|
Dyma nawfed rifyn y cylchlythyr i gadw'ch bys ar bỳls y datblygiadau diweddaraf a ninnau ar drothwy mabwysiadu a gweithredu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru (CMCC). Wrth inni gaboli'r cynllun, rydyn ni am wneud yn siŵr ein bod yn cynnwys barn rhanddeiliaid, felly da chi, cysylltwch â ni neu rhannwch y cylchlythyr hwn â'ch rhwydweithiau. Fe welwch y manylion cysylltu wrth droed y cylchlythyr. Os nad ydych wedi gweld y cylchlythyr o'r blaen, mae'n hen rifynnau i'w gweld ar y wefan. Os ydych yn rhannu'r cylchlythyr hwn gyda'ch rhwydweithiau eich hun, gallan nhw hefyd fynd i’r dudalen honno ar y we er mwyn tanysgrifio i gael y cylchlythyr.
Fis diwethaf gwnaethom roi diweddariad i chi ar hynt y gwaith o lunio Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru. Cyn hir bydd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn ystyried y cynllun terfynol i'w fabwysiadu. Yn dilyn hyn, byddwn yn ceisio cymeradwyaeth Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), oherwydd bod nifer o swyddogaethau yng Nghynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn rhai a gedwir yn ôl. |
|
|
Wrth i’r cynllun symud ymlaen i gael ei fabwysiadu rydym yn parhau i gyfarfod ac ymgysylltu drwy’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Morol (MPSRG) a’r Grŵp Penderfynwyr Cynllunio Morol (MPDMG). Rydym hefyd wedi llunio dogfen Cwestiynau Cyffredin. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach y credwch y byddai’n ddefnyddiol mynd i’r afael â hwy anfonwch e-bost atom.
Mae hi eisoes wedi bod yn haf prysur ar gyfer y rhaglen waith rheoli adnoddau naturiol morol yn gynaliadwy, sy'n mynd rhagddo yn llwyddiannus ac sy’n cael ei hariannu drwy Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF). Mae ABPmer yn parhau i dynnu ynghyd y sail dystiolaeth amgylcheddol ar gyfer ynni ffrydiau llanw, ynni llanw a dyframaethu yng Nghymru. Er gwaethaf rhywfaint o dywydd garw yn ystod mis Gorffennaf, mae arolygon amlbelydrau wedi'u cynnal oddi ar arfordir gogledd-orllewin Sir Benfro ac arfordir gorllewinol Ynys Môn. |
|
|
Cyn hir bydd data a gasglwyd o'r arolygon hyn yn cael eu hategu gan arolygon fideo o dan y dŵr fel y bo modd mynd ati ar raddfa eang i bennu nodweddion y cynefinoedd benthig yn yr ardaloedd hyn. Bydd y data newydd hyn, ynghyd â'r dystiolaeth berthnasol a nodwyd eisoes yn y sail dystiolaeth ar gyfer prosiect amgylchedd morol Cymru yn cael eu defnyddio i lywio asesiadau o gyfyngiadau a chyfleoedd amgylcheddol sy'n berthnasol i ddatblygiad y sectorau hyn. Mae gwaith perthnasol yn mynd rhagddo o ran y diwydiant agregau. Rhagor o wybodaeth |
|
|
Ym mis Awst, cyhoeddodd Lesley Griffiths y Cynllun Gweithredu ar gyfer Rheoli'r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig rhwng 2019-2020. Mae'n dangos ein hymrwymiad i gyfoethogi bioamrywiaeth forol Cymru, ac ar yr un pryd cymeradwywyd arian ychwanegol o £138,500 i dalu am bedwar cam rheoli. Mae rheoli ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn gyfrifoldeb a rennir ar draws nifer o awdurdodau rheoli ac mae Cynllun Gweithredu 2019-2020 yn ffrwyth cryn dipyn o waith gan y Grŵp Llywio Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Rhagor o wybodaeth |
|
|
Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft wedi cael ei gyhoeddi at ddibenion ymgynghori. Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn gynllun datblygu tir newydd a fydd yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru rhwng 2020 a 2040. Mae'n gosod strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol drwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, datgarboneiddio, datblygu ecosystemau cadarn a gwella iechyd a llesiant ein cymunedau. Mae'n gynllun gofodol, sy'n golygu ei fod yn pennu cyfeiriad o ran lle dylem fuddsoddi mewn seilwaith a datblygu er budd cyffredinol Cymru a'i phobl. |
|
|
Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r Cynllun Morol yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu fframwaith ar gyfer rheoli newid o amgylch ein harfordir. Mae cydlynu rhwng cynllunio morol a daearol yn bwysig er mwyn cynnal a hwyluso'r gwaith o ddatblygu busnesau porthladd, harbwr a marina a'r mentrau cysylltiedig; cymunedau arfordirol; cyfleoedd twristiaeth; creu ynni; a morweddau. Mae Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru wedi llywio'r gwaith o baratoi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a, lle bo hynny'n berthnasol, dylai lywio Cynlluniau Datblygu Lleol a Strategol a phenderfyniadau a wneir yn ystod y broses rheoli datblygu. |
|
|
Mae gennych tan 1 Tachwedd i ymateb i'r ymgynghoriad, ac mae cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori'n cael eu cynnal yn ystod mis Medi a mis Hydref ledled Cymru, er mwyn ichi siarad â'r tîm sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â chyflawni'r gwaith hwn. Mae croeso ichi ddod ond nodwch fod y sesiynau hyn yn dibynnu ar alw a bydd rhaid ichi archebu eich lle. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu i archebu lle, cysylltwch â'r tîm. Ewch i'r wefan am ragor o wybodaeth. |
|
|
O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), mae'n ofynnol i Cyfoeth Naturiol Cymru greu Datganiadau Ardal. Amcan Datganiadau Ardal yw hwyluso’r gwaith o gyflenwi Polisi Adnoddau Naturiol Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar leoedd. Gan gydnabod bod gan yr amgylchedd morol ei risgiau, heriau a chyfleoedd unigryw ei hun, bydd un o'r saith Datganiad Ardal ar gyfer ardal forol y glannau. Gan weithio gyda rhanddeiliaid byddant yn nodi'r camau blaenoriaeth ar gyfer rheoli moroedd Cymru mewn modd cynaliadwy. |
|
|
Yn ddiweddar mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi ‘Proffil Ardal’ sy'n crynhoi'r wybodaeth ar adnoddau naturiol morol ac arfordirol Cymru a rhai o'r manteision y maent yn eu cynnig. Mae’r gwaith ymgysylltu hefyd wedi dechrau drwy Grŵp Cynghori a Gweithredu Cymru ar Faterion Morol i nodi'r themâu sy'n dod i'r amlwg ar gyfer y Datganiad Ardal Forol:
-
Datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ac addasu arfordirol: beth sydd angen digwydd i sicrhau bod gan Gymru forlin sy’n gallu gwrthsefyll newid hinsawdd yn y dyfodol ac sy'n gallu darparu nifer o fanteision.
-
Sicrhau bod ecosystemau morol yn fwy cydnerth: beth sydd angen digwydd i ddatblygu rhwydweithiau sy'n ecolegol gydnerth a sicrhau Statws Amgylcheddol Da ar gyfer moroedd Cymru.
-
Cefnogi’r gwaith o weithredu cynllunio morol: beth sydd angen digwydd i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i wella’r ffordd y rheolir adnoddau morol o dan y fframwaith cynllunio newydd?
Yn ystod mis Medi a mis Hydref, bydd gwaith ymgysylltu yn digwydd gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i archwilio'r themâu hyn ac i gydweithio i nodi pa gamau gweithredu i ganolbwyntio arnynt. Os hoffech glywed mwy am y gwaith ymgysylltu hwn neu am y Datganiad Ardal Forol, cysylltwch â marine.as@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae prosiect peilot sydd wedi'i gynllunio i helpu cymunedau arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon i addasu i’r newid yn yr hinsawdd wedi cael cymorth €1.3m o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd (yr UE). Bydd y prosiect Cymunedau Arfordirol yn Addasu Gyda'n Gilydd yn edrych ar oblygiadau rhanbarthol y newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar gymunedau arfordirol Aberdaugleddau a Doc Penfro yng Nghymru a Rush a Portrane yn Swydd Fingal, Iwerddon. Bydd hefyd yn edrych am gyfleoedd masnachol ar gyfer ynni'r môr o Fôr Iwerddon, gan geisio atebion creadigol i broblemau newid yn yr hinsawdd sy’n bwysig yn fyd-eang. Rhagor o wybodaeth |
|
|
Mae'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, wedi croesawu buddsoddiad gwerth €4.2m gan yr UE mewn prosiect trawsffiniol i hybu diwydiant ynni'r môr yng Nghymru ac yn Iwerddon. Bydd y prosiect Selkie, a ariennir gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru yr UE, yn dod ag ymchwilwyr a busnesau arweiniol o'r ddwy wlad ynghyd i greu technolegau i helpu i wella perfformiad dyfeisiadau ynni'r môr sy'n cael eu datblygu gan fusnesau yng Nghymru ac yn Iwerddon. Rhagor o wybodaeth |
|
|
Polisïau morol a physgodfeydd ar gyfer Cymru ar ôl Brexit
Bydd Brexit a'n Moroedd yn llywio ein polisi ynghylch pysgodfeydd yn y dyfodol, a hynny wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wrthi'n ymgynghori ynghylch y cam cyntaf o ran creu polisi newydd, trefn o reoli a deddfwriaeth. Rydym am glywed eich barn chi am y canlynol:
- rheoli pysgodfeydd
- pysgodfeydd cynaliadwy
- cyfleoedd pysgota
- pysgod cregyn a dyframaethu
- masnach
- twf ac arloesedd
- cynaliadwyedd fflyd
- tystiolaeth
- cymorth ariannol
Mynegwch eich barn erbyn 21 Awst 2019.
|
|
|
Mesurau rheoli ar gyfer rhywogaethau goresgynnol estron sydd wedi lledaenu'n helaeth yng Nghymru a Lloegr
Hoffem glywed eich barn ynghylch mesurau rheoli ar gyfer 14 o rywogaethau goresgynnol estron. Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys rhywogaeth a ganfyddir yn yr amgylchedd morol, sef cranc manegog Tsieina. Rydym yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ar fesurau rheoli arfaethedig â'r nod:
- waredu
- rheoli poblogaethau
- atal rhag lledaenu
Mynegwch eich barn erbyn 12 Medi 2019.
|
|
|
Cysylltwch a ni
Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau:
marineplanning@llyw.cymru
https://llyw.cymru/cynllunio-morol
|
|