i'w cael, ond mae angen i chi ein helpu ni i'w dathlu. 

Cymerwch ofal.

Keith Towler, Cadeirydd – Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru

Ffocws Arbennig - : Gwybodaeth Ieuenctid

child

Rydym yn canolbwyntio ar thema benodol ym mhob bwletin. Yn y rhifyn hwn rydym yn canolbwyntio ar wybodaeth ieuenctid.

O’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

Erthygl 13 (rhyddid mynegiant)

“Bydd gan bob plentyn yr hawl i fynegi ei syniadau a’i barnau ac i gael gafael ar bob math o wybodaeth oni bai fod hynny o fewn y gyfraith.”

Erthygl 17 (cael gafael ar wybodaeth o’r cyfryngau)

Mae gan bob plentyn yr hawl i gael gafael ar wybodaeth ddibynadwy o’r cyfryngau o amrywiaeth o ffynonellau, a thyle llywodraethau annog y cyfryngau i ddarparu gwybodaeth y gall plant deall. Rhaid i Lywodraethau diogelu plant rhag deunydd y gall eu niweidio.”

Wrth iddyn nhw dyfu, fydd pobl ifanc yn gwneud dewisiadau sy’n effeithio ar eu bywydau, ac felly mae’n dilyn dylid eu cynorthwyo i gael gafael ar wybodaeth a all helpu lywio'r dewisiadau hyn. Yn aml mae gan Waith Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid rhan ganolog i gefnogi  pobl ifanc i gynhyrchu gwybodaeth, cael gafael arno a’u ddehongli, ac mae hyn yn ymestyn ar draws llu o faterion. Mae’n hanfodol sicrhau cyfartaledd mewn cael gafael ar wybodaeth os yw pobl ifanc i ymgysylltu yn yr un modd, deall eu hawliau a’u cyfrifoldebau, a chymryd rhan lawn mewn bywyd a chymdeithas. Mae’r hawl i gael gafael ar wybodaeth wedi'i hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Mae’r gwaith ymchwil ar Wybodaeth Ieuenctid yn flaengar ac mae yna lwyth o ddulliau sy’n cael eu datblygu yn rhyngwladol. Yng Nghymru rydyn yn dal i ddatblygu ein meddwl a’n polisïau yn y maes hwn. Pa fodd bynnag, ydych chi’n gwybod fod Cymru yn rhan o ERYICA sy’n lle gwych i ddechrau meddwl am wybodaeth ieuenctid youth information  a sut mae’n berthnasol i’ch gwaith.

Gwybodaeth ieuenctid - menter gydweithredol Myfyrdodau gan Marco Gil Cervantes

Mae'r saith wythnos ddiwethaf dan gyfyngiadau symud wedi dangos dyfeisgarwch gwych, brwdfrydedd a gwell dealltwriaeth o'r sector ieuenctid i symud ar-lein ac i ymgysylltu â phobl ifanc, darparu gwybodaeth iddyn nhw a gwrando arnyn nhw yn y mannau ar-lein maen nhw'n rhan ohonyn nhw.

Ar yr un pryd, mae wedi tynnu sylw at faint sydd angen ei roi ar waith, faint sydd gennym i'w rannu ond hefyd pa mor dameidiog ydym ni.

Mae'r Rhwydwaith Trawsnewid Digidol i Ieuenctid sy'n cael ei gadeirio gan Dusty Kennedy, yn cefnogi sgyrsiau eang gyda gwasanaethau ac ymarferwyr gwaith ieuenctid o'r gwasanaethau ieuenctid gwirfoddol a gwasanaethau ieuenctid awdurdodau lleol ynghyd â swyddogion Llywodraeth Cymru. Bydd angen i gam pellach gynnwys pobl ifanc yn y prosesau meddwl a datblygu.

Mae angen i ni sefydlu ac ystyried sut i drawsnewid gwasanaethau gwaith ieuenctid, sut i ddysgu, sut i beidio â cholli momentwm a sut i weithio gyda'n gilydd.

Gall eiliadau tyngedfennol fod yn ysgogiad gwych ar gyfer newid cadarnhaol.

Mae'n bryd datblygu dull cydgysylltiedig a chreu'r normal newydd cysylltiedig gwell.

Cynnwys Covid-19 ar Meic

Mae'r llinell gymorth Meic yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc Cymru. Yn y cyfnod eithriadol yma, mae Meic yn creu cynnwys Covid-19 yn wythnosol gyda chasgliad o erthyglau ar y wefan. O edrych ar bethau i gadw'n brysur i ddelio gyda materion sydd yn benodol i'r pandemig. Mae un erthygl yn rhoi cyngor ar ymdopi gydag iechyd meddwl i geisio rhoi teimlad o reolaeth yn ôl. Mae erthygl arall yn rhoi persbectif ar bethau, fel nad yw'r sefyllfa yn eu gorlethu. Mae'r gyfres Coda'r Meic yn parhau hefyd, gyda chyngor i berson ifanc sydd eisiau mynd allan i gyfarfod gyda ffrindiau yn y cyfnod ynysu. Cadwch lygaid ar wefan ac Instagram Meic wrth iddynt ychwanegu mwy o erthyglau Covid-19 a rhannwch fanylion cyswllt Meic gyda'r plant a'r bobl ifanc rydych chi mewn cyswllt â nhw.

Gweithio gydag ERYICA – Dyfodol gwybodaeth ieuenctid

eyrica

Prosiect DesYign - Mae Cynllunio Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid Arloesol yn brosiect Erasmus+ parhaus, a gydlynir gan ERYICA. Mae ProMo-Cymru yn bartner arweiniol sy'n gweithio gyda gweithwyr ieuenctid o Malta, Sbaen, Iwerddon a Lwcsembwrg ar brosiect sy'n ceisio ailystyried sut mae gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid yn cael eu cynllunio.

Mae bwlch cynyddol rhwng y ffordd y mae pobl ifanc yn cael gafael ar wybodaeth a'r ffordd y mae gwasanaethau ieuenctid yn ei darparu. Yn aml, gall yr ymdrech i hysbysu a grymuso pobl ifanc fethu ag arwain at y canlyniad a ddymunir pan nad yw'r gwasanaethau'n eu cyrraedd.

 

Er mwyn mynd i'r afael â hyn bydd y prosiect DesYign yn darparu tystiolaeth, adnoddau, hyfforddiant ac arweiniad i gefnogi gweithwyr ieuenctid i gyflwyno gwaith ieuenctid digidol effeithiol. Mae'r sylfeini ar gyfer y dull yn seiliedig ar 'Gynllunio drwy Feddwl' - sef methodoleg sy'n canolbwyntio ar bobl ar gyfer cynllunio gwasanaethau digidol. Yn y byd newidiol hwn nod yr adnoddau hyn yw cefnogi ymarferwyr ieuenctid i esblygu eu hymarfer yn barhaus.

Darllenwch y darn cychwynnol o ymchwil yma. Dilynwch y cynnydd drwy ddilyn @Promocymru ac @ERYICAYI 

Neges Torfaen i bobl ifanc

Mae prentisiaid ifanc Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen a Fforwm Ieuenctid Torfaen, mewn partneriaeth â'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, wedi creu ffilm fer a chyfres allweddol o negeseuon i helpu partneriaid sydd am gyfathrebu â phobl ifanc. Mae'r adnoddau hyn yn cyflwyno negeseuon allweddol am gadw'n ddiogel, lleihau lledaeniad y firws, ac awgrymiadau ar gyfer ymdopi â'r cyfyngiadau symud.

Key Messages for young people for coping with lockdown

Fy Ngwaith Ieuenctid

Byddwn yn taflu goleuni ar sefydliad gwaith ieuenctid gwahanol ym mhob rhifyn. Yn y rhifyn hwn: Viva LGBTQ+

Viva LGBT

Dywedwch wrthym am eich gwaith a'r heriau sy'n eich wynebu

Sefydlwyd Viva LGBTQ+ ym 1997 fel rhan o Brosiect Pobl Ifanc Gorllewin y Rhyl mewn ymateb i aelodau'n dweud wrthym eu bod yn ei chael yn anodd dod o hyd i fannau diogel i siarad am eu profiadau fel pobl ifanc LGBTQ+ yn y Gogledd. Ers hynny rydym wedi cefnogi pobl ifanc dan 25 oed, o bob cwr o'r Gogledd a thu hwnt, sy'n LGBTQ+ neu sy'n credu y gallent fod.

Rydym yn dibynnu ar gymysgedd o grantiau a rhoddion i ariannu ein gwaith. Mae ein gwaith presennol yn cael ei ariannu gan Plant Mewn Angen, Teuluoedd yn Gyntaf, Medrwn Môn a Llywodraeth Cymru. Mae ein tîm bach o ddau aelod staff llawn amser, tri aelod staff sesiynol, a gwirfoddolwyr yn rhedeg grwpiau ieuenctid bob wythnos yng Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, a Wrecsam. Rydym yn cynnig cymorth un-i-un i bobl ifanc hefyd. Fel rhan o'n hymdrechion i wneud y byd yn lle mwy diogel a chynhwysol rydym yn gweithio gyda theuluoedd ac ysgolion hefyd. Rydym yn cynnig hyfforddiant i sefydliadau eraill hefyd i alluogi gweithwyr proffesiynol i gael mwy o ymwybyddiaeth o wahanol fathau o hunaniaeth LGBTQ+ a gweithio'n gynhwysol gyda hyder. Ar hyn o bryd rydym yn bartneriaid mewn prosiect peilot, ynghyd â Chyngor Sir Ddinbych a Llamau, i ddarparu'r llety â chymorth LGBTQ+ penodol cyntaf yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Beth sy'n wych am beth rydych chi'n ei wneud a pha wahaniaeth mae'n ei wneud yn eich ardal?

Mae'r boblogaeth ieuenctid LGBTQ+ yn ei chyfanrwydd yn sôn am anawsterau mewn ysgolion yng Nghymru gyda 54% o fyfyrwyr LGB a 73% o fyfyrwyr trawsrywiol yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol, a 60% yn clywed iaith homoffobig, biffobig neu drawsffobig yn yr ysgol (Stonewall Cymru, 2017). Mae effaith y profiadau hyn yn gwneud i bobl ifanc LGBTQ+ deimlo eu bod wedi'u hynysu, wedi'u hallgáu, ac weithiau mewn perygl. Mae ein gwaith yn Viva yn rhoi mannau diogel i bobl ifanc LGBTQ+ lle gallant archwilio pwy ydyn nhw, gwneud ffrindiau, darganfod mwy am y byd, a'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae ein haelodau wedi dweud wrthym fod Viva yn "gartref oddi cartref", mai dod i grwpiau yw "uchafbwynt yr wythnos", a bellach bod ganddynt "bobl i siarad ac uniaethu â nhw mewn bywyd go iawn" a'u bod yn teimlo'n "hapusach a'u bod yn cael eu derbyn”.

Sut ydych chi'n cymhwyso eich sgiliau yn ystod y pandemig?

Rydym yn parhau i gynnig cymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn drwy weithio'n ddigidol. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd gan rai o'n haelodau fynediad i dechnoleg/WiFi ac efallai na fydd gan eraill y preifatrwydd yn eu cartrefi i gymryd rhan, yn enwedig y bobl ifanc hynny nad ydynt 'allan' gartref neu y mae eu hunaniaeth LGBTQ+ yn cael ei herio gartref. Felly rydym wedi bod yn ofalus i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau i'n helpu i gyrraedd y nifer fwyaf o bobl ifanc ac ymgysylltu â hwy, waeth beth fo'u hamgylchiadau. Dyma beth mae #VirtualViva wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn:

· Bu grwpiau ieuenctid digidol yn hwyluso tair noson yr wythnos - rydym wedi cael nosweithiau cwis a gemau, Dungeons and Dragons, sesiynau celf, trafodaethau ar faterion penodol a sgyrsiau grŵp
· Cymorth un-i-un dros y ffôn, galwadau fideo a negeseuon testun lles rheolaidd
· Presenoldeb parhaus yn y cyfryngau cymdeithasol i rannu delweddau a negeseuon cadarnhaol a gwybodaeth ddefnyddiol, gan ddefnyddio hashnodau megis #VivaLaQuarantine

Mae'r potensial o heriau ychwanegol a thensiynau gwaeth yn y cartref yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn arbennig o ymwybodol ohono yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig gan fod pobl ifanc LGBTQ+ bedair gwaith yn fwy tebygol o brofi digartrefedd na'u cyfoedion. Nod ein cefnogaeth a'n gwelededd parhaus yw atgoffa ein pobl ifanc nad ydynt ar eu pen eu hunain.

Ble i gael gwybod mwy?

E-bost - info@vivalgbt.co.uk

 

Ffôn - 07933472698 / 07880956458

 

Gwefan - www.vivalgbt.co.uk/

 

Instagram - @vivalgbtplus

 

Facebook - @lgbtviva

 

Twitter - @vivalgbt

 

Anogwch bobl ifanc i gymryd rhan gyda'u lluniau a'u straeon #VivaLaQuarantine eu hunain.

Ym Mhedwar Ban Byd

Ym mhob rhifyn, byddwn yn taflu goleuni ar rai o'r gwahanol ddulliau neu weithgareddau gwaith ieuenctid sy'n digwydd y tu hwnt i Gymru.

CAWYA

Cymdeithas Gweithwyr Ieuenctid y Gymanwlad

 

CAYWA yw Cymdeithas Gweithwyr Ieuenctid y Gymanwlad (The Commonwealth Association of Youth Workers). Maen nhw’n ceisio cael dogfen gredadwy, gyfeiriedig ar ddiffiniadau byd-eang o waith ieuenctid i sefydlu sylfeini, cyffredinedd a'u cynorthwyo i gefnogi gwledydd y Gymanwlad. 

 

Mae CAYWA yn gobeithio cyflwyno canfyddiadau yng nghyfarfod Gweinidogion Ieuenctid y Gymanwlad yn 2021. A fyddech cystal ag annog eich cydweithwyr i gwblhau arolwg CAYWA.

erasmus

Cyllid Erasmus+ ar gyferSefydliadau Gwaith Ieuenctid

Dyddiad cau nesaf Erasmus + ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid yw 1 Hydref 2020. Gall Connect Cymru gefnogi sefydliadau gwaith ieuenctid yng Nghymru i wneud cais am gyllid. Gall cyllid ERASMUS+ gefnogi prosiectau am hyd at dair blynedd a gall gael effaith fawr ar bobl ifanc a'r sector gwaith ieuenctid.

Mae Connect Cymru yn cydnabod y gall y broses o wneud cais i Erasmus+ fod yn gymhleth ac yn dipyn o her. Fodd bynnag, maen nhw’n gallu cynnig cymorth wedi'i deilwra i sefydliadau yn y Sector Ieuenctid yng Nghymru. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â info@connect.cymru.

I gael mynediad at wefan Erasmus+, cliciwch yma.

Llais y Person Ifanc

Byddwn yn siarad â pherson ifanc ym mhob rhifyn

 Ar gyfer y rhifyn hwn o'r bwletin, buom yn siarad ag Em Wight am eu profiadau yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Mae Em sy'n 25 oed, yn byw yn Llandrillo-yn-Rhos yng Nghonwy. Cyn y cyfyngiadau symud, roedd Em yn gwirfoddoli yn siop leol Mencap ac yn helpu i gynnal clwb animeiddio yn TAPE Community Music and Film, elusen sy'n cynorthwyo pobl i archwilio a datblygu eu syniadau creadigol. Roedd Em yn feirniad ifanc hefyd ar banel Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid y llynedd. 

Roedd y cyfyngiadau llwyr ar fywyd cymdeithasol yn gryn her i Em ar y dechrau ond mae wedi sefydlu mathau newydd o ryngweithio cymdeithasol yn gyflym iawn. Mae hyn yn cynnwys grŵp WhatsApp gydag aelodau o'u clwb celf - mae'r tiwtor yn gosod her yn seiliedig ar y celfyddydau bob wythnos ac yna'n rhoi adborth fideo i bob un o'r cyfranogwyr. Mae Em wedi defnyddio'r ap Discord hefyd i gyfathrebu â chwaraewyr gemau fideo eraill, gan wneud ffrindiau newydd yn sgil hynny. Mae hyn wedi helpu i osgoi diflastod a chadw ymdeimlad o gysylltiad ag eraill. Mae Em yn ymwybodol iawn o beryglon rhyngweithio ar-lein ond o'r farn y gallai fod yn ddefnyddiol i atgoffa pobl ifanc eraill o'u 'hôl troed digidol' a phwysigrwydd cadw'n ddiogel ar-lein. Maen nhw’n poeni y gallai pobl ifanc sydd wedi'u hynysu fod yn fwy tebygol o or-rannu ar y cyfryngau cymdeithasol neu ddioddef sgamiau gwe-rwydo yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud.

Nid oedd Em wedi bod yn ymwybodol o'r gwasanaeth Meic ac wedi bod yn dibynnu ar y BBC am wybodaeth ac atebion i rai o'r cwestiynau a oedd ganddyn nhw. Mae Em yn ymwybodol iawn o berygl camwybodaeth ac yn poeni am ddylanwad gwybodaeth anghywir ar ymddygiad pobl eraill yn ystod y cyfnod hwn.

Fel eu ffrindiau i gyd, mae Em yn poeni’n bennaf am pryd y bydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben, ond yn poeni hefyd am effaith hirdymor y rheoliadau cadw pellter cymdeithasol parhaus ar eu gallu i gymdeithasu.

Ydych chi wedi clywed?

Rydym yn neilltuo lle i unigolion a sefydliadau rannu gwybodaeth gyda'u cymheiriaid ym mhob rhifyn.

 Mae Viva LGBTQ+ yn darparu sesiwn awr o e-hyfforddiant am ddim i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol i weithio gyda phobl ifanc yn ystod y cyfnod hwn. Cynhelir y sesiwn ddydd Gwener, 15 Mai am 11am ar Zoom (e-bost info@vivalgbt.co.uk i gael y ddolen Zoom)

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg, mewn partneriaeth â Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru i gyflwyno a datblygu'r Marc Ansawdd a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru tan Ionawr 2023. Mae Cyngor y Gweithlu Addysg eisiau clywed llais y sector wrth iddo ddatblygu a chryfhau'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, felly cyfrannwch eich barn drwy gwblhau'r holiadur ar-lein byr hwn erbyn 29 Mai 2020.

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg hefyd wedi datblygu Pasbort Dysgu Proffesiynol (neu PDP) a all helpu gweithwyr ieuenctid hyrwyddo eu hunain yn ddigidol, trwy rannu efo ddarpar gyflogwyr, rheolwyr neu gydweithwyr eraill.

Bydd y thema ar gyfer y gyfres nesaf o gyfarfodydd ZOOM rhanbarthol CWVYS yn canolbwyntio ar 'bontio o gyfyngiadau symud i'r normal newydd’.

Cysylltwch â Catrin James catrin@cwvys.org.uk i dderbyn y manylion ymaelodi i ymuno â'r cyfarfod yn eich rhanbarth:

  • Canol y De a'r De-ddwyrain – 14/5/20 – 10am tan 11am
  • Y Gogledd – 15/5/20 10am tan 11am
  • Y De-orllewin a'r Canolbarth -15/5/20 1pm tan 2pm

 

Mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd, neges gan bobl ifanc Cymru i'r byd, wedi cael ei hanfon bob blwyddyn ers 98 o flynyddoedd. Y neges eleni yw ' Stopio'r Cloc ac Ailddechrau' sy'n cyfleu awydd pobl ifanc i weld y byd yn dysgu o argyfwng Covid-19. Caiff ei hanfon ar 18 Mai. Cysylltwch â'ch pobl ifanc gyda'r ymgyrch hon a helpu'r Urdd i gyrraedd 15 miliwn o bobl mewn 50 o wledydd. Cliciwch YMA am fwy o fanylion neu e-bostiwch - heddwch@urdd.org

 

Mae cyngor i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal wedi'i gyhoeddi ar wefan Comisiynydd Plant Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut gall pobl ifanc gadw'n ddiogel yn ystod y pandemig a sut gallan nhw gael cymorth os ydyn nhw ei angen.  

Dolenni Defnyddiol

Coronavirus welsh

Tudalennau Llywodraeth Cymru am y Coronafeirws (Covid-19) yma

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am ddiogelu a chynnal plant a phobol ifanc sy’n agored i niwed yn ystod y pandemig coronafeirws. Bydd y cwestiynau hyn yn cael eu diweddaru yn wythnosol. Linc Yma

Byddwch yn rhan o’r Cylchlythyr Gwaith Ieuenctid

Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni sut rydych chi'n addasu'ch gwasanaethau i bobl ifanc yn y cyfnod cyfredol.

Cysylltwch â ni trwy e-bost a byddwn yn darparu canllaw arddull ar gyfer cyflwyno erthyglau i ni gwaithieuenctid@llyw.cymru

Gadewch i ni ddathlu’r gwaith rhagorol rydych chi’n ei wneud!

Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctidCymru wrth drydar i godi proffil Gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? 
Cofrestrwch yn gyflym yma

 
 
 

AMDANOM NI

E-gylchlythyr bob pythefnos yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i'r sector gwaith ieuenctid yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

beta.llyw.cymru/gwaith-ieuenctid-ac-ymgysylltu


Cysylltwch â ni:

gwaithieuenctid@llyw.cymru

Dilyn ar-lein: