Diolch am eich amynedd wrth inni geisio cael trefn ar ein systemau cyfathrebu i allu ymateb i argyfwng y coronafeirws.
Fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws, bydd blaenoriaethau Rhwydwaith Gwledig Cymru yn newid ychydig i adlewyrchu’ch anghenion newydd chi, ein rhanddeiliaid, dros y cyfnod digynsail hwn.
Byddwn yn ceisio rhannu cymaint o wybodaeth a chyngor defnyddiol â chi â phosib, gan gynnwys cyngor swyddogol diwerddaraf Llywodraeth Cymru ac adnoddau a llinellau cymorth allai’ch helpu.
Dyma gyngor diweddaraf Llywodraeth Cymru
Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yn y wlad a bod gennych gwestiwn neu’ch bod am roi gwybod inni am ddatblygiad yn eich cymuned, cysylltwch â ni ar unwaith trwy ein blwch post cyffredinol ac fe wnawn ni ein gorau i ateb eich cwestiwn neu’ch rhoi ar ben ffordd i gael ateb: rhwydwaithgwledig@llyw.cymru.
Cysylltwch â ni hefyd os ydych chi’n gwybod am unrhyw fentrau cymunedol sy’n cynnig help ymarferol ar lawr gwlad – byddai’n syniad da rhannu’r wybodaeth ar ein sianeli.
Os oes gennych gwestiwn am eich busnes a’r coronafeirws, ewch i safle Busnes Cymru
Byddwn yn cyhoeddi’n newyddlen yn ôl y gofyn wrth i wybodaeth newydd ddod i law – cofrestrwch yma amdani.
Cofiwch, tan y cewch wybod yn wahanol, bydd ein tîm bychan yn gweithio gartref ond bydd dal modd ichi gysylltu â nhw dros y ffôn, e-bost neu’r cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr oriau gweithio craidd, Llun – Gwener.
Datganiad Taliadau Gwledig Cymru (RPW) am y coronafeirws.
Fel ymateb i gyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y coronafeirws, mae RPW wedi gwneud newidiadau i rai o’i wasanaethau i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles staff a chwsmeriaid yn y dyddiau dreng hyn.
Mae argyfwng byd-eang y coronafeirws yn effeithio ar bob un ohonom. Blaenoriaeth benna’r RPW yw diogelu iechyd y cyhoedd yn unol â chyngor y Llywodraeth tra’n ceisio gwasanaethu ei gwsmeriaid, trwy’r cynlluniau grant amrywiol y mae’n eu gweinyddu o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020.
Mae’r RPW yn sylweddoli bod y sefyllfa’n datblygu’n gyflym ac y gallai’r cyngor newid ar fyr-rybudd. O gofio hynny, bydd yn ceisio gwneud ei benderfyniadau mor gyflym â phosibl ac yn ôl rhinweddau pob achos gan roi ystyriaeth lawn i’r cyngor swyddogol sydd mewn grym ar y pryd.
Os gwelwch fod y coronafeirws yn effeithio ar eich prosiect chi, cysylltwch â RPW ar unwaith.
Er mwyn ei helpu i ddelio â’r argyfwng, mae RPW wedi ailagor ei flwch SMU: SMU@gov.wales.
Gofalwch eich bod yn defnyddio cyfeiriad y blwch post yn unig ar gyfer eich gohebiaeth a nodwch yn glir deitl y prosiect a rhif adnabod yr achos os medrwch, oherwydd efallai y bydd staff unigol yn gorfod rhoi’r gorau i weithio ar fyr-rybudd.
CANOLFAN GYSWLLT I GWSMERIAID
Mae’r ganolfan gyswllt i gwsmeriaid RPW ar agor fel arfer ar gyfer derbyn galwadau ffôn yn ystod yr oriau canlynol:
- Llun – Iau 8.30am i 5pm
- Gwener 8.30am to 4.30pm
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, dim ond â galwadau am hawliadau a chroniadau cyn diwedd y flwyddyn ariannol y byddwn yn eu hateb.
Ar gyfer ymgoliadau eraill ynghylch eich prosiectau, ysgrifennwch atom trwy Flwch yr MSU.
Cadwch olwg ar y wefan am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Darllenwch fwy yn LLYW.CYMRU
Diolch ichi am eich amynedd, a chadwch eich hunain yn ddiogel ac iach.
|