eCylchlythyr Dysg Llywodraeth Cymru: 11 Tachwedd 2019 (Rhifyn 578)

11 Tachwedd 2019 • Rhifyn 578

NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

blog 90 x 90

Eitemau newydd ar flog Cwricwlwm i Gymru

Gweithio ar fireinio’r cwricwlwm yr Hydref hwn: athro yn dweud y cyfan    

Codi momentwm – cynadleddau Penaethiaid yn ystod yr Hydref

Bwlio

Wythnos Gwrth-fwlio 2019

  • Newydd: Canllawiau i helpu rhieni neu ofalwyr, pobl ifanc, ysgolion ac awdurdodau lleol i fynd i’r afael â bwlio
Dyw hun ddim yn iawn

Dyw hyn ddim yn iawn #RheolaethYwHyn

Mae ail gyfnod ein hymgyrch ar gyfer pobl ifanc ynghylch rheolaeth drwy orfodaeth yn cael ei lansio’r wythnos hon! Rydyn ni’n annog ysgolion a cholegau i gymryd rhan yn yr ymgyrch ac i rannu deunyddiau â myfyrwyr. I gael gwybod rhagor ac i lawrlwytho deunyddiau’r ymgyrch, ewch i  

ASESIADAU PERSONOL

Gwefan Asesiadau Personol ar gael nawr

Ymweld â’r tudalen asesiadau personol ar Hwb ar gyfer yr asesiadau rhifedd (gweithdrefnol), asesiadau darllen, adroddiadau dysgwyr, ac i weld fideos gymorth a deunyddiau cymorth eraill. Am fwy o wybodaeth ar yr asesiadau, darllenwch ein Llawlyfr Gweinyddu, chwestiynau cyffredin a chanllawiau eraill ar Hwb.

Asesiadau Personol – cytundeb data

Dyma atgoffa penaethiaid mae angen i chi derbyn y cytundeb data ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019/20 ac adolygu swyddogaethau staff ar y wefan asesu cyn i’ch ysgol chi gallu trefnu unrhyw asesiadau.

Asesiadau Darllen Personol ar gael nawr!

Mae’r asesiadau darllen personol ar gael drwy fewngofnodi i Hwb. 

Diweddaru eich System Gwybodaeth Reoli!

Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi diweddaru eich system gwybodaeth reoli cyn trefnu asesiadau personol. Mae’r wefan yn casglu eu data o’r system gwybodaeth reoli, felly gofynnir i chi cadw’r wybodaeth yn gyfoes.

Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol – Llawlyfr gweinyddu profion

Mae’r llawlyfr diwygiedig yn nodi’r trefniadau ar gyfer y Profion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol a’r asesiadau personol ar-lein sydd i’w gwneud gan bob dysgwr ym Mlwyddyn 2 i 9 ym mlwyddyn academaidd 2019 i 2020.

Asesiadau Personol – dweud eich dweud

Gadewch chi ni wybod beth y hoffwch chi gael eu cynnwys yn ein sesiynau hyfforddi gweminar. Cliciwch fan hyn i lenwi’r holiadur.  

MWY O NEWYDDION AM ADDYSG YNG NGHYMRU

Fideos enghreifftiol Ar Drywydd Dysgu

Rydym yn y broses o gasglu clipiau i enghreifftio pob un o’r disgrifyddion ar y map Ar Drywydd Dysgu, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gweler enghreifftiau yma. Pe hoffai’ch ysgol/lleoliad gyfrannu at y gwaith hwn, cysylltwch ag asesu@llyw.cymru. Hoffem yn benodol gasglu mwy o glipiau a ffilmiwyd yn y Gymraeg.

Cronfa o £250,000 i gefnogi Plant Milwyr yn Addysg - Cymru

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20, gwnaeth Llywodraeth Cymru gronfa gwerth £250,000 ar gael i Gefnogi Plant Personél y Lluoedd Arfog mewn addysg – Cymru. Derbyniwyd 63 cais gan awdurdodau lleol ac ysgolion.  Derbyniwyd 27 cais, o 11 awdurdod lleol, gyllid llawn neu rannol ar gyfer eu prosiectau, gan elwa tua 1,000 o blant y lluoedd. Roedd y ceisiadau llwyddiannus yn cynnwys ceisiadau am staffio, adnoddau a hyfforddiant. Roedd nifer yn geisiadau clwstwr oedd yn dangos gweithio cydweithredol effeithiol a gwerth am arian. 

WorldSkills UK Live 2019: 21-24 Tachwedd Birmingham NEC (Saesneg yn unig) 

Mae WorldSkills UK Live yn ei gwneud yn bosib i filoedd o bobl ifanc ddychmygu llwybr dyfodol eu gyrfa gyda gweithgareddau cwbl ryngweithiol. Helpu i sicrhau bod eich myfyrwyr yn cael cwrdd â chyflogwyr, darparwyr addysg bellach ac uwch a darparwyr hyfforddiant mewn modd ystyrlon i gyd dan un to. Am fwy o wybodaeth.

Addysgu’r genhedlaeth nesaf

Ar ddydd Iau 7 Tachwedd, ymwelodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans a Phrif Weithredwr Get Safe Online, Tony Neate, â Choleg Caerdydd a’r Fro i siarad â myfyrwyr am gadw’n ddiogel ar-lein.

YMGYNHORIADAU ac ymatebion

Datganiad Ysgrifenedig: Crynodeb o'r ymatebion i’r ymgynghoriad Rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a Chanllawiau drafft 

Cynnig rheoliadau ar gyfer trwyddedu Arddangosfeydd Anifeiliaid

Ymghynghoriad yn cau: 21 Tachwedd 2019

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2020

Ymghynghoriad yn cau: 25 Tachwedd 2019

Sicrhau mynediad i’r cwricwlwm llawn

Ymgynghoriad yn cau: 28 Tachwedd 2019

Strwythur ar gyfer Fframweithiau Prentisiaethau Cymru

Ymghynghoriad yn cau: 9 Rhagfyr 2019 

HWB AC ADNODDAU ARALL

Ydych chi wedi cael cydsyniad i’ch dysgwyr i ddefnyddio’r gyfres lawn o offer ac adnoddau Hwb?

Mae nifer o wahanol offer ac adnoddau addysgol rhad ac am ddim yn cael eu cynnig drwy Hwb y gall dysgwyr eu defnyddio yn yr ysgol ac yn y cartref, gan gynnwys: Office 365; Minecraft: Rhifyn Addysg; Flipgrid; Google G Suite for Education; Encyclopaedia Britannica; Just2easy.

Mae angen cydsyniad dysgwyr i ddefnyddio’r gwasanaethau ychwanegol hyn. Rhagor o wybodaeth.

Wythnos Diogelu 2019

I gefnogi Wythnos Diogelu 2019, Tachwedd 11-15, rydym wedi datblygu posteri i ysgolion gefnogi plant a phobl ifanc i siarad allan.

Bwrsari prifysgol CyberFirst

Peidiwch â cholli’r cyfle i dderbyn £4k y flwyddyn, yn ogystal â chael hyfforddiant gyda thâl dros yr haf!

Magu diddordeb merched o Gymru mewn seiber-ddiogelwch!

Golwg newydd - daw'r Gystadleuaeth CyberFirst i Ferched yn rhanbarthol.

NEWYDDION ARALL

Gwers Fwyaf y Byd

Mae Gwers Fwyaf y Byd yn cyflwyno'r nodau Datblygu Cynaliadwy i blant a phobl ifanc ym mhobman ac yn eu huno wrth weithredu. 17 o Nodau Byd-eang i gyflawni'r 3 pheth rhyfeddol hyn erbyn 2030.

Adnoddau Cymraeg 

Adnoddau ysgol 'dementia-gyfeillgar genhedlaeth'

Mae 'genhedlaeth dementia-gyfeillgar' ysgol adnoddau Cymdeithas Alzheimer yn datblygu adnoddau ar gyfer ysgolion i helpu i addysgu plant a phobl ifanc ledled y DU (rhwng 5 a 25 oed) am ddementia a chefnogi gweithredu cymdeithasol mewn cymunedau lleol. Yr adnoddau sydd ar gael i'r Gorchymyn yn Gymraeg neu Saesneg oddi ar wefan Cymdeithas Alzheimer.

YNGHYLCH DYSG

Dysg yw e-Gylchlythyr addysg swyddogol Llywodraeth Cymru.  Nod Dysg yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau am y sectorau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl

Blog Cwricwlwm i Gymru

Diwygio’r cwricwlwm

Dilynwch ni ar Facebook:

Addysg Cymru

 

Dilynwch ni ar Twitter:

@LlC_Addysg

@LlywodraethCym

@HwbNews

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Addysg Cymru