Y diweddaraf am y cymorth busnes sydd ar gael, o’r Gronfa Cadernid Economaidd, rhyddhad ardrethi busnes, grantiau busnes, cymorth ar gyfer yr hunangyflogedig, mynediad at gyllid i’r cymorth sydd ar gael i weithwyr.
Mae'r rhaglen sgiliau hyblyg yn cyfrannu'n ariannol at uwchsgilio eich gweithwyr drwy hyfforddiant ar-lein. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr sydd ar y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws.
Os rydych yn gallu cynnig unrhyw gymorth arall, nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig ag offer meddygol neu PPE, hoffai ein timau rhanbarthol glywed gennych.