Lansio Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru

14 Tachwedd 2019

 
 

Ar 12 Tachwedd, cyhoeddodd Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf erioed ar gyfer Cymru, gan bennu'n gweledigaeth ar gyfer datblygu'n moroedd yn gynaliadwy dros yr 20 mlynedd nesaf.

LG

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog,

"Mae'n bleser gen i gyhoeddi a mabwysiadu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru, sy'n nodi'n gweledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach a chynhyrchiol am yr 20 mlynedd nesaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig am eu hargymhellion sydd wedi'n helpu i lunio'r cynllun, a'r rhanddeiliaid a phartneriaid niferus sydd wedi rhoi o'u hamser, eu harbenigedd a'u syniadau.

 

Minister

Y Cynllun Morol Cenedlaethol hwn yw'n cyfle i reoli ein moroedd mewn ffordd unigryw Gymreig, yn unol ag amcanion a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Cyn belled â'n bod yn gofalu'n ddoeth amdanynt, bydd ein moroedd yn gallu chwarae rhan hanfodol wrth reoli effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a gwarchod ein rhywogaethau mwyaf gwerthfawr. Mae gweithgarwch economaidd yn ein moroedd yn cyfrannu miliynau o bunnau ac yn cynnal miloedd o swyddi er lles ein cymunedau glan-môr a'r economi gyfan. Mae'n harfordir eiconig yn sylfaenol i'n treftadaeth a'n hunaniaeth ddiwylliannol."

Darllenwch y trawsgrifiad llawn neu gwyliwch y drafodaeth.

Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru

Cafodd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ei baratoi a'i fabwysiadu o dan Ddeddf y Môr a Mynediad Arfordirol (2009), sy'n sail ar gyfer cynllunio morol ledled y DU. Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar unwaith. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cynnwys cynlluniau a pholisïau ar gyfer ardaloedd ar y tir (allan i 12 milltir fôr) ac ar y môr (12 i 200 milltir fôr).

CNCC

CMCC: Tystiolaeth ddogfennol

Rydym wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau atodol gyda'r cynllun:

 

Gwerthusiad Cynaliadwyedd - Adroddiad annibynnol i sicrhau bod ein cynllun morol yn bodloni amcanion cynaliadwyedd a llesiant. (Saesneg yn unig)

HRA

 

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd - Adroddiad annibynnol i ddeall sut y gallai ein cynllun morol gael effaith ar fywyd gwyllt. (Saesneg yn unig)

 

 

SA

 

Crynodeb o newidiadau yn dilyn ymgynghoriad - Yn rhestru'r newidiadau a wnaethpwyd i'r Cynllun Morol drafft yn dilyn yr ymgynghoriad.

SOC

Rydym hefyd wedi diweddaru'n porthol Cynllunio Morol sy'n cyflwyno'r dystiolaeth orau sy'n bod am ardaloedd y Cynllun Morol. Rydym hefyd wedi paratoi Cwestiynau Cyffredin.

MPP

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://llyw.cymru/cynllunio-morol

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural