Grantiau cyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd i gael eu talu i fusnesau ac yn cael ei rhewi am hanner dydd HEDDIW

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

27 Ebrill 2020


c19 support

Grantiau cyntaf y Gronfa Cadernid Economaidd i gael eu talu i fusnesau ac yn cael ei rhewi am hanner dydd HEDDIW

Bydd busnesau a sefydliadau sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn Llywodraeth Cymru yn dechrau derbyn taliadau grant erbyn diwedd yr wythnos cyhoeddodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.

Ers iddo agor i geisiadau wythnos yn ôl, mae ail gam y gronfa wedi derbyn bron 9,000 o geisiadau am gymorth.   

Oherwydd maint y galw, cynyddodd Llywodraeth Cymru y cyllid ar gyfer y cam hwn i £300 miliwn.  Mae oddeutu 700 o geisiadau yn cael eu gwerthuso yn ddyddiol, gyda’r rhai cyntaf bellach wedi’u cymeradwyo ar gyfer eu talu. 

Nodwch,  bydd y gronfa yn cael ei rhewi am hanner dydd HEDDIW (Ddydd Llun 27ain Ebrill) yn dilyn y nifer fawr o geisiadau.

Dywedodd Gweinidog yr Economi y bydd hyn yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ystyried pa gymorth pellach y mae busnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol i angen. Darllenwch fwy yma.


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram