Cylchlythyr Gwlad 1 Ebrill 2020

1 Ebrill 2020

 
 
 
 
 
 

Newyddion

Tractor

Cynllun Cymorth Cynllun y taliad sengl a chynlluniau Glastir Sylfaenol a Glastir Uwch

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi bod £5.5 miliwn ychwanegol wedi cael ei neilltuo i’r Cynllun Cymorth i’r BPS A Glastir 2019. Bydd y cynlluniau hyn yn ailagor heddiw i roi cymorth i’r ffermwyr hynny nad ydyn nhw wedi derbyn eu taliadau’r BPS a/neu Glastir hyd yn hyn. Bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais am gymorth drwy’r cynllun i liniaru unrhyw broblemau llif arian.
Uchafswm gwerth y taliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol fydd 70% o'ch gwerth amcangyfrifedig ar gyfer 2019. Uchafswm gwerth y taliad o dan gynlluniau Glastir Sylfaenol a Glastir Uwch fydd 50% o'ch gwerth amcangyfrifedig ar gyfer 2019.
Bydd RPW yn cysylltu â chwsmeriaid sy'n gymwys i wneud cais am y cynlluniau cymorth. Hoffem eich annog i wneud cais am daliad(au) o dan y cynlluniau hyn.
Mae'r rheini yn gynlluniau optio i mewn. Rhaid ichi wneud cais am daliad o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol a/neu gynlluniau Glastir Sylfaenol a Glastir Uwch erbyn 17 Ebrill 2020 drwy Daliadau Gwledig Cymru (RPW) ar-lein.

Oherwydd amgylchiadau eithriadol COVID-19 a'r canllawiau ar gyfer hunanynysu, ac er mwyn y rhai nad oes ganddyn nhw fynediad at fand eang, cewch gysylltu â'r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 a gofyn am daliad o dan y cynllun cymorth dros y ffôn.

Fferm

Ffurflen y Cais Sengl 2020

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi cyhoeddi bod deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i estyn y dyddiad cau ar gyfer yr SAF i
15 Mehefin. Y gobaith yw y bydd gwneud hyn yn lliniaru’r effaith sylweddol mae’r argyfwng COVID-19 yn ei chael ar fusnesau ffermio.

Bydd cwsmeriaid SAF yn derbyn hysbysiad pan fydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym.

Dylech ddweud wrth Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW ar unwaith os nad oes gennych fynediad at fand eang neu gyfrifiadur priodol er mwyn cyflwyno’r SAF ar-lein erbyn y dyddiad cau.

BPS

Elfen gwyrddu'r BPS - tyfu amrywiaeth o gnydau

Oherwydd y stormydd ynghynt eleni, mae’n bosibl na fydd llawer o ffermwyr yn gallu cyflawni eu rhwymedigaethau o ran tyfu amrywiaeth o gnydau. O ganlyniad i’r tywydd eithriadol a’r mesurau presennol ar gyfer COVID-19, mae’r Gweinidog yn cyflwyno deddfwriaeth i dynnu’r rheol sy’n ei gwneud yn ofynnol tyfu amrywiaeth o gnydau. Mae hyn yn golygu y gall cwsmeriaid y BPS fod yn gymwys ar gyfer y Taliad Gwyrddu drwy ddatgan tir pori parhaol ac ardal â ffocws ecolegol yn unig.

Bydd cwsmeriaid y BPS yn derbyn hysbysiad pan fydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym.

Cefn gwlad

Trosglwyddo Hawliau BPS 2020

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer trosglwyddo a phrydlesu hawliau BPS 2020 ar agor. Rhaid hysbysu Llywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill 2020 er mwyn i'r derbynnydd wneud cais am yr hawliau y mae'n eu derbyn ar gyfer blwyddyn y cynllun 2020.

Pryfed Peillio

Grantiau Bach Glastir - Tirwedd a Phryfed Peillio 2019

Mewn ymateb i'r pandemig coronofeirws COVID-19 presennol bydd y dyddiad cau ar gyfer hawlio'n cael ei estyn tan 30 Medi 2020. Rhaid cyflwyno pob hawliad erbyn y dyddiad hwn. Gwrthodir hawliadau sy'n cyrraedd yn ar ôl y dyddiad hwn.
Nid yw rheoliadau trawsgydymffurfio'n caniatáu gwneud gwaith i adfer gwrychoedd (perthi, cloddiau) (bondocio / plygu gwrychoedd) rhwng 1 Ebrill a 31 Awst. Felly, ni ellir gwneud gwaith i fondocio a phlygu gwrychoedd o dan gynllun Grantiau Bach Glastir rhwng y dyddiadau hynny.
Rhaid cwblhau'r holl Brif Waith Cyfalaf a Gwaith Cyfalaf Ategol a restrir yn eich contract(au) a hawlio am y gwaith erbyn 30 Medi 2020. Rhaid cyflwyno hawliadau drwy RPW Ar-lein a chynnwys ffotograffau â geotag 'cyn' ac 'wedyn'.

Coed

Adfer Coetir Glastir

Mae’r cyfnod datgan diddordeb ar gyfer Glastir – Adfer Coetir bellach ar agor a bydd yn dod i ben ar 24 Ebrill 2020.

Coed

Creu Coetir Glastir

Mae’r cyfnod datgan diddordeb ar gyfer Glastir – Creu Coetir bellach ar agor a bydd yn dod i ben ar 12 Mehefin 2020.
Bu nifer o newidiadau i'r broses o wneud cais i gynllun Creu Coetir Glastir. Dim ond Cynlluniwr Coetir Glastir Cofrestredig a gaiff gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Cynigir contract i ymgeiswyr sy'n cyflwyno datganiad o ddiddordeb llwyddiannus ar yr amod na fydd taliad yn cael ei wneud nes bod y cynllun creu coetir wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, a hynny ar ôl iddo gael ei ddilysu’n llwyddiannus gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Hefyd bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddewis un o ddwy flynedd hawlio, 2021/2022 neu 2022/2023, i ofyn am daliad i sefydlu coed a chodi unrhyw ffensys.

Mynydd

Grant Busnes i Ffermydd

Mae'r seithfed ffenestr datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Grant Busnes i Ffermydd (FBG) yn cau ar 10 Ebrill 2020. Mae cymhwysedd ar gyfer FBG Llywodraeth Cymru yn gofyn bod partner yn y busnes yn mynychu digwyddiad Ffermio i'r Dyfodol a drefnir gan Cyswllt Ffermio. Oherwydd argyfwng COVID 19, dim ond ffermwyr a gofrestrodd i fynychu digwyddiad erbyn 10am, 17 Mawrth neu a fynychodd ddigwyddiad blaenorol a ystyrir yn gymwys i gyflwyno datganiad o ddiddordeb.

Profion TB

Coronafeirws COVID-19: Profi am TB yng Nghymru

Ni ddylid parhau ag ymweliadau i brofi am TB oni bai bod pawb sy’n cymryd rhan yn gallu’r bodloni’r gofynion ar gyfer hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol
Bydd eich milfeddyg yn cysylltu â chi cyn y dyddiad ar gyfer y profion i wirio ei bod yn ddiogel dod i’ch fferm. Os yw’n ddiogel bydd y prawf yn parhau fel arfer
Os nad yw’n ddiogel dod i’ch fferm, ni fydd unrhyw gosb ariannol am golli’r dyddiad ar gyfer y profion, ond byddwch yn ddarostyngedig i gyfyngiadau symud. Mae’n bosibl y byddwch yn derbyn llythyr awtomatig yn dweud y byddwch yn derbyn cosb – anwybyddwch y llythyr hwn
Am ragor o wybodaeth ewch i’r adran cwestiynau cyffredin ar yr Hyb TB. 
Bydd y sefyllfa’n cael ei hadolygu bob wythnos. Roedd y wybodaeth hon yn gywir ar 01/04/2020.

Menter a Busnes

Cyd-gynllunio ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru, gan cydweithio gyda Menter a Busnes, wedi lansio rhaglen cyd-gynllunio i gyd-weithio â ffermwyr i edrych ar rai o agweddau mwy ymarferol y cynigion a oedd wedi eu cynnwys yn yr ymgynghoriad Ffermio Cynaliadwy a’n Tir y llynedd.

Cyswllt Ffermio

Cyswllt Ffermio

O ganlyniad i’r sefyllfa ansicr yn ymwneud â Coronafeirws, rydym wedi cymryd y penderfyniad i ohirio pob digwyddiad agored a digwyddiadau gyda nifer o fynychwyr hyd at ddiwedd mis Mai o leiaf. Byddwn yn edrych ar y posibilrwydd o gynnal rhai gweithgareddau yn ddigidol neu dros y ffôn ble mae modd gwneud hynny. Byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol maes o law.

Coronafeirws

Coronafeirws COVID-19 Newyddion

Llif

Cronfa Cymorth Llifogydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Cymorth Llifogydd gwerth £2.5 miliwn sydd ar gael i fusnesau Cymru i’w helpu i ddod dros y difrod a’r tarfu a achoswyd gan y stormydd diweddar - Ciara, Dennis a Jorge.

Gingroen

Angen gweithredu cynnar i reoli Llysiau’r Gingroen

Mae tymor tyfu llysiau’r gingroen wedi cyrraedd unwaith eto ac mae planhigion ifanc yn dechrau creu rhosedi isel mewn caeau a thir pori. Hyd yn oed mor gynnar â hyn yn eu tyfiant, gall llysiau’r gingroen fod yn wenwynig i anifeiliaid, yn enwedig ceffylau a gwartheg. Mae cyfrifoldeb am reoli 5 chwyn niweidiol a enwir o dan Ddeddf Chwyn 1959, gan gynnwys llysiau'r gingroen, yn gorwedd yn bennaf gyda deiliad y tir lle mae'r chwyn yn tyfu. Nid yw'r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon caniatáu i'r chwyn hyn dyfu ar dir. Fodd bynnag, os oes cwyn am ledaeniad chwyn niweidiol, gellir cymryd camau statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol i dirfeddianwyr atal y chwyn rhag lledaenu.
Gellir dod o hyd i ganllawiau yn y Cod Ymarfer i Atal a Rheoli Lledaeniad Llysiau'r Gingroen trwy clicio ar y penawd.

Farmwell

FarmWell Cymru – cyfeiriadur gwybodaeth a chymorth

Mae menter i helpu ffermwyr Cymru gyda chadernid eu busnes a nhw eu hunain fel unigolion wedi cael ei lansio gan Grŵp Cymorth Ffermydd Cymru. Am ragor o wybodaeth ewch i farmwell.cymru

WRN

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
MSBF

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Mae MSBF yn targedu prosiectau yn y sector Twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.

Paratoi Cymru

Wefan Paratoi Cymru

Ar 31 Ionawr gadawodd y DU yr UE ac rydym nawr mewn cyfnod pontio; yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y ffordd yr ydych yn gwneud busnes gyda'r UE yn newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi baratoi a gwneud newidiadau er mwyn parhau i wneud busnes ar ddiwedd y cyfnod pontio. Fe welwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Paratoi Cymru.

Mochyn daear

Beth i’w wneud os byddwch chi’n dod o hyd i fochyn daear marw

Os dewch o hyd i fochyn daear marw, dylech roi gwybod amdano, gan roi lleoliad y mochyn:

Llinellau Cymorth

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefanhttp://www.thedpjfoundation.com/

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: http://www.fcn.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: http://www.tirdewi.co.uk/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCAmgylchFferm

@LIC_Pysgodfeydd