Mae'r broses ymgeisio ar gyfer busnesau sy'n gymwys i gael cymorth ariannol drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd bellach ar agor.
Cwblhewch y gwiriwr cymhwysedd cymorth fusnes COVID-19 i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i wneud cais. Ar ôl ei gwblhau cewch ddolen i'r cais ar-lein.
Bydd rhaid i bob busnes weithredu pob mesur rhesymol i sicrhau bod y rheol 2m yn cael ei chynnal rhwng pobl yn yr eiddo pan mae gwaith yn cael ei wneud.
Y diweddaraf am y cymorth busnes sydd ar gael, o’r Gronfa Cadernid Economaidd, rhyddhad ardrethi busnes, grantiau busnes, cymorth ar gyfer yr hunangyflogedig, mynediad at gyllid i’r cymorth sydd ar gael i weithwyr.
Mae’r gweminarau yn darparu cyngor ymarferol i gyflogwyr. Gallwch hefyd ymuno ag arbenigwyr ACAS bob bore Gwener am 10:30am i sgwrsio yn fyw ar Twitter am eich cwestiynau neu bryderon am COVID-19.
Yn galw cyflenwyr/cyflenwyr newydd PPE neu offer critigol sy'n gallu darparu unrhyw gyfarpar ychwanegol ar gyfer y gadwyn gyflenwi ac unrhyw gyflenwyr sy'n gallu cynnig cymorth yn benodol ar gyfer cynllunio, adeiladu a gweithredu llety ychwanegol/dros dro ar gyfer y GIG.
Bydd Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol Coronafeirws yn ad-dalu cyflogwyr y gyfradd Tâl Salwch Statudol bresennol y maent yn ei thalu i gyn-weithwyr neu weithwyr presennol am gyfnodau salwch yn dechrau ar neu ar ôl 13 Mawrth 2020.