|
|
|
Mewn cyfarfod diweddar â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Dysgu Oedolion Cymru, pleser o’r mwyaf oedd cael cyfarfod â myfyrwyr ar y cwrs Tystysgrif Sylfaen mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Roedd hwn yn gyfarfod ar y cyd gyda Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, ac wrth iddi amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, ymatebodd y myfyrwyr gyda chreadigrwydd a brwdfrydedd, gan rannu eu syniadau eu hunain ar sut y gallem greu sector gwaith ieuenctid heb ei ail yma yng Nghymru. Roedden nhw’n ysbrydoledig! Os oedd y sesiwn honno yn ffon fesur o unrhyw fath, mae dyfodol ymarfer gwaith ieuenctid mewn dwylo diogel.
Y newyddion mawr gan y Bwrdd y chwarter hwn yw ein bod ni wedi cyhoeddi’r Ddogfen Weithredu – mae’r ddogfen hon yn gosod amserlenni cychwynnol a’r strwythurau allweddol y byddwn ni’n eu sefydlu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Byddwn yn eich annog i ddarllen y ddogfen allweddol hon a chymryd rhan mewn unrhyw ffordd y gallwch chi – mae gennym ni i gyd gyfraniad i’w wneud o ran rhoi sylwedd i’n huchelgais.
Y cynnig yw sefydlu pedair prif ffrwd waith i’w darparu a’u llywio gan Grwpiau Cyfranogiad Strategaeth. Mae’r manylion cyswllt ar gyfer pob un isod:
1. Mae Pobl Ifanc yn Ffynnu – Sharon Lovell 2. Mae Gwaith Ieuenctid yn Hygyrch a Chynhwysol – Dusty Kennedy 3. Mae Gwirfoddolwyr a Gweithwyr Proffesiynol Cyflogedig yn cael eu Cefnogi – Jo Simms 4. Mae Gwaith Ieuenctid yn cael ei Werthfawrogi a’i Ddeall – Keith Towler
Cofrestrwch eich diddordeb mewn gwasanaethu ar un o'r grwpiau hyn erbyn dydd Mercher 20 Tachwedd. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma.
O ystyried y momentwm rydym ni i gyd wedi gweithio mor galed i’w greu, yr her nawr yw cynnal y momentwm hwnnw. Rhaid i ni gyflawni a chadw ein ffocws ar wella cyfleoedd a chanlyniadau i bobl ifanc yng Nghymru. Pan wnes i adael Met Caerdydd, roeddwn i’n teimlo bod gan y Sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ddyfodol ffyniannus o’i flaen. Mae’n teimlo fel petai pethau’n dod ynghyd ac mae hynny’n bwysig – nid yn unig ar gyfer ein pobl ifanc, ond ar gyfer ein myfyrwyr gwaith ieuenctid, ein gwirfoddolwyr, ein hymarferwyr a’n rheolwyr hefyd.
Keith Towler Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro
Eleni, bydd Cynhadledd Genedlaethol Gwaith Ieuenctid yn cael ei threfnu gan y Grŵp Marchnata Gwaith Ieuenctid ar ran y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Cynhelir y Gynhadledd ym mis Mawrth– bydd y dyddiad a’r lleoliad yn cael eu cadarnhau maes o law.
Rydym eisiau clywed eich syniadau ynghylch fformat, cynnwys a siaradwyr gwadd y Gynhadledd. Anfonwch eich awgrymiadau i’r Grŵp Marchnata mewn e-bost at paul@cwvys.org.uk
|
|
Yn ystod mis Hydref, aeth Adran Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Prifysgol Glyndŵr, ar ran y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, ati i drefnu tri digwyddiad ymgysylltu gydag ieuenctid yn Llanelwy, Wrecsam ac Abertawe. Y nod allweddol oedd cynhyrchu fersiwn o’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid sy’n addas i bobl ifanc a pharhau â’r sgwrs ynghylch sut mae pobl ifanc eisiau parhau i gyfrannu at wireddu’r cynlluniau hyn. Bu dros 90 o bobl ifanc yn cymryd rhan! |
Meddai Sharon Lovell, aelod o’r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro:
“Roedd hi’n wych bod yn rhan o un o’r digwyddiadau min nos a gweld y strategaeth yn cael ei gwireddu. Rhannodd pobl ifanc eu gweledigaeth mewn grwpiau bach, cyfryngau digidol a gweithgareddau difyr i gyflwyno syniadau i sicrhau bod pobl ifanc yn gwybod am y strategaeth a sut i gael mynediad ati. Bydd y Grŵp Cyfranogiad Strategol ar gyfer Pobl Ifanc yn adolygu a datblygu’r darn hwn o waith.”
I wneud cais i reoli’r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, ewch i wefan GwerthwchiGymru. Bydd y cyfle hwn yn dod i ben ar 13 Tachwedd. Dyfernir y contract ym mis Rhagfyr a bydd y broses Marc Ansawdd yn ailagor ar gyfer sefydliadau yn y flwyddyn newydd.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Rebekah.Hurst@gov.wales
|
|
Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2020 bellach ar agor ar gyfer enwebiadau.
Mae’r categori Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion yn gyfle gwych i chi enwebu Gweithiwr Ieuenctid rhagorol sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn mewn lleoliad ysgol.
I ddysgu mwy ac i enwebu, cliciwch yma. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 22 Tachwedd.
|
Mae’r Gweinidog Addysg wedi lansio canllawiau statudol newydd ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ac Awdurdodau Lleol ar herio bwlio. Mae’n rhan o gyfres o ganllawiau sy’n cynnwys cyngor a chymorth uniongyrchol i blant, pobl ifanc a’u rhieni/gofalwyr. I gael mwy o wybodaeth, ewch i adran canllawiau gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru yma.
Mae’r canllawiau hyn yn cael eu hategu gan restr o adnoddau ar-lein ar Hwb, mewn pryd ar gyfer Wythnos Gwrth-fwlio a gynhelir o ddydd Llun 11 tan ddydd Gwener 15 Tachwedd 2019.
Nod ymgyrch newydd Llywodraeth Cymru, #RheolaethYwHyn Dyw hyn ddim yn iawn, yw addysgu pobl ifanc am Reolaeth drwy Orfodaeth – sut i adnabod yr arwyddion a sut i gael cyngor.
Nod yr ymgyrch hon yw codi proffil y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am gyngor 24 awr dros y ffôn neu we-sgwrs fyw. Gallwch chi ddysgu mwy a lawrlwytho deunyddiau hyrwyddo yma.
Mae ECW wedi gofyn i ni eich atgoffa o bwysigrwydd cofrestru. Mae’r meini prawf yn nodi bod rhaid i unrhyw berson sy’n bodloni pob un o’r meini prawf canlynol gofrestru:
• Cyflawni gwaith ieuenctid (fel y’i diffinnir mewn deddfwriaeth) • Cael ei gyflogi gan awdurdod lleol, ysgol neu sefydliad gwirfoddol yng Nghymru • Ar gyfer gweithwyr cymorth ieuenctid: Bod â chymwysterau lefel 2 neu uwch. Ar gyfer gweithwyr ieuenctid: Bod â chymwysterau lefel 6 neu uwch
Cysylltwch ag EWC gydag unrhyw ymholiadau ynghylch cofrestru ac i gael mwy o wybodaeth am fanteision cofrestru: information@ewc.wales Mae gweithwyr cofrestredig yn gallu cael mynediad at adnoddau, rhaglen bwrsari ymchwil, hyfforddiant am ddim a chyfle i gael Pasbort Dysgu Proffesiynol (PLP). Mae’r PLP yn adnodd ar-lein am ddim y gall gweithwyr cofrestredig ei ddefnyddio i gael mynediad at bob math o adnoddau ar-lein i wella eu dysgu a’u datblygiad proffesiynol.
Edrychwch ar ganllawiau defnyddiol ECW i’r PLP neu trefnwch i gael hyfforddiant am ddim trwy anfon e-bost i: professionaldevelopment@ewc.wales
Mae’r Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewropeaidd (ERYICA) yn ceisio diffinio gweithiwr ieuenctid a gweithiwr gwybodaeth ieuenctid fel proffesiwn yn y gronfa ddata Sgiliau, Cymwyseddau, Cymwysterau a Galwedigaethau Ewropeaidd (ESCO). Mae ESCO yn cynnig iaith gyffredin a gwell cydnabyddiaeth o alwedigaethau a sgiliau ledled Ewrop.
Maen nhw wedi trefnu arolwg i egluro galwedigaeth gweithiwr ieuenctid ac i ychwanegu galwedigaeth benodol gweithiwr gwybodaeth ieuenctid.
Gallwch ddysgu mwy a chymryd rhan yma hyd at 31 Tachwedd.
Mae CWVYS wedi gofyn i ni hyrwyddo eu cyfarfodydd rhanbarthol. Cynhelir y rhain deirgwaith y flwyddyn, gan roi cyfle i aelodau CWVYS:
• Gyfarfod â chyd-aelodau CWVYS a rhannu arfer da • Clywed y newyddion diweddaraf am bolisi gwaith ieuenctid yng Nghymru a chynnydd y Strategaeth Gwaith Ieuenctid i Gymru • Cael manylion am Gonsortiwm Hyfforddiant CWVYS, grŵp datblygu gweithlu CWVYS ac ennill cymwysterau Gwaith Ieuenctid. • Clywed cyflwyniadau gan siaradwyr gwadd a mwy.
Y gyfres nesaf o gyfarfodydd:
Cyfres mis Mawrth 2020 Y Gogledd 10 Mawrth 2020 Y De-orllewin a’r Canolbarth 11 Mawrth 2020 Canol y De a’r De-ddwyrain 12 Mawrth 2020
I gael mwy o wybodaeth am aelodaeth, anfonwch e-bost at catrin@cwvys.org.uk
Mae Hyb Cymorth ACE wedi lansio ymgyrch cyfryngau cymdeithasol newydd a gynrychiolir gan yr hashnod #ACEAWARESOWHAT i grey trafodaeth ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
Maen nhw eisiau i chi ymuno yn eu hymgyrch Twitter trwy rannu straeon am sut mae eich sefydliad yn rhoi arferion sy’n cael eu llywio gan drawma ar waith. Mae mwy o wybodaeth am waith Hyb Cymorth ar gael yma.
|
|
Ym mis Awst 2019, ymwelodd pedwar o Brentisiaid Urdd Gobaith Cymru â Kenya i weithio ar bartneriaeth newydd gyda’r asiantaeth ryngwladol - United Purpose. Mae’r bartneriaeth yn gyfle i brentisiaid yr Urdd dreulio amser yn gweithio mewn gwledydd ar draws Affrica, Asia a De America. |
Yn ystod yr ymweliad, cynhaliodd y prentisiaid sesiynau hyfforddiant pêl-droed gyda thros 400 o ferched ifanc i wella eu hyder, i ddatblygu sgiliau ac i gynnig hyfforddiant arweinyddiaeth.
Mae’r bartneriaeth yn un elfen o strategaeth ryngwladol newydd yr Urdd i gynnig profiadau rhyngwladol i bobl ifanc Cymru ac i estyn llaw cyfeillgarwch i bobl ifanc o bedwar ban byd.
I gael mwy o wybodaeth am brentisiaethau’r Urdd, gan gynnwys prentisiaeth mewn Gwaith Ieuenctid, gallwch chi fynd i’w gwefan yma.
|
|
Creodd stori Calum Barron gryn argraff arnom ni. Dyma berson ifanc a oedd yn dioddef o PTSD ac ADHD ac a ddechreuodd gymysgu mewn cwmni gwael. Fodd bynnag, cafodd gyfle i gymryd rhan mewn prosiect gwirfoddoli dramor gyda help gan ei weithwyr ieuenctid ac, o ganlyniad, llwyddodd i droi ei fywyd ar ei ben. Gallwch ddarllen ei stori lawn a dysgu mwy am y prosiect yma.
“Fe ddysgais i am barch, fe ddysgais i am deyrngarwch. Fe ddysgais i am lawer o bethau doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod eu bod nhw’n bodoli pan oeddwn i’n blentyn.” - Calum Barron, cyn-wirfoddolwr UNA Exchange yng Ngwlad Pwyl, yr Eidal a Lithiwania
|
Oes gennych chi stori yr hoffech chi ei rhannu â gweddill y sector gwaith ieuenctid yng Nghymru? Os felly, anfonwch e-bost i youthwork@gov.wales Gadewch i ni ddathlu’r gwaith rhagorol rydych chi’n ei wneud!
Cofiwch ddefnyddio #YouthWorkWales #GwaithIeuenctid Cymru wrth drydar i godi proffil Gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Ydych chi wedi tanysgrifio ar gyfer Bwletin Gwaith Ieuenctid? Cofrestrwch yn gyflym yma
|