Cynllunio Morol - Rhifyn 14

19 Chwefror 2020

 
 

Croeso

Dyma pedwar rhifyn ar ddeg ein cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf wrth inni weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Gwnaethom gyhoeddi a mabwysiadu'r Cynllun ar 12 Tachwedd 2019. Wrth inni weithredu'r cynllun gyda'r rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, hoffem glywed eich barn chi felly cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. I'r rheini ohonoch sydd heb ddarllen y cylchlythyr hwn o'r blaen, mae fersiynau blaenorol ohono i'w gweld yma. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr.

Cyhoeddi dogfennau eraill sy’n gysylltiedig â’r Cynllun

Gwnaethom gyhoeddi dwy ddogfen arall ym mis Ionawr er mwyn hwyluso gwaith gweithredu’r Cynllun.

Fframwaith monitro ac adrodd

Mae’r Fframwaith Monitro ac Adrodd yn amlinellu’r dull strategol y bydd Llywodraeth Cymru, sy’n awdurdod cynllunio morol ar gyfer Cymru, yn ei ddilyn er mwyn datblygu dangosyddion ar gyfer monitro gwaith gweithredu system a arweinir gan gynllun ar gyfer dyfroedd Cymru. Nid yw’r manylion o fewn y ddogfen yn rhai terfynol a chaiff y ddogfen ei datblygu mewn partneriaeth â phenderfynwyr allweddol a rhanddeiliaid ehangach.

M&R

Diweddaru Adroddiad Tystiolaeth Morol Cymru

Cyhoeddwyd Adroddiad Tystiolaeth Morol Cymru yn 2015 ac roedd yn cynnwys trosolwg o gyflwr presennol ein hamgylchedd morol, y defnydd ohono a’r posibiliadau sydd ynghlwm wrtho. Rydym bellach wedi cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’r ddogfen hon. Dyma’r adolygiad llawn cyntaf o’r newidiadau i’r Sylfaen dystiolaeth ers 2015. Mae’r ddogfen hon ar ei newydd gwedd yn cyd-fynd â chwmpas a strwythur Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.

WMER

Rhyfeddodau Byd Natur

Gwnaethom gomisiynu ABPmer yr haf diwethaf i gasglu tystiolaeth forol newydd ar gyfer Cymru. Wrth wneud y gwaith ymchwil gwnaeth y tîm gasglu data diddorol iawn. Nod y prosiect Rheoli’n Gynaliadwy Adnoddau Naturiol Morol, a gyllidir gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, yw ehangu’r sylfaen dystiolaeth amgylcheddol at ddiben gwneud penderfyniadau ynghylch ffrwd lanw, ynni’r tonnau a datblygu dyframaethu yn nyfroedd Cymru. Fel rhan o’r gwaith yma gwnaeth aelodau o dîm Arolwg Ecolegol ABPmer gynnal cyfres o arolygon fideo bathymetrig a gollwng yn nyfroedd Cymru. Mwy o wybodaeth.

ABPMer

Cyllid ar gyfer datblygu prosiectau o amgylch Mׅôr Iwerddon

Mae’r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd tri phrosiect newydd yn derbyn dros €6 miliwn er mwyn atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon. Bydd y rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn mynd i’r afael â meysydd sydd o ddiddordeb i’r ddwy wlad gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, ymchwil technolegol, datblygu cynaliadwy a thwristiaeth. Bydd y prosiectau’n canolbwyntio ar lygredd arfordirol a dŵr croyw, ecodwristiaeth ar gyfer cymunedau arfordirol ar Benrhyn Llŷn, penrhyn Cymru ac Iveragh, Iwerddon ac astudio poblogaeth a chynefin dwy rywogaeth o adar dŵr er mwyn deall yn well sut y bydd y newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar gymunedau arfordirol ar ddwy ochr Môr Iwerddon. Mwy o wybodaeth

Irish Sea

Fforwm Morol Môr Iwerddon

Yn gynharach y mis hwn gwnaeth ein Rheolwr Rhanddeiliaid Cynllunio Morol fynychu Fforwm Morol Môr Iwerddon yn Glasgow. Mae’r fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth Iwerddon ac Ynys Manaw, y Sefydliad Rheoli Morol a Phrifysgolion sydd oll yn cyflawni prosiectau morol ym Môr Iwerddon. Cafodd y digwyddiad ei gynnal gan Bartneriaeth Cynllunio Morol Clyde, a chafwyd diweddariadau gan y mynychwyr ynghylch eu cynlluniau gofodol morol a phrosiectau eraill sy’n cael eu cynnal ym Môr Iwerddon. Tra roeddem yn Glasgow cawsom gyflwyniad gan Bartneriaeth Cynllunio Morol Clyde ynghylch y cynllun rhanbarthol y maent yn ei ddatblygu a chafwyd taith o’r datblygiadau ar y Clyde gan Gyngor Dinas Glasgow.

ismf

Gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Un o’r heriau o weithredu CMCC yw gwybod ei effaith lawn ar awdurdodau cyhoeddus. Rydym wedi comisiynu Mott Macdonald i fapio pawb syn gwneud penderfyniadau sy’n gweithredu o fewn Ardal Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (ACMCC) a’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ganddynt. Byddant yn cysylltu ag awdurdodau i greu darlun manwl o benderfyniadau sy’n cael effaith ar yr ACMCC a sut y mae’r rhain yn gysylltiedig â rheoliadau a deddfwriaeth bresennol. Caiff hwn ei ddefnyddio i sicrhau bod ymdrechion y tîm Cynllunio Morol yn cael eu targedu ac yn berthnasol i bob maes o gyfrifoldeb yr awdurdod cyhoeddus, ac yn cyfrannu at roi y cynllun ar waith yn effeithiol. Os ydych yn gweithio mewn swydd gynllunio gydag Awdurdod Lleol neu Barc Cenedlaethol hoffem glywed gennych, cysylltwch â Marineplanning@llyw.cymru am ragor o wybodaeth.

PLANNING

Cyhoeddi Compendiwm Tystiolaeth y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Mae tystiolaeth yn sail i waith polisi a chynllunio yn Llywodraeth Cymru. Ar y cyd â’r Sylfaen dystiolaeth ar gyfer Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar (WMER), mae tîm y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol wedi cyhoeddi eu compendiwm tystiolaeth. Mae’r compendiwm, ynghyd â chyfres o bapurau esbonio, wedi’u paratoi er mwyn cynorthwyo darllenwyr y fersiwn ddrafft o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i ddeall y gwahanol dystiolaeth sydd wedi’i hystyried. Mae’r compendiwm yn mynd i’r afael ag ymholiadau gan randdeiliaid o ran y dogfennau, strategaethau a thystiolaeth sy’n sail i’r fersiwn ddrafft o’r Fframwaith er mwyn deall yn well beth y mae’r Fframwaith wedi ymateb iddo, ar beth y mae’n seiliedig a beth y mae’n ceisio ei gyflawni. Mae’r ddogfen yn dilyn strwythur y fersiwn ddrafft o’r Fframwaith a gallwch ei ddarllen fel dogfen sy’n cyd-fynd ag ef.

NDF

Ynni’r Môr ar frig yr agenda

Fis diwethaf gwnaeth Llywodraeth Cymru lansio Strategaeth Ryngwladol Cymru sy’n nodi ei dull o ymgysylltu’n rhyngwladol. Mae’n tynnu sylw at y camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn sicrhau bod gan Gymru broffil a dylanwad cynyddol yn y byd. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar dri uchelgais craidd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd y strategaeth a’r uchelgais yw sicrhau bod Cymru’n cael ei chydnabod fel canolfan ragoriaeth byd eang ar gyfer ynni’r môr a’i bod yn wlad uchel ei bri yn sgil ei gwaith ymchwil a datblygu parhaus.

IS

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn recriwtio!

Mae sawl cyfle cyffrous yn bodoli o fewn tîm morol Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer arbenigwyr morol uchelgeisiol a brwd i ymuno â’r Rhaglen newydd ar gyfer Ynni Adnewyddadwy ar y Môr. Mae’r rhaglen yn adlewyrchu’r angen i ddatblygu ynni er mwyn gallu rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a sicrhau cydnerthedd ecosystemau. Bydd y swyddi’n ymwneud â gwaith cynghori a rheoleiddio, cyngor technegol, creu canllawiau ac adroddiadau tystiolaeth, trwyddedu morol a datblygu polisïau. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ysgrifennu blog er mwyn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhaglen a’r swyddi newydd. Bydd yr holl swyddi’n parhau am gyfnod o dair blynedd (hyd fis Mawrth 2023) a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 26 Chwefror. Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth.

NRW

Prosiect Maelgi: Digwyddiadau Dathlu Cymru

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Prosiect Maelgi yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau i rannu canfyddiadau y prosiect a dathlu lansiad eLyfr Hanes Maelgwn. Mae’r digwyddiad ar agor i bob oedran (dylai plant dan 16 fod gyda oedolyn) ac am ddim ond bydd angen ichi gofrestru erbyn 20 Chwefror i helpu’r tîm drefnu yr arlwyo.

angel shark

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://llyw.cymru/cynllunio-morol

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddwyd y Cynllun Morol cyntaf ar 12 Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu ein polisi ar gyfer defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/cynllunio-morol

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural