Cynllunio Morol - Rhifyn 13

14 Ionawr 2020

 
 

Croeso

Dyma drydydd rhifyn ar ddeg ein cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf wrth inni weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru. Gwnaethom gyhoeddi a mabwysiadu'r Cynllun ar 12 Tachwedd 2019. Wrth inni weithredu'r cynllun gyda'r rheini sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, hoffem glywed eich barn chi felly cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. I'r rheini ohonoch sydd heb ddarllen y cylchlythyr hwn o'r blaen, mae fersiynau blaenorol ohono i'w gweld yma. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr.

Crynodeb o'r flwyddyn

Roedd 2019 yn flwyddyn brysur arall i'r Tîm Cynllunio Morol wrth lansio Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru ar 12 Tachwedd. Roedd hyn yn dilyn gwaith caled gan y tîm a mewnbwn sylweddol a gwerthfawr gan ein rhanddeiliaid yn y maes. Yn ddiddorol, lansiwyd y cynllun ar ddegfed pen-blwydd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, sef y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cynllunio morol yn y Deyrnas Unedig. Roeddem yn falch o gael adborth cadarnhaol ar y cynllun gan ein rhanddeiliaid sy'n teimlo ein bod wedi taro cydbwysedd da rhwng y safbwyntiau a'r materion sy'n gwrthdaro.

CNCC

 

Yn ôl yr adborth a gafwyd yn adolygiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig o'r Cynllun drafft, dylid hoelio sylw ar sicrhau ei fod ar gael yn fwy i bawb. Ym mis Rhagfyr, gwnaethom gyhoeddi sawl dogfen i helpu defnyddwyr i ddeall pwrpas y Cynllun Morol ac i ddarparu cyfeiriadau hawdd at y polisïau - mae rhagor o wybodaeth am hyn isod.

BOAT

Rydym bellach yn canolbwyntio ar weithredu'r cynllun a monitro pa mor effeithiol ydyw. Yn 2020, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n grwpiau rhanddeiliaid; y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol a'r Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol a fydd yn ein helpu i sicrhau bod cynllunio morol yn cael ei wneud mewn ffordd sydd o fudd i genedlaethau heddiw a'r dyfodol.

crab

Ddechrau'r flwyddyn, byddwn yn cyhoeddi rhagor o ddogfennau cynllunio morol gan gynnwys Fframwaith Monitro ac Adrodd a Diweddariad i Adroddiad ar Dystiolaeth Morol Cymru a luniwyd yn 2015.

crab

Rydym eisoes wedi dechrau trafod â'r Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol a fydd yn gweithredu'r Cynllun drwy'r Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol ar sail un i un a bydd hyn yn parhau ymhell i mewn i 2020.

CRAB

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: Dogfennau ategol

Fis diwethaf, gwnaethom gyhoeddi sawl dogfen i help defnyddwyr i ddeall pwrpas y Cynllun Morol ac i ddarparu cyfeiriadau hawdd at y Cynllun a'r polisïau, gan gynnwys:

  • Trosolwg - Yn crynhoi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru mewn fformat hawdd ei ddeall.
  • Gweledigaeth, Amcanion a Pholisïau - Yn crynhoi polisïau'r Cynllun Morol mewn fformat hawdd ei ddeall.
  • Animeiddiad - rydym wedi diweddaru'r animeiddiad sy'n rhoi trosolwg o gynllunio morol.

Gwnaethom hefyd gyhoeddi datganiad ôl-fabwysiadu yr Arfarniad o Gynaliadwyedd sy'n adroddiad annibynnol i sicrhau bod ein cynllun morol yn cyflawni'r amcanion cynaliadwyedd a llesiant.

Vision

Y Gweinidog yn sicrhau 'cytundeb cryf' ym Mrwsel

Rydym wedi sicrhau cytundeb cryf er lles diwydiant pysgota Cymru a fydd yn diogelu stociau pysgod Cymru ac yn cefnogi cymunedau glan môr, meddai Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ar ôl trafodaethau ym Mrwsel am gyfleoedd pysgota'r UE ar gyfer 2020. Fel rhan o dîm trafod Gweinidogion y DU, bu Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau'r fargen yng Nghyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE ym Mrwsel, a ddaeth i ben yn ystod oriau mân y bore ar 18 Rhagfyr. Darllenwch fwy

policy

Ymgysylltu

Ar ôl mabwysiadu'r Cynllun, gwnaethom gwrdd â'n grwpiau rhanddeiliaid allweddol - y Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol a'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol . Mae'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid yn gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' drwy gydol y broses cynllunio morol ac yn ein cynghori ar ddulliau o ymdrin â chynllunio morol. Roedd y cyfarfod â'r Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol wedi rhoi cyfle i awdurdodau cyhoeddus ofyn cwestiynau am weithredu'r Cynllun - gallwch weld crynodeb o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd yma. Gwnaeth y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol gyfarfod ar 10 Rhagfyr a thrafod sut y mae'r Cynllun yn cael ei weithredu, y dull gweithredu gofodol o ymdrin â chynllunio, a monitro ac adrodd. Mae crynodeb o'r cyfarfod i’w weld yma.

doc

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar agenda Coastal Futures

Ar 15 a 16 Ionawr, bydd cynhadledd Coastal Futures yn cael ei chynnal yn Llundain. Mae cynhadledd Coastal Futures 2020 yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am faterion a gweithgareddau amgylcheddol morol ac arfordirol. Yn y gynhadledd eleni, bydd Rheolwr Gweithredu a Thystiolaeth y Cynllun Morol, Phil Coates, yn rhoi sgwrs ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru a'i ddatblygiad. Os byddwch yn bresennol, byddwch yn gallu gwrando ar Phil am 11am ar 16 Ionawr.

doc

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol – Papurau Esboniadol

Pan wnaethom ymgynghori ar ddrafft y FfDC gofynnodd rhai rhanddeiliaid am fanylion ynghylch sut y cafodd ei baratoi. Rydym wedi cynhyrchu papurau esboniadol sy’n egluro’r broses, gan gynnwys papur ar y FfDC a'r Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a phorthladdoedd.

Cafodd y papur esboniadol hwn ei baratoi i gynorthwyo darllenwyr i ddeall y berthynas rhwng drafft y FfDC a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru, a’r dull a roddir ar waith i ymdrin â pholisïau porthladdoedd. Mae’n tynnu sylw at feysydd polisi allweddol sy’n gorgyffwrdd o fewn y cynlluniau a’r dystiolaeth sydd wedi cyfarwyddo polisïau porthladdoedd o fewn y cynllun. Byddwn yn ychwanegu mynegai llawn o'r dystiolaeth y tu ôl i bob adran a pholisi y FfDC drafft ym mis Chwefror.

NDF

Cynlluniau Morol Cyfagos

Llywodraeth Iwerddon yn lansio ymgynghoriad ar ei Gynllun Morol drafft

Ar 12 Tachwedd lansiodd Llywodraeth Iwerddon ymgynghoriad ar ei Gynllun Morol drafft. Mae’r Fframwaith Drafft Cenedlaethol ar gyfer Cynllunio Morol yn nodi sut y bydd Iwerddon yn rheoli ei gweithgareddau morol ac yn sicrhau’r defnydd cynaliadwy o adnoddau morol hyd 2040. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y cynllun drafft a’r ymgynghoriad yma a bydd gennych hyd 28 Chwefror i gyflwyno eich ymateb.

ireland

Ymgynghoriad Cyhoeddus yn agor ynghylch nifer o gynlluniau yn Lloegr

Mae’r Sefydliad Rheoli Morol yn ymgynghori ynghylch nifer o Gynlluniau Morol drafft yn Lloegr gan gynnwys Cynlluniau Morol ardaloedd Gogledd-ddwyrain, Gogledd-orllewin, De-ddwyrain a De-orllewin Lloegr. Mae dau o’r cynlluniau hyn gerllaw ardal cynllun morol Cymru. Agorodd yr ymgynghoriad heddiw a bydd yn parhau am ddeuddeg wythnos, gan ddod i ben am hanner nos ar 6 Ebrill 2020. Gydol y cyfnod ymgynghori mae’r Sefydliad wedi trefnu sesiynau hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n gwneud penderfyniadau er mwyn hwyluso gwaith gweithredu’r cynlluniau drafft a bydd yn cynnal cyfres o weminarau (ar lefel genedlaethol ac ar lefel cynllun). Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth neu anfonwch e-bost at planning@marinemanagement.org.uk

mmo

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://llyw.cymru/cynllunio-morol

 
 
 

AMDANOM NI

Cyhoeddwyd y Cynllun Morol cyntaf ar 12 Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu ein polisi ar gyfer defnyddio'n moroedd mewn ffordd gynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/cynllunio-morol

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural