eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 9 Mawrth 2020 (Rhifyn 591)

9 Mawrth 2020 • Rhifyn 591 

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

blog 90 x 90

Blog Cwricwlwm i Gymru

Arbrofi gyda’r Cwricwlwm newydd yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur – fideos – rhan 2

Os fethoch chi rhan 1, darllenwch isod:

Arbrofi gyda’r Cwricwlwm newydd yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur – fideos - rhan 1 

Computer

Sianeli Addysg Cymru

Dilynwch ein sianeli am y newyddion cwricwlwm ac addysg diweddaraf yng Nghymru.

Tanysgrifiwch i YouTube 

Am y postiadau blog diweddaraf ar 

https://cwricwlwmigymru.llyw.cymru/

Dilynwch ni ar Facebook Addysg Cymru

Twitter: @LlC_Addysg  @LlywodraethCym  

 @wgmin_education @HwbNews

Lawrlwythwch a gwrandewch ar ein podleidiadau ar i-tunes neu Spreaker 

 

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Technoleg yn cynyddu’r dewis pynciau i ddisgyblion yng nghefn gwlad Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu rhaglen arloesol sy’n defnyddio TG i gysylltu ysgolion mewn ardaloedd gwledig, gan gynnig y ddarpariaeth ym Mhowys a Sir Gaerfyrddin.

Academi Genedlaethol ar gyfer Arweiyddiaeth Addysgol

Mae galwad newydd yr Academi Arweinyddiaeth ar gyfer cymeradwyo bellach ar agor. Rydym yn ymestyn yr alwad i gynnwys darpariaeth ar gyfer arweinyddiaeth athrawon. Mwy o fanylion ar gael ar ein gwefan 

asesiadau personol

Gweld cynnydd mewn rhifedd

Mae adroddiadau cynnydd ar gael ar gyfer yr asesiadau Rhifedd (Gweithdrefnol) y diwrnod ar ôl i’r asesiadau hynny gael eu cwblhau. Gallwch eu gweld ar gyfer dysgwyr unigol ac ar gyfer grwpiau. Mae’r siartiau yn dangos cynnydd yn yr asesiadau ar-lein a gwblhawyd hyd yma. Mae’r adroddiadau hefyd yn cynnwys y sgoriau mwyaf diweddar wedi’u safoni yn ôl oedran, sydd wedi’u cyfrifo ar gyfer pob dysgwr ar sail pryd y cwblhawyd yr asesiad.

Asesiadau personol Darllen

Mae adborth ynghylch sgiliau ar gael y diwrnod ar ôl i’r asesiadau gael eu cwblhau. Bydd adroddiadau cynnydd ar gael ar ôl i bob dysgwr yng Nghymru gwblhau’r asesiadau darllen. Bydd adroddiadau cynnydd yn cynnwys sgoriau wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer pob dysgwr ar sail pryd y cwblhawyd yr asesiad. Y flwyddyn ysgol nesaf byddwch yn cael adroddiadau cynnydd y diwrnod canlynol ar gyfer darllen – fel sy’n digwydd nawr ar gyfer rhifedd.

Deunyddiau hyfforddi newydd

Mae gweminar yn cyflwyno asesiadau personol, yn amlinellu materion gweinyddu a sut y gellir eu defnyddio i gyfoethogi addysgu a dysgu, wedi’i diweddaru ac ar gael ar y wefan. 

YMGYNGHORIADAU

Cronfeydd data addysg awdurdodau lleol

Ymgynghoriad yn cau: 22 Ebrill 2020

Dyddiadau dal ar gael

Cyflwynir cyfres o weithdai ‘Trafodaeth Bwrdd' ledled Cymru i gasglu adborth fel rhan o'r ymgynghoriad. Bydd y trafodaethau yn canolbwyntio'n bennaf ar agweddau technegol y rheoliadau drafft.

13 Mawrth 2020: Canol a Gorllewin Cymru - Rhanddeiliaid a Phobl Ifanc (11+) 

26 Mawrth 2020: De Cymru – Rhanddeiliaid yn unig

Siarad gyda fi: Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu 2020-21

Ymgynghoriad yn cau: 23 Ebrill 2020

HWB AC ADNODDAU ERAILL

Cyberuk 2020

Cyfle i ysgolion fynychu'r digwyddiad seiber-ddiogelwch blaenllaw gan Lywodraeth y DU, a gynhelir gan y Ganolfan seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC)

Ddeall rôl y rhyngrwyd mewn radicaleiddio ac eithafiaeth

Gofynnir i ysgolion ‘atal pobl rhag cael eu tynnu i mewn i derfysgaeth’. Mae’r canllaw hwn i athrawon yn edrych ar radicaliaeth ac eithafiaeth – beth mae’r ddau derm yn ei olygu, y tactegau sy’n cael eu defnyddio a beth gallwch chi ei wneud am hyn.

Ysgogwch eich dysgwyr i ystyried gyrfa ym maes seiber

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnal digwyddiad CyberHorizons AM DDIM yng Nghasnewydd ar 25 Mawrth 2020 i annog dysgwyr 14-18 oed i ystyried gyrfa ym maes seiber. Rhagor o wybodaeth ar Hwb

Cystadleuaeth ffilm Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel – Categori cynradd – canmoliaeth uchel

“Don't be a Cyberbully!” Ysgol Gyfun y Coed Duon yn egluro’r effaith y gall seibrfwlio ei chael ar eraill yn eu ffilm a gafodd ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth. 

Online Safety Live - Mawrth 2020

Mae Online Safety Live yn rhaglen o ddigwyddiadau am ddim a gyflwynir gan y Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU:

NEWYDDION ARALL

Cyfle i ennill taith i Glan-Llyn i’ch Ysgol/Coleg chi

Gallwch nawr ennill arhosiad 2 / 4 noson yn eu caban cysgu newydd sbon, Glan-llyn Isa’ ar gyfer grŵp o hyd at 36 o fyfyrwyr. Gwobr gwerth dros £8,000! Ewch i gyfryngau cymdeithasol yr Urdd i ennill y cyfle i’ch ysgol chi!

Cystadleuaeth datblygu cynnyrch i ennill iPad

Mae Arloesi Bwyd Cymru yn gwahodd disgyblion 11-16 oed i greu cynnyrch bwyd a diod newydd yng Nghymru i gael y cyfle i ennill iPad. Dyddiad cau: 19 Mehefin 2020.

Mae Her Arian Ifanc 2020 wedi cyrraedd!

Rydym yn gyffro i gyd wrth lansio'n Her Arian Ifanc 2020. Y thema eleni yw rheoli arian a chynaliadwyedd amgylcheddol! Cymrwch ran a helpwch blant a phobl ifanc ledled y DU i ddarganfod sut allwn ni i gyd ddod yn ddefnyddwyr cyfrifol! Nodwch y bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan Saesneg. Lawrlwythwch eich Pecyn Her yn rhad ac am ddim heddiw!

Gwobrau Athrawon Almaeneg 2020 - enewbiadau ar agor nawr

Gwobrau Athrawon Almaeneg eleni, sy'n dathlu cyflawniadau athrawon Almaeneg ar draws y DU, bellach ar agor. Mae'r cyfnod ymgeisio am enwebiadau yn cau ar ddydd Gwener, 10 Ebrill 2020. Cliciwch ar y linc i gael rhagor o wybodaeth a chopi o'r ffurflen gais.

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru