Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi llythyr i roi sicrwydd i fusnesau yn sgil yr achosion diweddar o Coronafeirws (Covid-19).
Yn gryno, bydd pecyn cymorth ar gyfer busnesau bach gwerth £200m yn cael ei gyflwyno ar unwaith i helpu i ddelio ag effaith coronafeirws.
Os oes gennych unrhyw bryderon mewn perthynas â'ch gweithrediadau busnes/cadwyn gyflenwi cysylltwch â llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.