Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - Rhifyn 10

9 Hydref 2019

 
 

Croeso

Dyma degfed rifyn y cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf a ninnau ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr. Os nad ydych wedi gweld y cylchlythyr o'r blaen, mae'n hen rifynnau i'w gweld ar y wefan. Os ydych yn rhannu'r cylchlythyr hwn gyda'ch rhwydweithiau eich hun, gallan nhw hefyd fynd i’r dudalen honno ar y we er mwyn tanysgrifio i gael y cylchlythyr.

Lesley Griffiths yn pwysleisio pa mor bwysig yw Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn y Gynhadledd ar Ynni’r Môr

Gwnaeth Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths bwysleisio pa mor bwysig yw Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru a'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Newydd wrth ddarparu strategaeth cynllunio ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy yn y dyfodol, ar y tir ac oddi arni. Yn ei haraith yn y Gynhadledd ar Ynni'r Môr yn Nulyn ar 30 Medi, dywedodd y gweinidog fod gan ynni'r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy'n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Yn ystod y flwyddyn diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn deg prosiect i gynyddu capasiti yng Nghymru. Darllenwch fwy

Conference

Y cynnydd a wneir ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru

Bwriedir cyhoeddi Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru ym mis hydref 2019. Pan fydd y cynllun yn cael ei gyhoeddi bydd cyfres o ddogfennau cysylltiedig, gan gynnwys:

  • Crynodeb o newidiadau i'r Cynllun
  • Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd
  • Gwerthusiad o Gynaliadwyedd
  • Atodiad i'r Gwerthusiad o Gynaliadwyedd

Darperir deunyddiau atodol eraill ar ôl mabwysiadu'r Cynllun, gan gynnwys:

  • Canllawiau ar Weithredu
  • Fframwaith Monitro ac Adrodd
  • Diweddariadau i'r Porth Cynllunio Morol
  • Diweddariadau i Adroddiad Tystiolaeth Forol Cymru
  • Datganiad ar y Gwerthusiad o Gynaliadwyedd ar ôl Mabwysiadu’r Cynllun
cymtru

Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio

Mae'r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Cynllunio Morol yn gweithredu fel 'ffrind beirniadol’ yn ystod y broses cynllunio morol, ac yn rhoi cyngor inni ar ddulliau cynllunio morol ac allbynnau cynllunio penodol. Cyfarfu'r grŵp ar 4 Medi i roi mewnbwn i'r Datganiad Ardal Forol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei baratoi ac i ystyried un o'r pedair thema sy'n derbyn sylw o dan y Datganiad Ardal hwn. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) mae'n ofynnol i Gyfoeth Naturiol Cymru greu Datganiadau Ardal. Diben Datganiadau Ardal yw hwyluso'r gwaith o weithredu Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar leoedd. Gwnaethant hefyd drafod y dull gofodol ar gyfer gweithredu cynigion. Mae crynodeb o'r cyfarfod yma.

SRG

Busnes yn Abertawe yn sicrhau £12 miliwn o gyllid gan yr UE ar gyfer prosiect ynni'r tonnau

Mae mwy na £12 miliwn o gyllid gan yr UE yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun mawr i gynhyrchu ynni glân o donnau'r môr. Bydd y cyllid yn cefnogi cam nesaf prosiect Marine Power Systems, cwmni a leolir yn Abertawe, i greu a lansio dyfais danddwr sy'n gallu creu ynni glân, fforddiadwy y gellir dibynnu arno yng Nghymru a ledled y byd. Cafodd y ddyfais WaveSub ei chreu gan y graddedigion o Brifysgol Abertawe Dr Gareth Stockman a Dr Graham Foster, a sefydlodd Marine Power Systems yn 2008. Darllenwch fwy

12

TCE yn lansio y cylch prydlesu gwynt ar y môr cyntaf mawr yn y DU mewn degawd

Mae Ystad y Goron wedi lansio Cylch Prydlesu Gwynt ar y Môr 4, gan agor y posibilrwydd ar gyfer o leiaf 7 GW o hawliau newydd ar wely'r môr ar gyfer datblygiad gwynt ar y môr yn y dyfroedd ger Cymru a Lloegr - digon i fodloni anghenion trydan dros chwe miliwn o gartrefi. Mae Ystad y Goron, sy'n gweithredu fel rheolwr gwely'r môr ger Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn paratoi pedair ardal eang o welyau'r môr i fod ar gael i'r farchnad, y bydd datblygwyr posibl yn cael y cyfle i wneud cais am safleoedd ar gyfer prosiectau o fewn iddynt.

TCE

Gan gydweithio â rhanddeiliaid, cynhaliwyd dadansoddiad eang o'r adnodd technegol a'r cyfyngiadau ar wely'r môr i ddeall pa ardaloedd sy'n debygol o gynnig yr adnodd gorau ar gyfer datblygiadau gwynt ar y môr ar hyn o bryd. Mae Ardal Ymgeisio 4 yn cynnwys Môr Gogledd Cymru ac Iwerddon. Dechreuodd proses dendro Cylch 4 ym mis Hydref 2019 a bydd yn rhedeg tan yr hydref 2020. Darllenwch fwy.

MAPS

Gweithdrefnau Cynllunio Daearol a Morol

Ym mis Awst cafodd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (NDF) drafft ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Mae'r NDF yn gynllun datblygu tir newydd fydd yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru rhwng 2020 a 2040. Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Cynllun Morol Cenedlaethol yn nodi'r cyfleoedd ac yn llywio datblygiadau ar y tir a'r môr, gan gefnogi y broses o wneud penderfyniadau a chydweithio ar draws ffiniau ar y môr a'r tir. Caiff y cysylltiadau rhwng y ddwy drefn gynllunio eu hegluro yn y ffeithlun hwn.

NDF

Mae gennych tan 1 Tachwedd i ymateb i'r ymgynghoriad. Os hoffech ragor o wybodaeth ewch i'r wefan. Gellir cysylltu â tîm NDF drwy anfon e-bost at ndf@gov.wales.

NDF

Prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru i lunio Canllawiau ar Waith Achos Morol ac Arfordirol

Cafodd prosiect Cyfoeth Naturiol Cymru i lunio Canllawiau ar Waith Achos Morol ac Arfordirol ei ddechrau yn 2016. Y nod oedd datblygu canllawiau cyson a chymesur a fydd yn helpu gyda'r gwaith o weithredu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Mae'r canllawiau sydd wedi cael eu datblygu hyd yn hyn ar gael yma ac maent yn cynnwys:

nrw
  • Canllawiau i helpu ymgeiswyr i baratoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer asesiadau amgylcheddol, e.e. canllawiau ar setiau data ar gynefinoedd benthig sydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, arolygon o gynefinoedd benthig a chynaeafu gwymon;
  • Canllawiau ar weithredu'r rheoliadau newydd sy'n llywodraethu Asesu Effeithiau Amgylcheddol;
  • Canllawiau sy'n egluro'r broses ar gyfer gwneud cais am drwydded forol.

Wrth i'r cam gweithredu cynllunio morol ddatblygu, felly bydd yr anghenion o ran canllawiau. Felly, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn diweddaru’r canllawiau sydd eisoes yn bodoli ac yn creu canllawiau newydd yn ôl yr angen. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal arolwg i nodi'r hyn mae angen canllawiau arnynt, a bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu â rhanddeiliaid maes o law. Yn y cyfamser, os oes rhywbeth rydych yn credu y gallai canllawiau gan Gyfoeth Naturiol Cymru helpu gydag ef, anfonwch e-bost at Chloe Wenman.

Pysgodfeydd a Brexit

Wrth i'r DU baratoi i ymadael âr UE ar 31 Hydref, mae'n gyfnod o newid ac ansicrwydd i'r diwydiant pysgota. Rydym wedi creu bwletin i roi'r newyddion diweddaraf i randdeiliaid ar ba gymorth sydd ar gael, i helpu i baratoi eich busnes a helpu ichi ddeall goblygiadau Brexit i'r diwydiant pysgota yng Nghymru. Cofrestrwch yma.

EU

Ar 1 Hydref cyflwynodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ddatganiad llafar yn y Senedd ar Paratoi sector yr economi wledig a physgodfeydd ar gyfer Brexit 'heb gytundeb''. Gan ddatgan y byddai "gadael yr Undeb Ewropeaidd heb fargen yn cael effaith andwyol ar unwaith a hirdymor ar gymunedau gwledig. Mae'r Llywodraeth wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro na allwn adael heb gytundeb sy'n diogelu buddiannau'r amgylchedd, busnesau a dinasyddion". Gweler y trawsgrifiad yma.

SENEDD

Bu'r Gweinidog hefyd yn bresennol yn y grŵp rhyngweinidogol ar yr amgylchedd, bwyd a materion gwledig ar 9 Medi yn Llundain. Cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Theresa Villiers AS gan ganolbwyntio ar amrywiol effeithiau yr ansicrwydd parhaol ynghylch pryd a sut y bydd y DU yn ymadael â'r UE ac yn benodol effaith gadael heb gytundeb. Darllenwch fwy

LG

Cysylltwch a ni

Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:

marineplanning@llyw.cymru

https://llyw.cymru/cynllunio-morol

 
 
 

AMDANOM NI

Rydym yn gweithio ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru gyntaf sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru am yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer defnyddio’n moroedd yn gynaliadwy.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd

Dilyn ar-lein:

@LlC_pysgodfeydd

@WGMIN_rural