Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 11

25 Hydref 2019

 
 

Croeso

Dyma unfed ar ddeg rifyn y cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf a ninnau ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr. Os nad ydych wedi gweld y cylchlythyr o'r blaen, mae'n hen rifynnau i'w gweld ar y wefan. Os ydych yn rhannu'r cylchlythyr hwn gyda'ch rhwydweithiau eich hun, gallan nhw hefyd fynd i’r dudalen honno ar y we er mwyn tanysgrifio i gael y cylchlythyr.

Gwneud penderfyniadau

Ar ôl inni gyhoeddi’r cynllun, bydd dyletswydd statudol ar Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol i wneud penderfyniadau yn unol â’r strategaeth, oni bai bod ystyriaethau perthnasol eraill. Nodir y manylion yn adran 58 o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir (2009):

RPA
  • S.58(1) – A public authority must take any authorisation or enforcement decision which affect or might affect the whole or any part of the UK marine area in accordance with the appropriate marine policy documents* unless relevant considerations indicate otherwise.Gall rhai enghreifftiau o’r mathau hyn o benderfyniadau gynnwys: trwydded forol, caniatâd cynllunio; awdurdodiad i ollwng dŵr, cronni dŵr neu dynnu dŵr, Cynllun Rheoli Amgylcheddol; trwyddedau pysgodfeydd.
  • S.58(3) – A public authority must have regard to the appropriate marine policy documents in taking any decision which relates to the exercise of any function capable of affecting the whole or any part of the UK marine area. Gall rhai enghreifftiau o’r mathau hyn o benderfyniadau gynnwys: mesurau rheoli, rheoli strategol adnoddau morol, rheoli pysgodfeydd, llunio polisi, dynodiadau cadwraeth natur, penderfyniadau ariannu a trwyddedu.

*Y dogfennau polisi morol priodol yw unrhyw gynllun morol a’r Datganiad Polisi Morol.

Rydym wedi sefydlu Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol i hysbysu sefydliadau am y Cynllun Morol newydd ac i helpu Awdurdodau Cyhoeddus Perthnasol i ystyried sut y gallant gyflawni eu cyfrifoldebau statudol (er enghraifft o ran penderfyniadau ynghylch tir neu benderfyniadau trawsffiniol a allai effeithio ar ardal forol y DU), ac wrth wneud hynny, sicrhau y caiff Cynllun Morol cyntaf Cymru ei roi ar waith mewn ffordd effeithiol, effeithlon, amserol a chyson. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp ym mis Hydref 2018. Am ragor o wybodaeth am y grŵp, neu os ydych yn meddwl y dylai eich sefydliad fod yn aelod ohono, ewch i’n gwefan.

Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru yn Lansio

Mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru, lansiwyd Strategaeth Tystiolaeth Forol Cymru yn y digwyddiad “Tystiolaeth Amgylcheddol 2019 – Cynhadledd Tystiolaeth Forol' a gynhaliwyd gan Blatfform yr Amgylchedd Cymru ym mis Medi. Mae’r strategaeth hon ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn nodi ein blaenoriaethau o ran tystiolaeth forol lefel uchel sy’n angenrheidiol i fod yn sail i bolisïau a chynlluniau morol Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, gyda’r nod o ddwyn ynghyd rhanddeiliaid morol ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol i rannu arbenigedd a galluogi dull gweithredu effeithlon a chyfannol o ran casglu tystiolaeth ar draws y sector Morol.

wales marine

Agor Ardal Brofi Ynni Morol

Mae Ynni Morol Cymru wedi agor cam 1 ei brosiect Ardal Brofi Ynni Morol (META) ar gyfer busnesau. Gydag wyth o safleoedd sydd eisoes wedi derbyn cydsyniad o fewn a gerllaw Dyfrffordd y Ddau Gleddau, mae META yn anelu at helpu datblygwyr ddefnyddio, cael gwared o risg a datblygu eu technolegau ynni morol i ddefnyddio ynni enfawr y cefnffordd yn ehangach. Mae’r prosiect gwerth £1.9 miliwn yn cael ei gefnogi gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r Gronfa Cymunedau Arfordirol. Bu’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles yn y lansiad yn Noc Penfro. Gwrandewch ar y Gweinidog yma a darllenwch y datganiad i’r wasg yma. 

JM

Pa Ganllawiau Morol ydych chi eu hangen?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal arolwg o sut y gellid gwella eu canllawiau morol presennol. Maent am ddeall pa ganllawiau y mae rhanddeiliaid eu hangen ac mae’r arolwg yn ffordd ddefnyddiol o ddod o hyd i’r wybodaeth drwy eu prosiect Canllawiau Gwaith Achosion Morol ac Arfordirol ehangach. Dewch o hyd i’r arolwg ar dudalen Canllawiau’n Ymwneud â’r Môr a’r Arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru ar y we a thrwy’r dolenni hyn: Cwblhau yn y Gymraeg neu Cwblhau yn Saesneg

NRW

Cysylltu

Cynhadledd Tystiolaeth Forol

Rhoddodd ein cydweithwyr Cynllunio Morol gyflwyniad yng nghynhadledd “Tystiolaeth Amgylcheddol 2019 – Tystiolaeth Forol” yn Abertawe fis Medi. Roedd Adrian Judd yn rhan o’r sesiwn â’r teitl “edrych ar ddefnyddio ein moroedd yn gynaliadwy drwy gynllunio morol yng Nghymru” oedd yn edrych ar sut y defnyddir tystiolaeth i gynorthwyo gyda cynllunio morol. Bu Rachel Mulholland yn cynnal gweithdy ar ystyriaethau trawsffiniol ym maes cynllunio morol a rheoli o dan arweiniad y Severn Estuary Partnership fel rhan o brosiect ‘hyrwyddo cysylltiad rhanddeiliaid’ yr MMO.

Game

Cydweithio ar draws ffiniau

Bu cynrychiolwyr o dîm Cynllunio Morol Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Rheoli Morol yn cyflwyno ar y cyd ar bwysigrwydd aberoedd ac ystyriaethau trawsffiniol wrth gynllunio a rheoli yn y gweithdy Ar draws Traethau’r Ddyfrdwy ym mis Medi. Rhoddodd Rachel Mulholland o Lywodraeth Cymru drosolwg o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru a’r newyddion diweddaraf ar gynnydd, a bu Ed Wright o’r MMO yn cyflwynlo’r newyddion diweddaraf ar Gynllun Morol Gogledd Lloegr a chynlluniau eraill yn Lloegr. Wrth i’n Cynlluniau Morol ddatblygu, bydd gennym gysylltiadau cryf â’r MMO o hyd, yn enwedig gan bod cynlluniau y Gogledd-orllewin a’r De-orllewin wedi’u datblygu.

gt

Cymru, Cernyw ac Iwerddon yn cydweithio i sefydlu prosiectau tyrbinau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd

Llofnodwyd cytundeb cydweithredu gan sefydliadau yng Nghymru, Cernyw ac Iwerddon yn amlinellu ymrwymiad i gydweithio i ddatblygu prosiectau tyrbinau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, sydd â’r capasiti i gynhyrchu tuag un ran o dair o ofynion ynni adnewyddadwy ychwanegol y DU tra’n helpu i gyflawni targedau carbon isel. Llofnodwyd yr ymrwymiad gan Bartneriaeth Menter Lleol Cernyw ac Ynysoedd Scilly, Ynni Môr Cymru a Chymdeithas Diwydiant Ynni Morol Adnewyddadwy Iwerddon, a chyhoeddwyd y cytundeb gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn y Gynhadledd Ynni Morol yn Nulyn. Darllenwch ragor.

celtic sea

Ymgyngoriadau: Mynegi eich barn

Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol

Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar gyngor newydd ar gyfer datblygu mewn ardaloedd sydd wrth risg llifogydd ac erydu arfordirol. Rydym yn bwriadu:

  • disodli'r map cyngor datblygu gyda map llifogydd Cymru newydd
  • rhoi mwy o bwyslais ar y cynllun datblygu a'r angen am asesiadau strategol o ganlyniadau llifogydd
  • integreiddio canllawiau ar erydu arfordirol gyda chyngor ar lifogydd yn TAN 15
  • darparu canllawiau ar fentrau adfywio sy'n effeithio ar gymunedau lle ceir perygl llifogydd

Mynegwch eich barn erbyn 17 Ionawr 2020

flooding

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol draft (estyniad i'r cyfnod ymgynghori)

Mae'r NDF yn gynllun datblygu tir newydd fydd yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru rhwng 2020 a 2040. Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Cynllun Morol Cenedlaethol yn nodi'r cyfleoedd ac yn llywio datblygiadau ar y tir a'r môr, gan gefnogi y broses o wneud penderfyniadau a chydweithio ar draws ffiniau ar y môr a'r tir. Caiff y cysylltiadau rhwng y ddwy drefn gynllunio eu hegluro yn y ffeithlun hwn.

Mynegwch eich barn erbyn 15 Tachwedd

NDF

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://llyw.cymru/cynllunio-morol

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural