|
Mae CBAC yn gweithio fel rhan o gonsortiwm, dan arweiniad AlphaPlus Consultancy Ltd ac wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, i ddatblygu'r asesiadau personol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae CBAC yn darparu hyfforddiant i ysgolion ar weinyddu a defnyddio'r asesiadau personol. Er mwyn teilwra'r hyfforddiant yn ôl anghenion eich staff, a fyddech cystal â llenwi'r holiadur fydd ar gael ar-lein tan ddiwedd tymor yr hydref 20 Rhagfyr.
Byddai'n fuddiol pe byddai unigolyn sy’n ymwybodol o anghenion a dewisiadau hyfforddi eich ysgol yn ei gwblhau, os nad ydyn nhw wedi gwneud yn barod.
Ymwelwch â’r dudalen ar Hwb ar gyfer yr asesiadau rhifedd (gweithdrefnol), asesiadau darllen, adroddiadau dysgwyr, ac i weld fideos a deunyddiau cymorth eraill. Am fwy o wybodaeth ar yr asesiadau, darllenwch ein Llawlyfr Gweinyddu, chwestiynau cyffredin a chanllawiau eraill ar Hwb.
Dyma atgoffa penaethiaid mae angen i chi derbyn y cytundeb data ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019/20 ac adolygu swyddogaethau staff ar y wefan asesu cyn i’ch ysgol chi gallu trefnu unrhyw asesiadau.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi diweddaru eich system gwybodaeth reoli cyn trefnu asesiadau personol. Mae’r wefan yn casglu eu data o’r system gwybodaeth reoli, felly gofynnir i chi cadw’r wybodaeth yn gyfoes.
Gadewch i ni wybod beth fyddai’n ddefnyddiol i’w gynnwys yn ein sesiynau hyfforddi gweminar.
Araith drafodwyd gan Kirsty Williams, Y Gweinidog dros Addysg ar 17 Hydref 2019.
Mae fersiwn plant a phobl ifanc o’r ymgynghoriad nawr ar gael.
Dysgwch sut bydd ymweliadau arolygwyr yn helpu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion gyda diwygio’r cwricwlwm, gwerthuso a gwella.
Darllenwch fwy
Mae ARAD yn gweithio gydag Estyn ar ymgynghoriad cyhoeddus ar sut y caiff ysgolion yng Nghymru eu harolygu. Rydym yn casglu ymatebion gan sefydliadau ac unigolion na chlywir eu barn bob amser mewn arolygon. Cwblhewch yr arolwg hwn a’i ddanfon ymlaen i'ch dilynwyr.
Mae’r prosiect yn dymuno penodi Swyddog Gweinyddol i gefnogi cyflwyniad y prosiect o ddydd i ddydd, gyda chyfrifoldeb penodol am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan
Mae'r Gystadleuaeth CyberFirst i Ferched yn darparu amgylchedd hwyliog ond heriol i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ferched ifanc i ystyried gyrfa mewn seiberddiogelwch. Astudio Safonnau Uwch? Peidiwch â cholli’r cyfle i dderbyn £4k y flwyddyn, yn ogystal â chael hyfforddiant gyda thâl dros yr haf gyda bwrsari CyberFirst!
Digwyddiad dysgu proffesiynol am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Addysgu Ystadegau a’r Rhaglen Gymorth Mathemateg Bellach Cymru. Mae’r digwyddiad wedi'i anelu at bawb sy'n dysgu neu'n defnyddio ystadegau yn ei swydd neu astudiaeth. 21 Tachwedd 2019, Prifysgol Bangor 2 Rhagfyr 2019, Prifysgol Caerdydd. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth a manylion cysylltu i archebu eich lle.
Mae nifer o wahanol offer ac adnoddau addysgol rhad ac am ddim yn cael eu cynnig drwy Hwb y gall dysgwyr eu defnyddio yn yr ysgol. Mae angen caniatâd i'r dysgwr ddefnyddio’r gwasanaethau ychwanegol hyn. Rhagor o wybodaeth.
Y Termiadur Addysg – ar gael yn rhad ac am ddim!
Dyma adnodd sydd yn nodi’r termau safonol i’w defnyddio mewn arholiadau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg ac mewn adnoddau o bob math ar gyfer athrawon, disgyblion a’r byd addysg. Mae’n adnodd defnyddiol a gwerthfawr i’w gael yn eich hysgol er mwyn sicrhau cysondeb ar draws y Cyfnodau Allweddol. Os ydych yn dymuno cael copi yn rhad ac am ddim ebostiwch yn uniongyrchol gyda’r cyflenwr neu cysylltwch: 0300 1231924.
Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol i greu cyfres o adnoddau dwyieithog rhad ac am ddim wedi’u hanelu at Gyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 y gellir eu defnyddio i egluro pam, sut a phwy rydyn ni’n Cofio. Mae’r adnoddau hyn ar gael ar eu gwefan.
Bydd awduron oedolion ifanc arobryn yn mynd â phobl ifanc ar daith greadigol ar 3-14 Chwefror 2020, mewn digwyddiadau ysbrydoledig rhad ac am ddim ym Mhrifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a Phrifysgol De Cymru. Bydd y gweithdai’n ymgysylltu â’r genhedlaeth newydd a’i hannog i adrodd straeon a sgwrsio. Porwch drwy’r rhaglen a chadwch eich lle.
Cynhelir yr ymweliad CDPRh i Singapore rhwng 20-27 o Fawrth 2020. Mae ceisiadau ar agor ar gyfer clystyrau o 4 neu’n llai. Am ffurflen gais ac am fwy o wybodaeth, ebostiwch iepwaless@britishcouncil.org.
Mae myfyrwyr blwyddyn 12 ac aeddfed ar fin ymgeisio am Gynllun Cysgodi a gynigir gan Undeb y myfyrwyr Prifysgol Caergrawnt. Mae manylion am y cynllun a sut i wneud cais yma
Ymunwch â Sefydliad Dysgu a Gwaith am amrywiaeth o weithdai, trafodaeth a rhwydweithio i ddatblygu ymarfer a pholisi ar ddarparu ESOL yng Nghymru. Mae'r diwrnod yn cynnwys sesiynau gyda ffocws ymarferol a gynlluniwyd ar gyfer tiwtoriaid, rheolwyr a gwirfoddolwyr sy'n gweithio o fewn ESOL – archebwch le ar-lein nawr.
Cynhadledd ar gyfer athrawon gwyddoniaeth cynradd ac uwchradd, pobl sydd yn gweithio ym maes addysg a gwyddonwyr. Sgyrsiau ysbrydoledig a gweithdai ymarferol fydd yn ymdrin ag ystod o bynciau gan gynnwys deinosoriaid, gwyddoniaeth ymarferol, rhywedd a Chemeg. Archebwch eich lle yma.
|