Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £500 miliwn heddiw i ddarparu cefnogaeth ychwanegol i economi Cymru, busnesau ac elusennau sy’n profi gostyngiad enfawr mewn masnachu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Y diweddaraf am y cymorth busnes sydd ar gael, o rhyddhad ardrethi busnes, grantiau busnes, cymorth ar gyfer yr hunangyflogedig, mynediad at gyllid i’r cymorth sydd ar gael i weithwyr.
Cyfres newydd o weminarau ar gyfer BBaCh yng Nghymru sy'n wynebu effeithiau'r pandemig COVID-19. Bydd y gyfres yn trafod pynciau allweddol i'ch helpu chi i leihau effaith y firws a hybu gallu eich busnes i oroesi.
Yn galw cyflenwyr PPE neu offer critigol sy'n gallu darparu unrhyw gyfarpar ychwanegol ar gyfer y gadwyn gyflenwi neu'r rhai nad ydynt yn gyflenwr PPE sydd eisoes yn bodoli ond sy'n gallu cynnig cymorth naill ai ar weithgynhyrchu, addasu cynhyrchion neu arloesi.
Os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n honni eu bod o CThEM, yn dweud y gallwch hawlio cymorth ariannol, neu fod arnyn nhw ad-daliad treth i chi ac yn gofyn i chi glicio ar ddolen, neu i roi gwybodaeth fel eich enw, manylion cerdyn credyd neu fanc, peidiwch ag ymateb.
Mae Busnes Cymdeithasol Cymru a’u tîm o gynghorwyr arbenigol wrth law i helpu gydag ymholiadau am lif arian, adnoddau dynol, llwyfannau digidol, marchnata a chyfathrebu, ac amrywiaeth o feysydd eraill a allai fod angen ail-feddwl amdanynt yng nghyswllt y Coronafeirws.