Cylchlythyr Gwlad 5 Mawrth

5 Mawrth 2020

 
 
 
 
 
 

Newyddion

Cefn gwlad

Trosglwyddo Hawliau BPS 2020

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer trosglwyddo a phrydlesu hawliau BPS 2020 ar agor. Rhaid hysbysu Llywodraeth Cymru erbyn 30 Ebrill 2020 er mwyn i'r derbynnydd wneud cais am yr hawliau y mae'n eu derbyn ar gyfer blwyddyn y cynllun 2020.

BPS

Taliad Gwyrdd Cynllun y Taliad Sylfaenol - Rhanddirymiad Tyfu Amrywiaeth o Gnydau

Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn ystyried unrhyw geisiadau gan ffermwyr sy’n methu â cyflawni eu rhwymedigaethau i dyfu Amrywiaeth o Gnydau fesul achos. Dylai ffermwyr sydd yn cael ei effeithio gyflwyno ei cais a’i tystiolaeth drwy ddefnyddio ei cyfrif RPW Ar-lein cyn gynted a phosibl.

Mynydd

Grant Busnes i Ffermydd

Mae y 7ed ffenestr datgan diddordeb ar gyfer y Grant Busnes I Ffermydd (FBG) ar agor. Mae cymhwysedd ar gyfer FBG Llywodraeth Cymru yn gofyn bod partner yn y busnes yn mynychu digwyddiad Ffermio i'r Dyfodol a drefnir gan Cyswllt Ffermio. Rhaid i'r unigolyn sy'n mynychu gofrestru fel partner gyda Cyswllt Ffermio a Taliadau Gwledig Cymru. 

Pryfed Peillio

Grantiau Bach Glastir - Tirwedd a Phryfed Peillio 2019

Mewn ymateb i’r llifogydd diweddar a’r tywydd gwlyb sy’n parhau caiff y dyddiad cau ei ymestyn tan 31 Mai 2020. Mae’n rhaid cyflwyno pob hawliad erbyn y dyddiad hwn a bydd unrhyw hawliad hwyr yn cael ei wrthod.
Nid yw rheoliadau Trawsgydymffurfio yn caniatáu gwaith adfer gwrychoedd/perthi (bondoncio gwrychoedd/ gosod gwrychoedd) wedi’r 31 Mawrth. Felly, mae’n rhaid i bob gwaith bondoncio gwrychoedd a gosod gwrychoedd o fewn contractau GSG gael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth, er bod modd derbyn hawliadau hyd at 31 Mai. Mae’n rhaid cyflwyno hawliadau drwy RPW Ar-lein a chynnwys pob ffotograff â Geotag ‘cyn’ ac ‘ar ol’.

Dwr Cymru

Angen cael gwared ar unrhyw blaladdwyr neu ddip defaid sydd wedi dyddio?

Mae Dŵr Cymru wedi ail-agor cynllun sydd am ddim i dyfwyr, ffermwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir. I gael gwared ar unrhyw blaladdwyr, chwynladdwyr neu ddip defaid sydd wedi dyddio. Cliciwch ar y pennawd i gwblhau'r ffurflen gofrestru ar-lein, neu ffoniwch 01443 452716, erbyn 5 o’r gloch, 31 Mawrth 2020.

Bae Barafundle

Egwyddorion a Threfnau Rheoli Amgylcheddol yng Nghyrmu: Ymunwch a’r drafodaeth

Ymunwch a ni i barhau ein sgwrs agored gyda hap-ddalwyr am ddatblygiad ymateb Cymraeg i ddatrys bylchau trefnau rheoli amgylcheddol. Fydd hyn yn gyfle i drafod argymhellion presenol y hap-ddalwyr ac i gyfleu syniadau.

Cynllun Aer Glân i Gymru

Cynllun Aer Glân i Gymru

Hoffem glywed eich barn ynghylch ein dull o leihau llygredd aer yng Nghymru. Mi fydd yr ymgynghoriad yn cau 10 Mawrth.

Olew

Rheoliadau ar Storio Olew yng Nghymru

Mae’r rheoliadau i ddiogelu'r amgylchedd ac eiddo o ganlyniad i gynwysyddion storio olew yn gollwng yn cael eu hymestyn i bob tanc o'r 15 Mawrth 2020.

Defaid

Hendre Ifan Goch - Gwella rheolaeth pridd a da byw i ddatblygu gallu dal carbon y pridd

Bydd Hendre Ifan Goch, yn ceisio lleihau eu hôl troed carbon ac yn anelu at ddod yn carbon niwtral yn ystod eu prosiect fel Ffarm Arddangos Cyswllt Ffermio.

Defaid

Prosiectau Partneriaeth Arloesi Ewrop yng Nghymru yn rhagori ar dargedau

Mae dros 100 o grwpiau o ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru wedi mynegi diddordeb mewn ymchwilio i ddulliau mwy effeithlon o weithio neu gyflwyno technolegau newydd drwy gyfres o brosiectau sector-benodol a ariennir gan Bartneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru.

Mochyn daear

Beth i’w wneud os byddwch chi’n dod o hyd i fochyn daear marw

Os dewch o hyd i fochyn daear marw, dylech roi gwybod amdano, gan roi lleoliad y mochyn:

Paratoi Cymru

Wefan Paratoi Cymru

Ar 31 Ionawr gadawodd y DU yr UE ac rydym nawr mewn cyfnod pontio; yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd y ffordd yr ydych yn gwneud busnes gyda'r UE yn newid. Fodd bynnag, bydd angen i chi baratoi a gwneud newidiadau er mwyn parhau i wneud busnes ar ddiwedd y cyfnod pontio. Fe welwch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar wefan Paratoi Cymru.

Enraw

Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant

Mae’r cyfnod datgan diddordeb ar agor. Bydd yn cau ar 13 Mawrth 2020.

Coffi

Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio

Mae’r cyfnod datgan diddordeb wedi ei ymestyn i 30 Mawrth 2020.

MSBF

Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)

Mae MSBF yn targedu prosiectau yn y sector Twristiaeth yng Nghymru. Gellir ei defnyddio naill ai i greu cynnyrch newydd o safon uchel neu i ddiweddaru cynnyrch presennol.

Llinellau Cymorth

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefanhttp://www.thedpjfoundation.com/

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: http://www.fcn.org.uk/

Tir Dewi (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro)

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: http://www.tirdewi.co.uk/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCAmgylchFferm

@LIC_Pysgodfeydd