Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
Yr Effaith ar y Diwydiant – Arolygon Tracio
Er mwyn darparu data ar yr effaith ac i helpu i gefnogi’r diwydiant yn ystod yr adeg heriol hon, cynhalion ni arolwg dros y ffôn o fusnesau twristiaeth yng Nghymru yng nghanol mis Mawrth, i gael gwybod sut roedd y diwydiant yn perfformio, ac yn benodol i ddysgu sut roedd y feirws COVID-19 yn effeithio ar archebion a sut roedd busnesau’n paratoi ar gyfer yr effeithiau.
Gyda’r sefyllfa wedi datblygu’n gyflym ers hynny, rydyn ni’n parhau i gynnal arolygon i dracio effeithiau’r feirws. Yn ystod yr wythnos diwethaf cynhalion ni ail gyfres o arolygon dros y ffôn, gan gysylltu â 400 o gwmnïau. Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi’r canfyddiadau’r wythnos nesaf. Mae’r arolwg ar-lein wedi cael ei ddiweddaru i gynnwys cwestiynau am gymorth ariannol. Cwblhewch yr arolwg yma.
Os ydych chi wedi cwblhau’r fersiwn ar-lein flaenorol, a hoffech chi gyflwyno ymateb newydd, mae’n bosibl y bydd rhaid ichi adnewyddu’r dudalen bori gan ddefnyddio CTRL+F5.
Cymorth i Fusnesau:
Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau – nodyn atgoffa
Mewn ateb i’r argyfwng coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi amrediad o fesurau i gefnogi busnesau a gweithwyr ledled Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau. Rhagor o wybodaeth yma.
I gael arweiniad ar yr holl gyngor a chymorth arall sydd ar gael rydyn ni’n cynghori busnesau a rhanddeiliaid yn y sector twristiaeth i fynd i wefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac i fynd yn rheolaidd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am wybodaeth gyfredol am iechyd y cyhoedd ar eich cyfer chi, eich staff a’ch ymwelwyr.
Cymorth ar-lein
Busnes Cymru yn lansio cyfres newydd o weminarau ar gyfer busnesau bach a chanolig sy’n dioddef yn sgil COVID-19
Mae Busnes Cymru yn lansio cyfres newydd o weminarau a chyrsiau digidol ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy’n dioddef yn sgil COVID-19.
Mae’r gyfres ‘COVID-19 a’ch Busnes’ yn rhoi sylw i bynciau pwysig, gan gynnwys:
- arallgyfeirio a modelau busnes amgen
- llif arian a chyllid
- gweithdrefnau a pholisïau Adnoddau Dynol
Mae'r gweminarau yn rhedeg yn ddyddiol. Yn ystod y gweminarau, bydd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb fyw, drwy anfon eu cwestiynau at y cyflwynwyr.
UKinbound – Gweminar Cyfreithiol ar COVID-19
Mae UKinbound yn cynnal cyfres o weminarau ar gyfer eu haelodau. Y diweddaraf oedd Weminar Cyfreithiol ar COVID-19 ar 31 Mawrth 2020 mewn partneriaeth â Travlaw. Maen nhw wedi bod mor garedig â chaniatáu i bobl nad ydyn nhw’n aelodau gael mynediad at y recordiad. Mae’n ymdrin â materion fel: y cwestiynau cyfreithiol mwyaf cyffredin, llywodraethu corfforaethol da ar gyfer cyfarwyddwyr, seibiannau o’r gwaith, a’r hunangyflogedig, gan orffen gyda sesiwn holi ac ateb. Mae’r cyflwyniadau o’r sesiwn a dolen i’r recordiad yma (Mae hwn wedi cael ei recordio ymlaen llaw, ni fyddwch yn gallu gofyn cwestiynau).
Nodwch er ein bod yn awyddus i’ch cyfeirio at y wybodaeth hon am ei bod yn bosibl y bydd yn ddefnyddiol i’ch busnes, mae’n bosibl y bydd y wybodaeth wedi newid ers dyddiad y recordio, ac mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd y sefyllfa’n wahanol yng Nghymru.
Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn y Diwydiant
Yn ogystal â’r rhyngweithio â’r sector ledled Cymru bod dydd, mae Croeso Cymru yn parhau i dderbyn adborth anffurfiol gan fforymau drwy’r cadeiryddion fforwm, yn ogystal â thrwy gyrff cynrychiadol fel Cynghrair Twristiaeth Cymru ac UK Hospitality Cymru. Yn ogystal â’r ddeialog barhaus, mae cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal a’r cynrychiolwyr sector hyn. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cadeirio gan Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, gyda’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn bresennol lle bo modd. Mae safbwyntiau o’r cyfarfodydd yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU drwy ein cynrychiolwyr Cymru yn Visit Britain a Chyngor y DU ar y Diwydiant Twristiaeth.
Ar yr adeg hon, mae holl weithgareddau marchnata Croeso Cymru, ynghyd ag ymweliadau’r wasg a’r cyfryngau, wedi cael eu hatal. Byddwn ni’n llai amlwg o lawer ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar wybodaeth am iechyd y cyhoeddi a’r neges seml “Hwyl Fawr. Am y Tro”. Mae’r sefyllfa yn cael ei diweddaru bob dydd, a byddwn ni’n gosod y sylfeini i sicrhau ein bod yn y lle gorau posibl i gefnogi’r diwydiant yn y tymor byr a chanolig.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod yr adeg anodd, ddigynsail hon, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael yma. Mae’r rhain yn cynnwys:
- 30 Mawrth: Cronfa Cadernid Economaidd newydd gwerth £500 miliwn wedi’i lansio ar gyfer Cymru
- 27 Mawrth: Neges Frys i Fusnesau Llety Gwyliau
- 27 Mawrth: Cynllun Cymorth Incwm ar gyfer yr Hunangyflogedig; Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws
- 26 Mawrth: Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
- 25 Mawrth: Neges Frys: COVID-19 – Cyngor i Berchnogion a Gweithredwyr Parciau Gwyliau
- 24 Mawrth: Canllawiau ar y Coronafeirws ar gyfer Busnesau ac Eiddo a fydd yn cau
- 23 Mawrth: Cyflwyno mesurau newydd cadarn heddiw i arafu lledaeniad y coronafeirws
- 19 Mawrth: Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4 biliwn i fusnesau
- 12 Mawrth: Coronafeirws: gwybodaeth i’r diwydiant
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf ar gyfer y diwydiant twristiaeth drwy ein dilyn ar @CroseoCymruBus, a hefyd anogwch eraill a allai fod ar eu hennill o wneud hynny i danysgrifio i’n cylchlythyr ni yma.
|