Croeso i rifyn 10 y Bwletin Pysgodfeydd a Brexit. Wrth i'r DU baratoi ar gyfer gadael yr UE ar 31 Hydref, mae'n gyfnod o newid ac ansicrwydd mawr i'r diwydiant pysgota. Mae'n bwysig eich bod yn dal ati i baratoi'ch busnes ar gyfer Brexit. Nod y bwletin hwn yw'ch helpu gyda'r paratoadau hynny, a'ch helpu hefyd i ddeall y gofynion a'r cymorth sydd ar gael. |
|
|
Ers mis Tachwedd 2018, rydym wedi bod yn annog cynifer o bobl â phosib i danysgrifio i'r Bwletin Pysgodfeydd a Brexit https://llyw.cymru/cofrestrwch-i-fwletin-pysgodfeydd-brexit.
Os byddwn yn gadael yr UE ar 31 Hydref heb gytundeb, bydd y DU yn cael ei chyfrif fel 'trydedd wlad' a bydd yn rhaid i fusnesau sydd am fasnachu â'r UE gydymffurfio â rheolau a rheoliadau newydd.
Tystysgrifau Dalfeydd
Pan fyddwn ni'n gadael yr UE ar 31 Hydref, bydd trefniadau masnachu'r DU â'r UE yn newid, a bydd yn rhaid i fusnesau gydymffurfio â rheolau a rheoliadau'r UE.
Os bydd Brexit heb gytundeb, bydd angen 'tystysgrif dalfa'r DU' ar y rhan fwyaf o lwythi o bysgod fydd yn cael eu hallforio i'r UE, hynny er mwyn atal pysgota anghyfreithlon. Ni fydd angen tystysgrif dalfa ar rai mathau o gynnyrch dyframaethu, pysgod dŵr croyw rhai molysgiaid, sil pysgod neu larfâu.
Os daw'r pysgod o wlad arall i'w prosesu neu eu storio yn y DU cyn eu hallforio, bydd angen datganiad prosesu neu ddogfen storio yn ogystal â'r dystysgrif dalfa.
Bydd yn rhaid i allforwyr pysgod sicrhau bod eu cynnyrch yn bodloni safonau iechyd yr UE cyn eu hallforio. Bydd hynny'n golygu cael Tystysgrif Iechyd Allforio a sicrhau bod y cynnyrch yn cael eu hanfon i'w hallforio o Eiddo sydd wedi'i Gymeradwyo gan yr UE. Rhaid i gynnyrch sy'n cael eu hallforio i'r UE fynd trwy Fan Archwilio ar y Ffin a bydd yn rhaid rhoi gwybod iddo ymlaen llaw.
Mae'r Llywodraeth wedi datblygu gwasanaeth ar-lein newydd er mwyn i fusnesau allu llenwi tystysgrifau dalfeydd a dogfennau eraill ar-lein. Mae'r gwasanaeth Allforio Pysgod ar gael ar GOV.UK a bydd angen i allforwyr bwyd môr gofrestru cyn 31 Hydref os ydyn nhw am barhau i allforio.
Bydd yn cymryd rhyw 15 munud ichi gofrestru a dim ond unwaith y bydd angen ichi wneud. Ar ôl ichi gofrestru, gallwch ymarfer defnyddio'r gwasanaeth cyn ei fod yn dod yn orfodol.
Am ragor o wybodaeth am allforio pysgod i'r UE os bydd Brexit heb gytundeb, ewch i https://www.gov.uk/guidance/exporting-and-importing-fish-if-theres-no-brexit-deal
Os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb, gallai'r amodau masnachu newid. Rydyn ni wedi paratoi rhestr o bethau y bydd gofyn ichi eu hystyried os byddwch yn allforio i'r UE fel Trydedd Wlad.
Canllaw yn unig yw'r rhestr a chyfrifoldeb pob allforiwr yw sicrhau bod ganddo'r dogfennau angenrheidiol ar gyfer pob llwyth y bydd yn ei allforio.
https://llyw.cymru/rhestr-wirio-ar-gyfer-allforwyr-pysgota
Mae gwefan Llywodraeth Cymru, Paratoi Cymru, yn un lle y gallwch fynd iddo am wybodaeth a chyngor am ffermio, busnes, yr amgylchedd a mwy.
https://llyw.cymru/paratoi-cymru-brexit/pysgodfeydd-a-masnach
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) mewn partneriaeth â Seafish a'r Sefydliad Rheoli Morol (MMO) yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ledled Lloegr i helpu masnachwyr a phroseswyr bwyd môr i fod yn barod i fasnachu â gwledydd y tu allan i'r UE.
Cynhelir sesiynau ymarferol ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys tystysgrifau dalfeydd, labelu bwyd a threfniadau'r tollau. Caiff y digwyddiadau eu cynnal ledled Lloegr ym misoedd Medi a Hydref: Plymouth (4 Medi), Newlyn (5 Medi), Grimsby (11 Medi), Scarborough (12 Medi), Fleetwood (26 Medi), a Llundain (4 Hydref).
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cysylltu'n uniongyrchol ag allforwyr.
Fersiynau wedi'u diweddaru o becynnau partneriaeth yr HMRC sydd wedi'u hanfon at randdeiliaid a chanolwyr i helpu i baratoi busnesau ar gyfer Brexit heb gytundeb.
https://www.gov.uk/government/publications/partnership-pack-preparing-for-a-no-deal-eu-exit
Cronfa Arloesi Bwyd Môr
https://www.gov.uk/guidance/uk-seafood-innovation-fund
Cwestiynau ac Atebion
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi cwestiynau ac atebion am bysgodfeydd ac am adael yr UE.
https://ec.europa.eu/info/sites/info/files/fisheries-qanda_en.pdf
Y Môr a Physgodfeydd https://beta.llyw.cymru/y-mor-a-physgodfeydd
Cymdeithas Pysgotwyr Cymru http://wfa-cpc.wales/home
Paratoi Cymru https://llyw.cymru/paratoi-cymru-brexit/pysgodfeydd-a-masnach
The Fishermen’s Mission https://www.fishermensmission.org.uk/
Porth Brexit https://businesswales.gov.wales/brexit/cy/
Y Cyfryngau Cymdeithasol https://twitter.com/@LlC_pysgodfeydd https://twitter.com/@WG_Fisheries
|