Cyhoeddi Nodyn Polisi Caffael COVID-19
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ail Nodyn Polisi Caffael COVID-19 (PPN 02/20) sy’n rhoi gwybodaeth a chanllawiau i gyrff cyhoeddus ar dalu eu cyflenwyr i sicrhau bod gwasanaethau yn parhau yn ystod ac wedi yr achosion o coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Nodyn Polisi Caffael hwn, ac yn ei roi ar waith ar frys. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â blwch negeseuon e-bost COVID-19: COVID-19.Procurement@llyw.cymru
|
|
|
Cyfathrebu ynghylch COVID-19
Ni fyddwn yn cyhoeddi cylchlythyr misol arferol y GCC a Gwerth Cymru yn ystod argyfwng COVID-19 (y coronafeirws). Yn hytrach, byddwn yn cyfleu unrhyw wybodaeth frys am y feirws a’i effaith ar gaffael neu ein gweithgareddau drwy’r cylchlythyr pan fydd angen. Rydym yn gobeithio, drwy wneud hynny, y byddwn yn gallu cael gwybodaeth bwysig i chi yn gyflymach.
Os hoffai unrhyw un o'ch cydweithwyr gael eu hychwanegu at y dosbarthiad, gallant ofyn am danysgrifio yma.
Os oes gennych awgrymiadau ar gyfer cynnwys, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni: COVID-19.Procurement@llyw.cymru.
COVID-19: technoleg diheintio cyflym
Rhaid glanhau ambiwlansys yn drylwyr unwaith y bydd claf yr amheuir ei fod â COVID-19 wedi'i gludo. Gall yr amseroedd glanhau hyn gymryd hyd at 45 munud ac mae'n rhaid ei wneud mewn canolfannau glanhau a all fod gryn bellter i ffwrdd. Mae hyn yn rhoi straen ar wasanaeth sydd eisoes yn brysur ac o dan bwysau gan na ellir defnyddio'r cerbydau nes bod y glanhau wedi'i gwblhau.
Mae Llywodraeth Cymru, Canolfan Ragoriaeth SBRI, Ambiwlans Cymru a GIG Cymru am geisio nodi, datblygu a dangos technolegau diheintio cyflym.
Os oes gennych ymholiadau pellach am y broses ymgeisio ac os ydych am wneud cais, dilynwch y ddolen i’r Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch (Dolen allanol - Saesneg yn unig).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Ebrill 2020. Rhannwch hwn â’ch rhwydweithiau. Oso es gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch SBRI.COE@wales.nhs.uk.
|