 Cyllid ar gael – y Pethau Pwysig, y Gronfa Busnesau Micro a Bychan, Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru
Cafodd y Pethau Pwysig ei lansio o dan y cynllun gweithredu pum mlynedd newydd, Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020–25. Mae'n gronfa £10 miliwn ar gyfer Cymru gyfan a fydd yn cefnogi sefydliadau yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, a sefydliadau dielw i wneud y canlynol:
- gwneud gwelliannau bach, sylfaenol i seilwaith twristiaeth
- sicrhau bod pawb sy'n ymweld â Chymru yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy drwy gydol eu harhosiad.
Bydd y gronfa hon yn adeiladu ar y rowndiau blaenorol o gyllid drwy'r Cynllun Buddsoddi Mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS). Cafodd TAIS ei lansio yn 2017 a'i gefnogi drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020. Cafodd ei noddi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Gyda chyllid ychwanegol nad yw'n dod o'r UE, mae'r cynllun yn cael ei estyn i ardaloedd y tu allan i wardiau gwledig fel rhan o gynllun newydd y Pethau Pwysig. Bydd hyn yn sicrhau y gall pob rhan o Gymru fanteisio ar y gronfa newydd. Ar gyfer y prosiectau hynny o fewn wardiau cymwys, bydd y Pethau Pwysig yn parhau i gael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Raglen Datblygu Gwledig yr UE. Bydd cyllid o hyd at £10 miliwn ar gael ar gyfer 2020–2025 ar gyfer prosiectau a fydd yn rhoi blaenoriaeth i'r canlynol:
- datblygu profiadau ar gyfer ymwelwyr sy'n rhoi ymdeimlad o Gymru
- galluogi amrediad eang o ymwelwyr i wneud a mwynhau gweithgareddau sy'n gwella eu llesiant
- gwella mynediad at gyfleusterau a dangos Cymru fel lle cynhwysol
- buddsoddi mewn cyfleusterau sy'n gwella'r gweithgareddau antur sydd ar gael yng Nghymru
- cyfrannau at fentrau twristiaeth allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ymgyrch Blwyddyn yr Awyr Agored 2020 – 2021 a Ffordd Cymru
- hybu cyrchfannau glân a gwyrdd, er enghraifft, drwy welliannau cynaliadwy i seilwaith
- hyrwyddo ymdeimlad o le, diwylliant ac iaith mewn modd rhagweithiol
- darparu cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn ym mhob rhan o Gymru
- buddsoddi mewn profiadau a chyfleusterau digwyddiadau o'r radd flaenaf
Dysgwch fwy yma a chyflwyno eich datganiadau o ddiddordeb erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener 28 Chwefror 2020.
Mae'r Gronfa Busnesau Micro a Bychan yn gronfa fuddsoddi sy'n targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gall gael ei defnyddio i wella cynnyrch o ansawdd sy'n bodoli eisoes neu i greu cynnyrch newydd.
Mae'r Gronfa Busnesau Micro a Bychan yn cael ei chefnogi drwy gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, a'i hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae ar gael i fusnesau micro a bychan sydd â llai na 50 o gyflogeion cyfwerth ag amser llawn.
Ystyrir cymorth rhwng £25,000 a 500,000 i wneud y canlynol:
- creu a diogelu swyddi
- dod â manteision a thwf economaidd
- sicrhau ansawdd ac arloesedd a chryfhau ymdeimlad o le.
Dysgwch fwy a chyflwyno eich datganiad o ddiddordeb yma
Cafodd Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru, sy'n werth £50 miliwn, ei lansio gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru. Daeth â chyllid masnachol a chyllid grant at ei gilydd i wneud un pecyn cyfunedig o gymorth ariannol ar gyfer buddsoddi cyfalaf yn y sector.
Prif amcan y gronfa fydd helpu i fuddsoddi cyfalaf mewn prosiectau twristiaeth a fydd yn gallu cael effaith bositif ar sector sy'n tyfu ac ar economi Cymru. Dyma fanylion y gronfa
* bydd yn darparu £100,000 – £5,000,000 o gyfalaf dros dymor estynedig i fusnesau ar gyfer prosiectau cymwys
* y cofnodi ad-dalu yw 10–15 mlynedd a gellir cynnwys seibiau talu tymhorol
* bydd yn darparu cyllid mwy hyblyg
* bydd cyllid ar gael o ddechrau prosiect ac ar wahanol adegau yn ystod y cyfnod datblygu
* Bydd taliadau benthyciad masnachol a grant cymwys yn cael eu cyfuno er mwyn lleihau cost y cyllid drwyddi draw.
Dysgwch fwy a chyflwyno eich datganiad o ddiddordeb yma
Lansiwyd y cynllun gweithredu 5 mlynedd i ddatblygu yr economi ymwelwyr gan ganolbwyntio ar gryfderau Cymru – ei thirweddau gwarchodedig, ei diwylliant a’i lleoedd. Cewch wybod mwy am Croeso i Gymru: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-25 yma, ble y cewch hefyd ddarllen y Canllaw Byr i’r cynllun, wylio ffilm gyflwyno fer a gweld ffilm o’r lansiad.
|