Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym. Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
Click to edit this placeholder text.
Rydym yn deall ei bod yn gyfnod eithriadol o anodd i fusnesau ac unigolion o fewn y sector, ac mae llawer ohonynt yn gydweithwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid. Yn ogystal â’n bwletinau newyddion rheolaidd (sy’n cynnwys cylchlythyrau a thwîts) sy’n rhoi’r cyngor diweddaraf ynghylch newid i sefyllfaoedd a chymorth i fusnesau rydym hefyd yn cyhoeddi bwletin wythnosol sy’n crynhoi’r holl wybodaeth ddiweddaraf.
Mae strwythur penodol i’r bwletinau hyn fel eu bod mor gryno a hawdd eu dilyn â phosibl ac maent yn cynnwys dolenni i wybodaeth bwysig a hefyd, lle y bo’n berthnasol, wybodaeth fel canlyniadau diweddaraf arolygon busnes a newyddion ynghylch agweddau fel y sefyllfa ddiweddaraf o ran marchnata.
Byddwch yn gweld y rhain yn fuan. Gallwn gadarnhau y byddwn hefyd yn parhau i ddiweddaru ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol a’n bwletinau i’r diwydiant wrth i ragor o newyddion gael eu cyhoeddi.
Gallwch weld y Bwletinau sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma ac maent yn cynnwys:
-
25 Mawrth: Neges Frys: Coronafeirws – Cyngor i Berchnogion a Gweithredwyr Parciau Gwyliau
-
24 Mawrth: Canllawiau ar y Coronafeirws ar gyfer Busnesau ac Eiddo a fydd yn cau.
-
23 Mawrth: Cyflwyno mesurau newydd cadarn heddiw i arafu lledaeniad y coronafeirws
-
19 Mawrth: Gweinidogion yn cyhoeddi pecyn cymorth newydd gwerth £1.4bn i fusnesau
-
12 Mawrth: Coronafirws gwybodaeth am y diwydiant
Cymorth i Fusnesau
Gyda mesurau llym newydd wedi’u cyflwyno i arafu lledaeniad y coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig pecyn o gymorth i fusnesau i’w helpu yn y cyfnod arbennig o anodd hwn. Mae’r cymorth yn cynnwys:-
- Pecyn o gymorth gwerth rhagor na £1.4bn i fusnesau bach i’w helpu dros gyfnod y coronafeirws.
- Os ydych yn fusnes adwerthu, hamdden neu letygarwch sydd â gwerth ardrethol o £51,000 neu lai, ni fydd angen talu unrhyw ardrethi busnes ym mlwyddyn ariannol 2020/21.
- Hefyd, cynigir grant o £25,000 ar gyfer busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000.
- Grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys i gael y Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai
Bydd busnesau’n dechrau derbyn eu grantiau coronafeirws argyfwng ganol wythnos nesaf, meddai Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Ken Skates heddiw. Darllenwch fwy yma.
Mae Lywodraeth Cymru’n datblygu pecyn arall o gymorth i helpu busnesau i ddelio ag effaith y feirws. Caiff y manylion eu cyhoeddi ddydd Llun.
Mae Busnes Cymru’n trefnu cymorth a chyngor penodol i fusnesau ar sut i ddelio â’r coronafeirws, o gyngor ar gynllunio ariannol a’r gadwyn gyflenwi i gyngor ar staffio. Ewch i wefan Busnes Cymru i weld manylion y cymorth sydd ar gael i fusnesau.
Rydyn ni’n cynghori busnesau a rhanddeiliaid yn y sector twristiaeth yng Nghymru sydd am gyngor penodol i fynd i wefan Busnes Cymru neu i ffonio Busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac i fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a’ch ymwelwyr.
Y Diweddaraf am Farchnata
Mae holl waith ymgyrchu Croeso Cymru a’i ymweliadau ar gyfer y wasg a’r cyfryngau wedi dod i stop am y tro. Bydd gennym lai o lawer o bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn canolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth am iechyd cyhoeddus ac i ledaenu’r neges seml “Hwyl fawr. Am y tro”. Byddwn yn adolygu’r sefyllfa bob dydd a hefyd yn sicrhau bod y seiliau yn eu lle er mwyn medru cefnogi’r diwydiant yn y tymor byr a chanolig.
Er mwyn cael gwybodaeth am yr effaith ac i allu helpu’r diwydiant trwy’r cyfnod anodd hwn, fe wnaethon ni gynnal arolwg dros y ffôn o fusnesau twristiaeth yng Nghymru ganol mis Mawrth i weld sut oedd y diwydiant yn ymdopi, ac yn arbennig i weld sut oedd y coronafeirws yn effeithio ar archebion a sut oedd busnesau’n paratoi ar ei gyfer. Gallwch weld y canlyniadau yma.
Gyda’r sefyllfa wedi newid yn gyflym ers hynny, byddwn yn parhau i gynnal arolygon i dracio effeithiau’r feirws. Byddwn yn cynnal ail gymal o arolygon dros y ffôn wythnos yma i holi 400 o fusnesau a bydd fersiwn ar-lein ar gael hefyd - Atebwch yr holiadur yma.
|