Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
Erbyn hyn, gellir gwneud ceisiadau am gymorth o ail gam Cronfa Cadernid Economaidd gwerth £500 miliwn Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, gyhoeddi gwybodaeth fanwl ynghylch y gyfran hon o’r gronfa, cyfran sy’n werth £200m. Roedd yr wybodaeth hon yn cynnwys meini prawf cymhwysedd ar gyfer busnesau ac elusennau er mwyn iddynt allu paratoi i wneud cais. Mwy o fanylion ar gael yma.
Eglurhad pwysig: Dylai busnesau sy’n ystyried gwneud cais am grantiau y Gronfa Cadernid Economaidd nodi mai dim ond gwerth unrhyw grantiau sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Busnes a gafwyd fydd yn cael eu didynnu. Caiff busnesau twristiaeth eu hannog i wneud cais ar gyfer y cymorth hwn..
Ar 10 Ebrill, rhoddodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, ragor o wybodaeth am Gronfa Cadernid Economaidd newydd Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500 miliwn gan gynnwys y meini prawf ar gyfer pa fusnesau ac elusennau sy’n gymwys, er mwyn eu galluogi i baratoi i wneud cais.
Bydd y gronfa’n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bydd o gymorth i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru. Mwy o fanylion ar gael yma.
Mae’r cymorth hwn yn darparu cyllid ar gyfer micro fusnesau a BBaChau. Gallai busnesau micro sy’n cyflogi rhwng un a naw o bobl fod yn gymwys am grant o hyd at £100,000. Mae’r cymorth ar gyfer y rhai hynny sydd wedi gweld gostyngiad mewn trosiant ers 1 Mawrth 2020. Edrychwch a ydych yn gymwys ar https://fundchecker.businesswales.gov.wales/cy
Mae cyllidebau ar draws cronfeydd Llywodraeth Cymru wedi cael eu haddasu at ddibenion y Gronfa Cadernid Economaidd sy’n werth £500m. Mae Croeso Cymru wrth gwrs yn rhan o Lywodraeth Cymru ac mae ein cyllidebau wedi bod yn rhan o’r addasu hwnnw ac felly ni allwn ddarparu cymorth uniongyrchol, ond rydym yn annog busnesau ar draws y sector, gan gynnwys Cymdeithasau a Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau i edrych ar y cynllun grant o dan y Gronfa Cadernid. Cewch hyd i fwy o fanylion yma.
Ymestyn y dyddiad i fod yn gymwys am y Cynllun Seibiant tan 19 Mawrth
Mae’r dyddiad cau i fod yn gymwys am y Cynllun Cadw Swyddi yn ystod Cyfnod Coronafeirws (Cynllun Seibiant) wedi’i ymestyn o 28 Chwefror i 19 Mawrth. Gall gyflogwyr bellach hawlio i roi seibiant i weithwyr yr oeddent yn eu cyflogi ac ar eu cyflogres PAYE ar neu cyn 19 Mawrth 2020. Golyga hyn bod yn rhaid hysbysu CthEM o’r gweithwyr drwy gyflwyniad Gwybodaeth Amser Real ar neu cyn 19 Mawrth 2020. Bydd y cynllun yn gwbl weithredol yr wythnos nesaf.
Os gwnaethoch gael gwared ar weithwyr, neu eu bod wedi rhoi’r gorau i weithio ichi ar neu wedi’r 28 Chwefror 2020, cewch eu hail-gyflogi, yna eu rhoi ar y cynllun seibiant a hawlio eu cyflogau drwy’r cynllun. Mae hyn yn berthnasol i weithwyr gollodd eu swyddi neu roddodd y gorau i weithio ichi wedi’r 28 Chwefror, hyd yn oed os nad ydych yn eu hail-gyflogi tan wedi y 19 Mawrth.
Darllenwch mwy am yr estyniad i fod yn gymwys a sut i hawlio cymorth drwy’r cynllun yma.
Er y cafodd yr holl brif weithgareddau marchnata eu hatal dros dro o ganol mis Mawrth, rydym yn parhau i fod ar y cyfryngau cymdeithasol, ac yn canolbwyntio ar wybodaeth am iechyd y cyhoedd a’r neges syml “Hwyl Fawr. Am y Tro”. Rydym hefyd yn ail-drydar ac yn rhannu negeseuon dethol ar draws platfformau, o gyrchfannau, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Heddlu ac eraill er mwyn cefnogi’r neges gyffredinol.
Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu pob diwrnod a dros yr wythnos i 10 diwrnod nesaf, gan ddibynnu ar deimladau’r cyhoedd a’r sefyllfa bryd hynny, rydym yn anelu at yn raddol gyflwyno cynnwys addas ar ein sianeli cymdeithasol. Rydym hefyd yn gosod y sylfeini i sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosib i gefnogi’r diwydiant yn y tymor byr a’r tymor canolig. Mae’r gwaith hwnnw yn golygu ystyried gweithgarwch fydd yn cynnwys nifer o randdeiliaid a phartneriaid. Edrychwch ar ein gohebiaeth o fewn y diwydiant yn rheolaidd i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod y newyddion diweddaraf.
Oedi gyda Recriwtio ar gyfer Arddangosfeydd 2020/21
Mae oedi gyda’r broses ymgeisio i arddangos ar y cyd yn ddi-dâl mewn digwyddiadau/arddangosfeydd wrth inni edrych ar ein rhaglen ar gyfer 2020/21 o ystyried Covid-19. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch digwyddiadau ar hyn o bryd rydym yn atal dros dro y cynllun peilot a gynlluniwyd i gyd-arddangos ar stondinau yng ngofal Croeso Cymru. Mewn amser, unwaith y bydd gweithgareddau a chynlluniau yn dod yn fwy eglur, byddwn yn rhoi y newyddion diweddaraf ar sut y byddwn yn cydweithio’n agos â busnesau a sefydliadau i gyrraedd prynwyr y diwydiant teithio a digwyddiadau busnes yn ein prif farchnadoedd.
Ar hyn o bryd, os yn briodol ac os y gallwch, mae cyfle ichi ddiweddaru eich manylion penodol o ran digwyddiadau y diwydiant teithio/digwyddiadau busnes drwy productlisting.wales fydd yn ymddangos ar http://traveltrade.visitwales.com / www.meetinwales.com Os nad ydych wedi derbyn cyfrif eto, gadewch inni wybod eich manylion cyswllt gan gynnwys eich enw cyswllt, cyfeiriad, ebost a rhif ffôn. Os byddwch angen unrhyw gymorth gyda’ch manylion neu nad oes modd ichi ddod o hyd i’ch manylion cofrestru a gawsoch gan vw-steward@nvg.net gadewch inni wybod.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod yr adeg anodd, ddigynsail hon, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael yma. Mae’r rhain yn cynnwys:
- 17 Ebrill: Y Gronfa Cadernid Economaidd - y cyfnod ymgeisio yn dechrau
- 10 Ebrill: Dysgwch a yw eich busnes yn gymwys i gael cymorth gan y Gronfa Cadernid Economaidd newydd
- 09 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 08 Ebrill: Hysbysiad Brys i Fusnesau Llety Gwyliau (Diwygio) / Cais i Fusnesau Llety Gwyliau ddarparu llety i grwpiau bregus
- 02 Ebrill: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 30 Mawrth: Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500 miliwn wedi’i lansio ar gyfer Cymru
- 27 Mawrth: Neges Frys i Fusnesau Llety Gwyliau
- 27 Mawrth: Cynllun Cymorth Incwm ar gyfer yr Hunangyflogedig; Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws
- 26 Mawrth: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 25 Mawrth: Neges Frys: COVID-19 – Cyngor i Berchnogion a Gweithredwyr Parciau Gwyliau
- 24 Mawrth: Canllawiau ar y Coronafeirws ar gyfer Busnesau ac Eiddo a fydd yn cau
- 23 Mawrth: Cyflwyno mesurau newydd cadarn heddiw i arafu lledaeniad y coronafeirws
- 19 Mawrth: Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4 biliwn i fusnesau
- 12 Mawrth: Coronafeirws: gwybodaeth i’r diwydiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill o wneud hynny i danysgrifio i’n cylchlythyr ni yma.
|