Hysbysiad Brys i Fusnesau Llety Gwyliau
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020
Mae nifer o ddiwygiadau wedi’u gwneud i ‘Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020’.
Mae’r Rheoliadau wedi’u diwygio i’w gweld yma.
Mae canllawiau penodol ar gyfer cwmnïau llety gwyliau yng Nghymru i’w gweld yma (fersiwn Gymraeg i ddilyn) ac maent yn cynnwys agweddau megis:
- Ceisiadau penodol gan Weinidogion Cymru ac Awdurdodau Lleol
- Darparu gwybodaeth a gwasanaethau ar-lein, ar y ffôn neu drwy’r post YN UNIG
Mae canllawiau hefyd yn cael eu dosbarthu i awdurdodau lleol. (Fersiwn Gymraeg i ddilyn)
Cais i Fusnesau Llety Gwyliau ddarparu llety i grwpiau bregus
Mae Gweinidogion Cymru yn wynebu her benodol o ran sicrhau digon o lety ar gyfer grwpiau bregus, nifer ohonynt wedi’u dadleoli oherwydd yr epidemig Coronafeirws. Mae’r llythyr hwn gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas yn gofyn i fusnesau llety gwyliau ddarparu eu llety at y diben hwn. O ystyried y brys ynghylch y mater hwn, rydym am gael atebion erbyn 4pm ddydd Mawrth 14 Ebrill 2020.
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|